1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Mawrth 2017.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen waith Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru rhwng nawr a phan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0501(FM)
Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn parhau i weithredu ein rhaglenni ariannu'r UE, fel y cytunwyd gyda'r Comisiwn Ewropeaidd, i ddarparu swyddi a thwf. Mae bron i ddwy ran o dair o'r arian wedi cael ei ymrwymo hyd yn hyn, a’n nod yw buddsoddi holl arian yr UE sydd ar gael i Gymru erbyn dechrau 2019.
Diolch am y diweddariad yna. Efallai eich bod eisoes yn gwybod, yn ogystal â nodi y dylai arian cyfatebol ddod i Gymru ar ôl ymadael, bod tystion sydd wedi rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor materion allanol wedi dweud bod hwn yn gyfle i wneud pethau'n wahanol o ran cyllid rhanbarthol. A allwch chi ddweud wrthyf faint o'r ceisiadau sydd gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ar hyn o bryd sy’n seiliedig ar y sector preifat yn cymryd yr awenau cyflenwi? A pha gyngor y mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn ei roi i gynigwyr am yr arian hwnnw sy’n weddill i wneud yn siŵr bod ei phrosiectau hirdymor yn ddigon hyblyg yn strwythurol—efallai y caf i ei roi felly—i wneud yn siŵr y gallant bara unwaith y bydd dyddiau’r Comisiwn o gyfeirio cyllid rhanbarthol wedi mynd heibio?
Wel, yn amlwg, mae prosiectau UE gwerth sawl miliwn yn cynnwys prentisiaethau Busnes Cymru, sy’n uniongyrchol berthnasol i'r sector preifat, gweithle’r de-orllewin a mwy, y byddwch yn ymwybodol iawn ohono yn eich rhanbarth chi, yn cael effaith trwy roi hwb i fusnesau, gan eu helpu i gynyddu rhagolygon gwaith a sgiliau ein pobl, ond gan sicrhau hefyd, trwy’r pwyllgor monitro rhaglenni, ein bod ni’n ymgysylltu'n llawn â rhanddeiliaid o Gymru, gan gynnwys y sector preifat o ran safbwynt Cymru cyffredin ar drefniadau ar gyfer ariannu rhanbarthol yng Nghymru yn y dyfodol. Mae hynny'n hollbwysig—mae’r PMC yn cael ei gadeirio gan Julie Morgan—o ran diogelu’r buddsoddiadau hynny.
Arweinydd y tŷ, fel y nododd Suzy Davies, mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn gweithredu yn unol â rheolau polisi rhanbarthol yr UE ar hyn o bryd, ond mewn dwy flynedd nid ydynt yn mynd i fod yno, i bob pwrpas. Yr hyn rwy'n ei ofyn yw: pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch polisi rhanbarthol yn y dyfodol, ac a ydych chi’n achub ar y cyfle i fod yn greadigol yn yr agenda i sicrhau y gall yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru fod mewn gwirionedd yn unigryw i Gymru?
Rwy’n meddwl bod ein Papur Gwyn, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, yn hanfodol bwysig gan ei fod yn cyflwyno’r hyn a wnaethom yn eglur o ran datblygiad economaidd rhanbarthol—. Mae'n eglur iawn, iawn bod hwnnw'n gymhwysedd datganoledig, ac mae'n rhaid iddo aros felly. Byddem yn gwrthsefyll yn gadarn unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i wrthdroi unrhyw fath o ddatganoli a chymryd rheolaeth dros bolisi rhanbarthol. Felly, rwy'n falch fy mod i wedi cael y cyfle i roi hynny ar y cofnod heddiw. Mae'n bwysig bod gennym ni ein hymgysylltiad drwy’r Cydbwyllgor Gweinidogion ar drafodaethau Ewropeaidd, lle mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn ein cynrychioli ni. Ef a gyflwynodd ein Papur Gwyn yn eu cyfarfod ar 8 Chwefror.