– Senedd Cymru ar 14 Mawrth 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl ar wastraff trefol ac ailgylchu. Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i wneud y cynnig—Carl Sargeant.
Cynnig NDM6255 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cytuno bod Cymru ar y blaen o safbwynt ailgylchu gwastraff trefol ac yn cefnogi'r bwriad sy'n golygu:
a) creu rhagor o fentrau er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl o ran datblygu cynaliadwy ac amcanion Symud Cymru Ymlaen
b) mai Cymru fydd y wlad orau yn y byd am ailgylchu.
Diolchaf i'r Llywydd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Cymru ar y blaen o safbwynt ailgylchu a rheoli adnoddau. Cyhoeddwyd ddoe ein bod ni bellach yn ail yn Ewrop ac yn drydydd yn y byd. Mae hyn o ganlyniad i becyn cynhwysfawr o bolisïau a buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a chamau gweithredu llywodraeth leol a phobl ledled Cymru.
Mae polisi Cymru a Lloegr wedi ymwahanu ers datganoli yn 1999. Yn 1999, roedd Cymru yn ailgylchu 5 y cant o'n gwastraff. Roedd hyn tua’r un faint â Lloegr a'r Alban. Yn ystod hanner cyntaf 2016-17, roeddem yn ailgylchu 62 y cant o'n gwastraff. Roedd hyn yn well o lawer na Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn Lloegr, mae cyfraddau ailgylchu’n dirywio ac, y llynedd, roeddent o dan 44 y cant am y tro cyntaf ers 2011.
Heddiw, hoffwn osod yr agenda ar gyfer adeiladu ar y sefyllfa hon i fod y gorau yn y byd ac i sicrhau cymaint â phosibl o fuddion cysylltiedig o ran cyflogaeth, yr economi a’r amgylchedd. Mae Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed ailgylchu o 70 y cant yn 2024-25, yn ôl pob tebyg sawl blwyddyn o flaen yr amserlen.
Mae'r targed o 70 y cant, wrth gwrs, yn garreg filltir ar y daith at fod yn ddiwastraff erbyn 2050. Wrth baratoi ar gyfer strategaeth wastraff ddiwygiedig Cymru yn 2018, bydd y Gweinidog yn cyhoeddi ymgynghoriad cyn bo hir ar gyfeiriad ein taith o ran gwastraff ac ailgylchu. Bydd hyn yn cynnwys y posibilrwydd o ystyried targedau’r dyfodol, gan gynnwys gosod targed ailgylchu o 80 y cant i awdurdodau lleol.
Mae'r dadansoddiad o gyfansoddiad gwastraff a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2016 yn dangos bod bron i hanner y sbwriel y mae pobl yn ei roi yn eu biniau gwastraff gweddilliol yn ddefnydd sy’n hawdd ei ailgylchu. Mae hyn yn cynnwys gwastraff bwyd, papur, cerdyn, gwydr a metelau. Lywydd, mae cael cymaint o ddefnydd ailgylchadwy â phosibl allan o'n biniau sbwriel a'u rhoi mewn biniau ailgylchu yn un o amcanion allweddol y Llywodraeth hon. Pe byddai pawb yn rhoi pob defnydd ailgylchadwy yn y bin ailgylchu yn lle’r bin sbwriel, byddai'n gwella cyfradd ailgylchu i bron i 80 y cant. Byddai hefyd yn arbed arian i awdurdodau lleol drwy osgoi cost gwaredu, a gellir gwerthu o leiaf rhai o'r defnyddiau a gesglir i ennill incwm.
Yn 2015-16, roedd cyfanswm y gwariant ar wasanaethau gwastraff gan awdurdodau lleol ar ei lefel isaf ers 2009-10 ac, yn ystod yr un cyfnod, cynyddodd ailgylchu o 41 cant i 60 y cant. Gall mwy o ailgylchu gyfrannu at leihau costau darparu gwasanaethau, cyn belled â bod y gwasanaethau cywir yn cael eu cyflwyno.
Rydym yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol i gyflwyno’r mathau cywir o wasanaethau drwy'r rhaglen newid cydweithredol. Mae cymorth technegol a chyllid cyfalaf ar gael i awdurdodau lleol i'w helpu i gynllunio a gwneud newidiadau lle bo eu hangen. Mae hyn yn enghraifft o fantais ymagwedd Llywodraeth Cymru at ailgylchu. Drwy ymdrechion ein hawdurdodau lleol a thrigolion ledled y wlad, rydym yn lleihau'r costau, yn gwella’r effeithiau amgylcheddol, ac yn cynyddu gweithgarwch economaidd a nifer y swyddi.
