Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 14 Mawrth 2017.
Rwy’n cytuno â'r holl bwyntiau y mae’r Aelod wedi eu gwneud. Mae'r gwasanaeth ynni lleol wedi cefnogi cynigion cyfranddaliadau cymunedol sydd wedi codi dros £5.5 miliwn ers 2010, a byddwch yn ymwybodol iawn o lawer o’r prosiectau cymunedol hynny, ond rydym ni eisiau gweld datblygwyr masnachol yn gweithio'n agosach â chymunedau ar berchnogaeth a buddsoddiad a rennir. Rwy’n meddwl, yn bwysig—ac rydych chi’n sôn am y model cydweithredol: wel, rydym ni’n falch iawn o fod â Chanolfan Cydweithredol Cymru, yr ydym ni’n ei chefnogi i sefydlu Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru, ac mae hynny’n helpu cymunedau i rannu profiad o sut y gallant ddatblygu’r gwasanaethau ynni lleol hyn.