Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 14 Mawrth 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r mecanweithiau hyn yn rhan o’r traddodiad cydweithredol balch iawn o hyrwyddo menter leol a budd cymdeithasol, ac yn benodol, am resymau technegol, maen nhw’n haws eu defnyddio ac yn fwy hyblyg na dulliau elusennol traddodiadol, a all fod yn llwybrau ariannu amgen. Ac maen nhw'n ffordd wych o hyrwyddo cynlluniau cymunedol yn arbennig, ac maen nhw’n cadw incwm ac, yn bwysig, asedau, yn y gymuned leol. Rwy’n cymeradwyo'r ymdrechion sydd wedi eu gwneud yn y sector dielw, ond rwy’n meddwl y byddai rhywfaint o hwb gan y Llywodraeth yn y maes hwn yn cael ei groesawu hefyd.