I helpu i gyflawni ein huchelgais yn y maes hwn, rydym yn ystyried ystod o ddewisiadau eraill—gwella ymwybyddiaeth o’r hyn y gellir ac na ellir ei ailgylchu, gweithio gyda phobl nad ydynt yn ailgylchu ar hyn o bryd i newid eu hymddygiad, dull mwy radical fel cynlluniau dychwelyd blaendal a chostau ychwanegol neu atal defnyddio cynwysyddion bwyd a diod untro, a deddfu i alluogi awdurdodau lleol i annog preswylwyr i roi mwy o'u defnyddiau ailgylchadwy yn y bin ailgylchu ac nid yn y bin sbwriel. Mae awdurdodau lleol wedi gofyn inni ystyried cyflwyno’r pwerau hyn.
Yn ogystal â mwy o ailgylchu, mae angen inni ganolbwyntio ar atal gwastraff, Lywydd. Mae gwastraff bwyd ar gyfer pob person tua 9 y cant yn is yng Nghymru o'i gymharu â chyfartaledd y DU. Rhwng 2009 a 2015, bu 12 y cant o ostyngiad yng nghyfanswm y gwastraff bwyd o gartrefi yng Nghymru.
Hoffwn adeiladu ar y perfformiad hwn a mynd ymhellach. Mae'r Gweinidog wedi gofyn i'w swyddogion ystyried sut y gallwn wneud mwy i atal gwastraffu bwyd ledled Cymru yn y cartref, ym maes prosesu bwyd ac ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan. Mae rhai rhanddeiliaid wedi galw am wahardd rhai cynwysyddion bwyd neu ddiod, defnyddio ardollau, neu gyflwyno systemau dychwelyd blaendal am gynwysyddion diodydd. Mae’r Gweinidog yn bwriadu rhoi ystyriaeth ddyledus i'r materion hyn yn yr adolygiad a’r diweddariad am y strategaeth wastraff, 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff'.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Mi wnaf.
Dim ond ar y pwynt yna—ac rwy'n falch iawn o glywed bod y Llywodraeth yn mynd i ystyried cynllun dychwelyd blaendal—a wnaiff ef ystyried, ac a wnaiff y Gweinidog ystyried, pan fydd hi’n dychwelyd, y ffaith bod cwmnïau mawr fel Coca-Cola bellach wedi gostwng eu gwrthwynebiad i gynllun fel hwn?
Rwy'n gwybod y bydd yr Aelod yn ymwybodol o’r cyfrifoldeb gweinidogol ac mae ganddi ddiddordeb mawr yn y cynlluniau hyn ac mae hi’n ceisio cyngor pellach gan ei swyddogion.
Mae’r Gweinidog wedi gofyn am astudiaeth ar y potensial i ddeddfwriaeth newydd ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr yng Nghymru a gwneud cynhyrchwyr cynhyrchion a defnyddiau pecynnu yn fwy cyfrifol am gostau rheoli gwastraff ar ddiwedd eu hoes, gan gynnwys sbwriel. Dim ond rhan o'r stori yw cyfraddau ailgylchu uchel ac mae'r Gweinidog wedi siarad droeon am yr angen am economi fwy crwn i Gymru i wireddu manteision bod yn gymdeithas sy’n ailgylchu llawer. Mae bellach yn bryd inni gymryd camau i gyflymu'r broses honno.
Mae rhai defnyddiau mewn sbwriel cartref nad oes gan y farchnad atebion iddynt eto. Rydym eisoes wedi cael rhaglenni llwyddiannus i sicrhau gwasanaethau trin gwastraff newydd, fel treulio anaerobig ac ynni o wastraff, ond hefyd mae arnom angen dewisiadau newydd ar gyfer casglu a thrin ystod ehangach o gynhyrchion fel plastigion, cynhyrchion hylendid amsugnol, fel clytiau tafladwy, a hefyd mae angen cyfleusterau ar gyfer eitemau anodd eu hailgylchu, fel carpedi, matresi a thecstilau. Unwaith eto, mae'r Gweinidog wedi gofyn i'w swyddogion weithio gydag awdurdodau lleol i edrych ar sut y gellir cyflawni hyn. Maent hefyd yn edrych ar y cyfle i ddatblygu seilwaith ychwanegol er mwyn manteisio ar newidiadau i becynnu a chyfansoddiad gwastraff.
