1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 14 Mawrth 2017.
Lywydd, a gaf i ofyn i arweinydd y tŷ, yn ateb ar ran y Prif Weinidog heddiw:
9. Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i gwrdd â Phrif Weinidog yr Alban i drafod y berthynas â'r Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0496(FM)[W]
Siaradodd y Prif Weinidog â Phrif Weinidog yr Alban ddoe ac mae'n parhau i gael trafodaethau rheolaidd â hi, yn ddwyochrog ac yng nghyfarfodydd Cydbwyllgor y Gweinidogion a'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig.
Diolch yn fawr am yr ateb, ac rwyf yn sicr bod y Prif Weinidog wedi cael sgwrs ddiddorol, fel bob amser, â Phrif Weinidog yr Alban. Ond oherwydd bod yna gymaint yn gyffredin, arweinydd y tŷ, rhwng Papur Gwyn Llywodraeth yr Alban cyn y Nadolig, ‘Scotland’s Place in Europe’, a phapur coch Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ‘Diogelu Dyfodol Cymru: Pontio o’r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd ag Ewrop’, a yw Llywodraeth Cymru yn gweld y pwysigrwydd, beth bynnag fydd penderfyniad yr Alban ynglŷn â’i dyfodol cyfansoddiadol—a mater iddyn nhw yw hynny, wrth gwrs—fod yna le i gydweithio yn y trafodaethau presennol o fewn y Deyrnas Unedig, a rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, yn arbennig i ddiogelu mynediad dilyffethair i’r farchnad sengl ar gyfer y ddwy wlad?
Yn wir, ceir tir cyffredin sylweddol rhwng ein Papur Gwyn, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’ a'r dadansoddiad gan Lywodraeth yr Alban ar effaith ymadawiad y DU o’r UE. Yn benodol, mae ‘Scotland’s Place in Europe’ yn pwysleisio, fel yr ydym ninnau wedi ei wneud, pwysigrwydd economaidd y farchnad sengl, y cyfraniad hanfodol y mae gweithwyr mudol yn ei wneud i fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus, a'r angen hanfodol i barchu setliadau datganoli ac i ddatblygu trefniadau cyfansoddiadol newydd o fewn y DU. Ac, wrth gwrs, dyna lle mae'r Prif Weinidog wedi cymryd yr awenau wrth alw am y trefniadau hynny. Byddwch yn cofio ei alwad am gonfensiwn cyfansoddiadol, ac fe wnaeth gynnull uwchgynhadledd arbennig y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig fis Gorffennaf diwethaf i'n galluogi i barhau i drafod goblygiadau'r refferendwm ac yna i’n symud ymlaen o ran ffyrdd y gallwn weithio gyda'n gilydd a chryfhau ein lleisiau.
Diolch i arweinydd y tŷ.