<p>Prif Weinidog yr Alban</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 14 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:17, 14 Mawrth 2017

Diolch yn fawr am yr ateb, ac rwyf yn sicr bod y Prif Weinidog wedi cael sgwrs ddiddorol, fel bob amser, â Phrif Weinidog yr Alban. Ond oherwydd bod yna gymaint yn gyffredin, arweinydd y tŷ, rhwng Papur Gwyn Llywodraeth yr Alban cyn y Nadolig, ‘Scotland’s Place in Europe’, a phapur coch Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ‘Diogelu Dyfodol Cymru: Pontio o’r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd ag Ewrop’, a yw Llywodraeth Cymru yn gweld y pwysigrwydd, beth bynnag fydd penderfyniad yr Alban ynglŷn â’i dyfodol cyfansoddiadol—a mater iddyn nhw yw hynny, wrth gwrs—fod yna le i gydweithio yn y trafodaethau presennol o fewn y Deyrnas Unedig, a rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, yn arbennig i ddiogelu mynediad dilyffethair i’r farchnad sengl ar gyfer y ddwy wlad?