Mae llawer o bobl yng Nghymru yn siopa ar-lein ac yn cael eitemau wedi'u dosbarthu i'w cartrefi mewn defnydd pecynnu cardbord. Cydffederasiwn y Diwydiannau Papur yw'r corff masnach mwyaf sy'n cynrychioli cwmnïau gweithgynhyrchu papur a cherdyn rhychiog yn y DU. Maent yn dweud mai’r DU yw’r mewnforiwr net papur a cherdyn mwyaf yn y byd. Un o'r rhesymau yw’r diffyg gallu i ailgylchu papur a chardfwrdd yn y DU. Mae’r cyfle, Lywydd, yn bodoli i greu mwy o allu i weithgynhyrchu papur i ailgylchu’r papur a’r cardfwrdd hwn i wneud cynhyrchion newydd a chreu swyddi y mae wir eu hangen mewn cymunedau o ganlyniad i’r prosiectau hyn. Mae gwneud yn siŵr bod y cyfleoedd hyn yn dod i Gymru yn flaenoriaeth. Mae’r Gweinidog yn bwriadu cyhoeddi, yn y dyfodol, y mesurau y bydd yn eu cymryd wrth weithio gyda chydweithwyr yn y Cabinet i sicrhau seilwaith ychwanegol inni yma yng Nghymru. Yn erbyn y cefndir hwn, rwy’n falch iawn o gynnig y cynnig hwn heddiw.
Rwyf wedi dethol y pum gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Rydw i’n galw ar Gareth Bennett i gynnig gwelliannau 1 a 4, a gyflwynwyd yn enw David J. Rowlands—Gareth Bennett.
Gwelliant 4—David J. Rowlands
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder bod cyfraddau ailgylchu yn amrywio'n sylweddol ar draws ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru, yn rhannol oherwydd gwahaniaethau mewn cynlluniau ailgylchu a chasglu gwastraff a ddefnyddir ym mhob ardal awdurdod lleol;
Yn gresynu bod 36,000 o achosion o dipio anghyfreithlon wedi'u cofnodi yng Nghymru yn 2015/16, gyda chostau o dros £2.1 miliwn i awdurdodau lleol eu clirio;
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol yn casglu gwastraff gweddilliol cartrefi bob pythefnos fan lleiaf, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ac atal tipio anghyfreithlon.
Diolch—diolch, Lywydd. Rwy’n cynnig y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw David Rowlands. Nid ydym yn cefnogi’r Llywodraeth heddiw oherwydd bod gennym amheuon difrifol ynglŷn â ble maent yn mynd â'u polisïau ailgylchu a beth fydd yr effaith ar ddeiliaid tai.
Rydym o blaid gwelliant 5 Plaid, ond byddwn yn ymatal ar welliant 2 Plaid, sy’n ymwneud â'r cynllun dychwelyd blaendal. Mae’n ymddangos bod hwn yn syniad da mewn egwyddor, ond rydym yn credu bod angen ei ddatblygu ymhellach, ac y byddai angen ymdrin â rhai meysydd penodol. Er enghraifft, sut y byddai'n gweithredu yn yr ardaloedd ar y ffin, hynny yw, y ffin rhwng Cymru a Lloegr? Hefyd, byddai'r cynlluniau dychwelyd blaendal yn rhoi baich sylweddol, o bosibl, ar adwerthwyr, yn enwedig siopau cyfleustra bach. Yn wir, mae'r Gymdeithas Siopau Cyfleustra yn pryderu am amryw o faterion, gan gynnwys lle i storio cynwysyddion wedi’u dychwelyd, oediadau yn y siop a chostau staff wrth drin dychweliadau, cost sefydlu'r cynllun yn y lle cyntaf, a chost cludo cynwysyddion a ddychwelwyd i safleoedd trin gwastraff.
Felly, mae gennym ddiddordeb mewn cynllun dychwelyd blaendal, ond hoffem i’r pwyntiau hynny gael sylw os yw'r Llywodraeth yn mynd i fwrw ymlaen ag ef, neu efallai y cawn fwy o fanylion am y pwyntiau hynny gan Plaid. Byddwn yn cefnogi gwelliant 3 y Ceidwadwyr Cymreig.
I ddychwelyd at ein safbwynt ein hunain, mae perfformiad y Llywodraeth o ran cyrraedd targedau ailgylchu, ynddo'i hun, yn dda iawn, ond rydym yn poeni am y cysylltiad ymddangosiadol rhwng gwthio at fod yn ddiwastraff drwy leihau casgliadau gwastraff a chynnydd mewn achosion o dipio anghyfreithlon. I sôn am achosion diweddar o hynny, yng Nghonwy, mae casgliadau gwastraff bob pedair wythnos yn cael eu treialu mewn rhan o'r fwrdeistref sirol ar hyn o bryd; mae gweddill y fwrdeistref yn cael casgliadau bob tair wythnos. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf o ddigwyddiadau a gofnodwyd, mae tipio anghyfreithlon wedi cynyddu 10 y cant. Yn awdurdod Gwynedd, rydym wedi gwneud casgliadau bob tair wythnos mewn rhan o'r fwrdeistref ers 2014, ac, yn yr un cyfnod, o 2014-16, roedd adroddiadau am achosion o dipio anghyfreithlon 22 y cant yn uwch.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Wrth gwrs.
