10. 6. Dadl: Gwastraff Trefol ac Ailgylchu

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 14 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 5:15, 14 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Llywydd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Cymru ar y blaen o safbwynt ailgylchu a rheoli adnoddau. Cyhoeddwyd ddoe ein bod ni bellach yn ail yn Ewrop ac yn drydydd yn y byd. Mae hyn o ganlyniad i becyn cynhwysfawr o bolisïau a buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a chamau gweithredu llywodraeth leol a phobl ledled Cymru.

Mae polisi Cymru a Lloegr wedi ymwahanu ers datganoli yn 1999. Yn 1999, roedd Cymru yn ailgylchu 5 y cant o'n gwastraff. Roedd hyn tua’r un faint â Lloegr a'r Alban. Yn ystod hanner cyntaf 2016-17, roeddem yn ailgylchu 62 y cant o'n gwastraff. Roedd hyn yn well o lawer na Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn Lloegr, mae cyfraddau ailgylchu’n dirywio ac, y llynedd, roeddent o dan 44 y cant am y tro cyntaf ers 2011.

Heddiw, hoffwn osod yr agenda ar gyfer adeiladu ar y sefyllfa hon i fod y gorau yn y byd ac i sicrhau cymaint â phosibl o fuddion cysylltiedig o ran cyflogaeth, yr economi a’r amgylchedd. Mae Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed ailgylchu o 70 y cant yn 2024-25, yn ôl pob tebyg sawl blwyddyn o flaen yr amserlen.

Mae'r targed o 70 y cant, wrth gwrs, yn garreg filltir ar y daith at fod yn ddiwastraff erbyn 2050. Wrth baratoi ar gyfer strategaeth wastraff ddiwygiedig Cymru yn 2018, bydd y Gweinidog yn cyhoeddi ymgynghoriad cyn bo hir ar gyfeiriad ein taith o ran gwastraff ac ailgylchu. Bydd hyn yn cynnwys y posibilrwydd o ystyried targedau’r dyfodol, gan gynnwys gosod targed ailgylchu o 80 y cant i awdurdodau lleol.

Mae'r dadansoddiad o gyfansoddiad gwastraff a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2016 yn dangos bod bron i hanner y sbwriel y mae pobl yn ei roi yn eu biniau gwastraff gweddilliol yn ddefnydd sy’n hawdd ei ailgylchu. Mae hyn yn cynnwys gwastraff bwyd, papur, cerdyn, gwydr a metelau. Lywydd, mae cael cymaint o ddefnydd ailgylchadwy â phosibl allan o'n biniau sbwriel a'u rhoi mewn biniau ailgylchu yn un o amcanion allweddol y Llywodraeth hon. Pe byddai pawb yn rhoi pob defnydd ailgylchadwy yn y bin ailgylchu yn lle’r bin sbwriel, byddai'n gwella cyfradd ailgylchu i bron i 80 y cant. Byddai hefyd yn arbed arian i awdurdodau lleol drwy osgoi cost gwaredu, a gellir gwerthu o leiaf rhai o'r defnyddiau a gesglir i ennill incwm.

Yn 2015-16, roedd cyfanswm y gwariant ar wasanaethau gwastraff gan awdurdodau lleol ar ei lefel isaf ers 2009-10 ac, yn ystod yr un cyfnod, cynyddodd ailgylchu o 41 cant i 60 y cant. Gall mwy o ailgylchu gyfrannu at leihau costau darparu gwasanaethau, cyn belled â bod y gwasanaethau cywir yn cael eu cyflwyno.

Rydym yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol i gyflwyno’r mathau cywir o wasanaethau drwy'r rhaglen newid cydweithredol. Mae cymorth technegol a chyllid cyfalaf ar gael i awdurdodau lleol i'w helpu i gynllunio a gwneud newidiadau lle bo eu hangen. Mae hyn yn enghraifft o fantais ymagwedd Llywodraeth Cymru at ailgylchu. Drwy ymdrechion ein hawdurdodau lleol a thrigolion ledled y wlad, rydym yn lleihau'r costau, yn gwella’r effeithiau amgylcheddol, ac yn cynyddu gweithgarwch economaidd a nifer y swyddi.

I helpu i gyflawni ein huchelgais yn y maes hwn, rydym yn ystyried ystod o ddewisiadau eraill—gwella ymwybyddiaeth o’r hyn y gellir ac na ellir ei ailgylchu, gweithio gyda phobl nad ydynt yn ailgylchu ar hyn o bryd i newid eu hymddygiad, dull mwy radical fel cynlluniau dychwelyd blaendal a chostau ychwanegol neu atal defnyddio cynwysyddion bwyd a diod untro, a deddfu i alluogi awdurdodau lleol i annog preswylwyr i roi mwy o'u defnyddiau ailgylchadwy yn y bin ailgylchu ac nid yn y bin sbwriel. Mae awdurdodau lleol wedi gofyn inni ystyried cyflwyno’r pwerau hyn.

Yn ogystal â mwy o ailgylchu, mae angen inni ganolbwyntio ar atal gwastraff, Lywydd. Mae gwastraff bwyd ar gyfer pob person tua 9 y cant yn is yng Nghymru o'i gymharu â chyfartaledd y DU. Rhwng 2009 a 2015, bu 12 y cant o ostyngiad yng nghyfanswm y gwastraff bwyd o gartrefi yng Nghymru.

Hoffwn adeiladu ar y perfformiad hwn a mynd ymhellach. Mae'r Gweinidog wedi gofyn i'w swyddogion ystyried sut y gallwn wneud mwy i atal gwastraffu bwyd ledled Cymru yn y cartref, ym maes prosesu bwyd ac ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan. Mae rhai rhanddeiliaid wedi galw am wahardd rhai cynwysyddion bwyd neu ddiod, defnyddio ardollau, neu gyflwyno systemau dychwelyd blaendal am gynwysyddion diodydd. Mae’r Gweinidog yn bwriadu rhoi ystyriaeth ddyledus i'r materion hyn yn yr adolygiad a’r diweddariad am y strategaeth wastraff, 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff'.