Rwy’n cydnabod y pwyntiau a wnewch. Onid dadl yw honno, fodd bynnag, dros well gorfodaeth, a dros weithio gyda theuluoedd i'w helpu i newid eu hymddygiad, yn hytrach na dim ond dweud y dylem roi'r gorau i'r ymgyrch am fwy o ailgylchu?
Ydy, mae'n ddigon posibl bod yna achos o blaid rhoi gwell cyngor i ddeiliaid tai, ac os bydd rhyw fath o raglen ystyrlon i wneud hynny, ni fyddem yn lladd ar y polisi hwnnw. Ond dim ond nodi yr wyf y gall bwriadau da weithiau arwain at ganlyniadau gwaeth, felly mae’n rhaid inni fod yn ymwybodol iawn o broblem tipio anghyfreithlon, ond rwy’n gwerthfawrogi'r pwynt yr ydych yn ei wneud.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
Gwrandewais yn astud iawn ar eich cyfraniad yn y fan yna o ran y mater eich bod yn gwneud cyswllt rhwng tipio anghyfreithlon a newidiadau i gasglu. Nid oes gan y Llywodraeth unrhyw ddata a fyddai'n cefnogi hynny. A oes gennych chi ddata sy'n cefnogi hynny?
Oes, mae—. Byddai'n rhaid imi edrych ar hynny, ond pan gefais—. [Torri ar draws.] Diolch, Joyce. I barhau, pan gefais y sgwrs hon â’r Gweinidog sy'n gyfrifol, Lesley Griffiths, roeddem yn anghytuno ar y pwynt hwn ynghylch data. Felly, rwy’n ymddiheuro; mi edrychaf ar hyn. Mae data yn cael eu rhoi imi; nid wyf wir wedi—. Ni allaf yn bersonol wirio o ble y daeth ar hyn o bryd.
Iawn. Felly, mae gennym broblemau â thipio anghyfreithlon mewn rhai ardaloedd. Iawn, rydym wedi gwneud hynny. O edrych ar Gaerdydd, rydym wedi gweld straeon bron bob wythnos yn y 'South Wales Echo' am dystiolaeth sydd, mae’n rhaid cyfaddef, yn anecdotaidd, ond mae deiliaid tai lleol pryderus wedi darparu digon o luniau yn y blynyddoedd diwethaf sy’n pwyntio at eu cred bod tipio anghyfreithlon wedi cynyddu’n gyflym yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn ddiweddar, cafodd llwyni eu clirio ar dir o amgylch y brif reilffordd gan ddatgelu’r swm enfawr o wastraff a gafodd ei adael yn anghyfreithlon ar y tir hwn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac ni ddaeth hynny i'r amlwg nes i’r llwyni gael eu torri'n ôl, ac mae'n olygfa eithaf dramatig. Yn amlwg, nid yw'r polisi 'diwastraff' hwn, fel y’i gelwir, yn arwain at fod yn ddiwastraff o gwbl, ac, yn wir, mae'n ymddangos ei fod mewn gwirionedd yn cynyddu faint o wastraff sy'n cael ei dipio'n anghyfreithlon yng Nghymru. Yng Nghaerdydd, mae polisi Llywodraeth Cymru, a dweud y gwir, wedi cael ei danseilio gan benderfyniad y cyngor Llafur i gau dau o bedwar depo ailgylchu’r ddinas, sy'n edrych fel ffordd ryfedd o geisio cyflawni dyfodol diwastraff. Felly, tybed pa sylwadau a fydd gan y Gweinidog ynghylch y penderfyniad hwnnw.
Dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, mae cyngor Caerdydd wedi tueddu i guddio y tu ôl i'r angen i gydymffurfio â thargedau ailgylchu gwastraff yr UE pan ofynnwyd iddynt pam mae polisïau casglu gwastraff yn newid. Maen nhw bob amser yn dweud hyn: mae Bob Derbyshire, sy’n gyfrifol am hynny ar lefel y cabinet, wedi dweud bob amser bod angen iddynt gydymffurfio â thargedau ailgylchu gwastraff yr UE, ond a ninnau nawr yn gadael yr UE, gallwn ni ein hunain, fel—. [Torri ar draws.] A, iawn, efallai y gallwch daflu goleuni ar hynny, ond mae ef yn dal i hawlio bod angen cydymffurfio â thargedau’r UE. Erbyn hyn mae gennym ein targed ein hunain o ddim gwastraff, felly nid targed yr UE ydyw. Felly, mae angen inni ystyried cost glynu’n slafaidd at dargedau anhyblyg iawn. Credaf fod angen inni edrych yn ofalus iawn ar ein polisi dim gwastraff ein hunain yn awr, ac efallai y gwnaiff y ddadl heddiw ein helpu i wneud hynny. Diolch.
Rydw i’n galw ar Simon Thomas i gynnig gwelliannau 2 a 5 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Fel mai Cymru fydd y wlad ailgylchu orau yn y byd, mae angen i awdurdodau lleol fabwysiadu arfer gorau er mwyn codi cyfraddau ailgylchu, a dysgu gan awdurdodau fel Ceredigion, lle y cafodd 68.1 y cant o wastraff trefol ei ailgylchu yn 2015/16.
Diolch, Lywydd, ac rwy’n cynnig y gwelliannau. Wrth gwrs, hyd yn oed wrth drafod sbwriel mae’n rhaid wrth ffeithiau, rydw i’n meddwl, ac yn gyffredinol mae Plaid Cymru yn cefnogi ymdrechion y Llywodraeth i symud tuag at dim gwastraff. Yn wir, mae’n polisi ni am gyflymu’r broses yna, achos rydym ni’n credu ein bod ni’n gallu cyflawni hynny i bob pwrpas erbyn 2030 yng Nghymru, a drwy wneud hynny creu swyddi tu fewn i’r economi leol a chreu cyfoeth allan o’r gwastraff hefyd, achos mae yna werth bob tro i wastraff.
Mae rhai cynghorau yng Nghymru yn gosod y nod. Mae’n wir dweud fod Ceredigion ar y blaen ac wedi cyrraedd dros 68 y cant o ailgylchu erbyn hyn, bron 10 mlynedd o flaen yr amcan o 70 y cant sydd gan y Llywodraeth erbyn 2025. Mae modd felly clodfori cynghorau pan fyddan nhw’n cyrraedd yna ac yn dweud eu bod yn gosod templed ar gyfer awdurdodau eraill. Mae modd hefyd gresynu bod rhai cynghorau nid yn unig yn peidio â chyrraedd y nod sy’n cael ei osod gan y Llywodraeth, ond yn mynd yn ôl. Mae Blaenau Gwent, er enghraifft, erbyn hyn yn ailgylchu 5 y cant yn llai o wastraff na’r oedden nhw’n ei wneud pedair neu bum mlynedd yn ôl, ac mae hynny’n siom.
Wedi dweud hynny, nid yw’n bolisi gan Blaid Cymru bod yn rhaid i ni gael yr un dull casglu a delio gyda gwastraff ar draws Cymru. Mae gwahanol ardaloedd a natur ardaloedd—natur wledig yn benodol—yn golygu bod yn rhaid rhoi rhywfaint o ryddid i awdurdodau lleol i gydweithio â’i gilydd i ddod i fyny ag atebion sydd yn berthnasol iddyn nhw, ond sydd y tu fewn i’r amlen o gyrraedd dim gwastraff.
Nawr, mae yna fwlch—hyd yn oed gyda’r ffaith bod Cymru’n gwneud cystal ar ailgylchu—mae yna fwlch o hyd yn y gwastraff sydd yn mynd i dirlenwi a gyda gwastraff nad oes modd ei ailddefnyddio. Mae hynny’n cynnwys gwastraff megis polystyren a ‘styrofoam’— rhywbeth sy’n cael ei wahardd mewn rhai gwledydd erbyn hyn, a rhywbeth rwy’n meddwl o ddifri y dylem ni ystyried ei wahardd yma yng Nghymru. Os nad oes gennym ni rym o dan y Ddeddf Cymru newydd, fe ddylem gydweithio gyda gwledydd eraill yn ynysoedd Prydain, a hefyd ein partneriaid o hyd yng ngweddill Ewrop, i wahardd y math yma o becynnu.
Mae Plaid Cymru hefyd yn gryf o’r farn y dylid cael cynllun dychwelyd ar gyfer poteli a deunyddiau plastig, gwydr a chaniau. Rydym yn gweld hyn yn gyffredinol drwy wledydd Ewrop, ac, yn wir, rwy’n gweld mwy o siopau bach yn y gwledydd sy’n arddel y dulliau hyn nag ydym yn ei weld yng Nghymru. Nid wyf yn credu, felly, bod hwn yn rhwystr i’r economi lleol, ond yn hytrach yn mynd i ychwanegu at yr economi lleol. Mae modd i sicrhau bod hynny’n fudd i siopau ac i gwsmeriaid, fel sydd yn digwydd yn yr Almaen eisoes, ymysg rhai gwledydd eraill.
Y brif broblem sydd gennym yw plastig. Mae plastig yn fath o danwydd; mae’n ddefnydd o olew. Ac mae plastig, yn enwedig y gleiniau mân, neu’r mân leiniau—os taw dyna’r gair am ‘microbeads’—yn broblem o hyd yn yr amgylchedd, er ein bod ni’n eu gwahardd o ‘cosmetics’ yn ystod y flwyddyn nesaf. Mae’r effaith ar bysgodfeydd ac ar ein traethau ni’n arbennig o andwyol, ac rydym ni eisiau gweld mwy o fynd i’r afael â phlastig o’r math yma, a pheidio â defnyddio olew, a dweud y gwir, at bwrpas mor brin ag i greu pecynnau sydd ddim eu hangen, ac yn hytrach defnyddio’r adnodd prin o olew ar gyfer ei brif bwrpas, tra’i bod gennym ni, o ynni, ac ar gyfer cemegau sydd o werth yn yr economi yn ogystal.
Felly, mae modd, rwy’n meddwl, pe byddem ni’n gallu rhoi cynllun dychwelyd poteli ac ati, at ei gilydd; cynllun i wahardd rhai deunyddiau plastig nad oes modd eu hailgylchu, megis polystyren; a hefyd cynllun, er enghraifft, i wneud yn siŵr bod unrhyw fwyd sy’n cael ei weini ar y stryd yn defnyddio pecynnau sy’n cael eu hailgylchu neu’n ‘biodegradable’—mae modd helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd y nod o economi dim gwastraff erbyn 2050. Mae Plaid Cymru a gwelliannau Plaid Cymru’n ceisio helpu’r Llywodraeth tuag at y nod hwnnw.
Mae’n braf iawn gweld y Gweinidog yn ôl yn ei le yn gwneud y gwaith yma yr oedd e’n arfer ei wneud yn y Llywodraeth flaenorol, a dyma gyfle hefyd i ddymuno’n dda i Lesley Griffiths i wella’n glou iawn, gobeithio, o’i hanffawd.
Galwaf ar Darren Millar i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Diolch, Lywydd. A gaf i gynnig gwelliant 3 yn enw Paul Davies sy’n galw am gyflawni canlyniadau datblygu cynaliadwy drwy economi fwy cylchol yma yng Nghymru? A, chyn imi fynd i mewn i fy araith, a gaf i hefyd adleisio sylwadau Simon Thomas yn dymuno gwellhad buan i Lesley Griffiths?
Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn parhau i hyrwyddo’r agenda lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu, a dyna pam yr ydym wedi bod yn gwbl gefnogol i'r uchelgais yn 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff', sydd wedi cael ei amlinellu gan Lywodraeth Cymru. Yn wir, roeddem yn falch iawn o glywed y cyhoeddiad a wnaethpwyd yn ddiweddar ynghylch y £6.5 miliwn, sydd wedi ei ddarparu i fusnesau er mwyn helpu i hybu'r economi gylchol yng Nghymru, oherwydd ein bod yn gwybod, pe byddem yn datblygu economi wirioneddol gylchol yma yng Nghymru, y gallai arbed tua £2 biliwn y flwyddyn inni, sy’n arian yn ôl i economi Cymru y gellir ei wario mewn meysydd mwy cynhyrchiol, fel y gallwn, yn hytrach na llosgi gwastraff neu roi gwastraff mewn safleoedd tirlenwi yn ddiangen, ddefnyddio’r gwastraff hwnnw mewn ffordd fwy cyfrifol sydd hefyd yn ychwanegu gwerth at ein heconomi.
Rydym o blaid ymchwilio pellach i gynlluniau blaendal ar gyfer gwydr, caniau ac, yn wir, ar gyfer plastigion. Ac rydym yn croesawu’r newid agwedd tuag at gynlluniau blaendal gan rai cwmnïau mawr yn yr wythnosau diwethaf. Ond rwyf yn meddwl tybed a ellir gwneud mwy, yn enwedig o ran cynlluniau ardollau weithiau. Rydym yn gwybod am yr effaith enfawr a gafodd y cynllun ardollau ar fagiau plastig ar ymddygiad defnyddwyr. Cafodd cynllun tebyg ei gynnig, wrth gwrs, gennyf fi ar gyfer ardoll gwm cnoi, oherwydd mae sbwriel gwm cnoi yn felltith yn fy mywyd i, ac efallai yr hoffai’r Gweinidog wneud sylwadau am ymdrin â'r broblem honno.
Ond o ran y sefyllfa o gwmpas Cymru, er ei fod yn wir yn newyddion gwych mai ni yw’r ail wlad yn Ewrop o ran y tabl cynghrair ailgylchu, a’n bod yn drydydd yn y byd, ac er ei bod yn wych bod llawer o awdurdodau lleol wedi gwneud cynnydd rhagorol, gan gynnwys Conwy a Sir Ddinbych yn yr ardaloedd yr wyf i’n eu cynrychioli, rwy'n credu bod mwy o waith i'w wneud o ran rhesymoli'r gwahanol systemau ailgylchu sydd gennym yma yng Nghymru. Mae'n gwbl amhriodol bod gennym 22 o awdurdodau lleol a phob un yn gweithredu systemau gwahanol. Gellid gwireddu arbedion effeithlonrwydd enfawr i drethdalwyr pe byddai rhai o'r awdurdodau lleol hynny'n cydweithio er mwyn trefnu eu gwasanaethau casglu gwastraff. Nid yw’n iawn o gwbl bod gennym y fath amrywiad, er bod angen, wrth gwrs, trefniadau gwahanol mewn ardaloedd gwledig iawn neu ardaloedd lled-wledig o'u cymharu ag ardaloedd trefol, fel y cyfeiriodd Simon Thomas ato’n ddigon teg.
A wnewch chi ildio?
Wrth gwrs.
Rwy’n deall y pwynt y mae’n ei wneud, ac rwy’n derbyn rhywfaint o’i sail, ond ochr arall y ddadl, wrth gwrs, yw sicrhau bod rhai o'r cynhyrchwyr bwyd a’r archfarchnadoedd hefyd yn rhesymoli sut y maent yn cynhyrchu eu bwyd a’u cynhyrchion inni.
Rwy’n cytuno’n llwyr, a dyna pam yr wyf yn meddwl bod angen i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac yn wir pob deddfwrfa ledled y DU i weithio gyda'i gilydd er mwyn sicrhau rhywfaint o newid agwedd gan wneuthurwyr ac archfarchnadoedd a manwerthwyr eraill. Un peth y gwnaf ei ddweud, fodd bynnag, yw ei bod yn bwysig iawn mynd â’r cyhoedd gyda chi ar y daith hon. Rydym wedi bod yn llwyddiannus fel cenedl wrth wneud hynny hyd yma, ond os ydych yn lleihau gwasanaethau casglu gwastraff i bob pedair wythnos, sef y sefyllfa yng Nghonwy ar hyn o bryd, rydych chi wir yn dechrau colli ewyllys da pobl, a dyna’n union beth sy'n digwydd yng Nghonwy ar hyn o bryd. Mae gennym 10,000 o gartrefi yno sydd ar gynllun casglu sbwriel cyffredinol bob pedair wythnos. Bu cynnydd yn yr adroddiadau o dipio anghyfreithlon. Mae mwy o gnofilod wedi eu gweld. Nid dim ond mater o helpu i addysgu pobl am sut i waredu gwastraff yn fwy synhwyrol yw hwn; mae risgiau i iechyd y cyhoedd yn gysylltiedig â’r peth hefyd. Ni all fod yn iawn bod gwastraff anifeiliaid anwes yn eistedd ym miniau pobl am bedair wythnos ar y tro, oherwydd gall hynny achosi peryglon iechyd y cyhoedd i weithwyr y cyngor sydd wedyn yn mynd i gasglu'r gwastraff hwnnw. Ni all fod yn iawn ychwaith o safbwynt cydraddoldeb bod gennym bobl hŷn, weithiau â chyflyrau clinigol, â chynwysyddion y tu allan i'w drysau ffrynt sy'n nodi eu bod yn agored i niwed. Oherwydd dyna yw'r sefyllfa yn fy etholaeth i ar hyn o bryd, ac mae pobl yn anhapus iawn am y drefn newydd.
Felly byddwn yn eich annog, Weinidog, i ystyried yr hyn y gallech ei wneud fel Llywodraeth Cymru i hybu gallu awdurdodau lleol i weithio gyda'u trigolion yn hytrach nag yn erbyn ewyllys da eu trigolion wrth fwrw ymlaen â’r agenda hon. Rydym wedi galw am beidio â chasglu gwastraff gweddilliol yn amlach na bob pythefnos. Rwy’n meddwl y byddai hynny'n gam da ymlaen; byddai'n sicrhau trigolion, wrth iddynt barhau i fynd ar y daith hon a gwneud pob ymdrech i ailgylchu, nad ydynt yn mynd i gael eu hanghofio o ran eu gwasanaethau cyhoeddus.
Dim ond un pwynt olaf, os caf, sef: mae angen i awdurdodau lleol wella hefyd. Nid wyf yn credu ei bod yn iawn ein bod yn dal i weld biniau sbwriel sy'n cymryd dim ond un math o wastraff heb allu ei wahanu yn y ffordd y gallwch mewn rhai ardaloedd awdurdodau lleol. Mae Caerdydd yn gwneud gwaith da yn hyn o beth. Yn aml iawn, mae gan finiau dri thwll: un ar gyfer papur, un ar gyfer cynhyrchion plastig ac un ar gyfer sbwriel cyffredinol arall. Ond mewn lleoedd fel Conwy, er eu bod yn disgwyl i’r cyhoedd ailgylchu mewn ffordd benodol, nid yw’r mathau hynny o finiau ar gael yn eang ar draws y sir. Felly, mae angen i awdurdodau lleol edrych arnynt eu hunain hefyd.
Os oes un maes polisi cyhoeddus sydd wedi gwella dros y 20 mlynedd diwethaf, ailgylchu yw hwnnw. Diolch i'r targedau uchelgeisiol a osodwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru a'r camau a gymerwyd gan awdurdodau lleol o bob lliw gwleidyddol, ac yn bwysicaf oll gan ddeiliaid tai, mae Cymru yn arwain y ffordd ym maes ailgylchu yn ogystal ag ym maes atal ac ailddefnyddio gwastraff. Er mai’r bobl fwyaf amgylcheddol ymwybodol oedd yn arfer ailgylchu—a bydd rhai pobl yn cofio adeg pan, mewn rhai awdurdodau, roedd pobl yn gorfod talu am y fraint o ailgylchu drwy orfod prynu bagiau arbennig ar gyfer ailgylchu—nawr mae’r mwyafrif o bobl Cymru yn ailgylchu. Yr her yw sicrhau bod holl bobl Cymru yn ailgylchu popeth y gallant bob amser, ac mae honno'n her fawr. Rydym nawr ar y trywydd iawn i fod y genedl sy’n ailgylchu fwyaf yn Ewrop, ac mae’n rhaid inni osod y nod o weld Cymru ddiwastraff. Mae cyfraddau ailgylchu yng Nghymru eisoes wedi cynyddu mwy nag yn unrhyw le arall yn y DU yn y degawd diwethaf, ac mae Cymru bellach yn arwain y DU o ran ailgylchu gwastraff trefol. Mae ffigurau Eurostat ar gyfer cyfraddau ailgylchu gwastraff trefol yn Ewrop yn dangos bod y DU yn ei chyfanrwydd yn safle 10 ar 43.5 y cant. Fodd bynnag, yn y 12 mis hyd at fis Medi 2016, cofnododd Cymru gyfradd ailgylchu o 62 y cant, sydd nid yn unig ar y blaen i’r targed 58 y cant a osododd Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17, ond hefyd yn dangos bod Cymru yn perfformio dros 18 y cant yn well na’r DU gyfan. Rwy'n credu bod yn rhaid inni ddweud da iawn wrth awdurdodau lleol am hyn. Yn llawer rhy aml mae pobl yn feirniadol iawn o awdurdodau lleol a chynghorau lleol, ond nhw sydd ar y rheng flaen ac yn gwneud yn siŵr bod hyn yn cael ei gyflawni. Gall Gweinidogion osod polisïau, ond oni bai bod awdurdodau lleol Cymru yn mynd allan yna ac yn sicrhau bod yr hyn yr ydym yn gofyn amdano yn digwydd, ni wnawn gyrraedd lle mae angen inni fod. Rwyf wir yn meddwl bod angen inni ddangos ein gwerthfawrogiad i awdurdodau lleol o bob lliw gwleidyddol am yr hyn y maent wedi ei wneud.
Mae'r dreth tirlenwi wedi achosi i awdurdodau lleol droi at ailgylchu. Mae nawr yn llawer mwy costus i roi sbwriel mewn twll yn y ddaear nag i ailgylchu defnyddiau. Hefyd, mae mwy o ymwybyddiaeth amgylcheddol gan unigolion—ac eto, clod i'r ysgolion am hyrwyddo ailgylchu—wedi golygu bod mwy o bobl yn fodlon ailgylchu. Mae ysgolion wedi gwthio materion amgylcheddol ers llawer iawn o flynyddoedd, ac erbyn hyn mae'r bobl a oedd yn cael eu gwthio ar ailgylchu yn yr ysgolion 20 mlynedd yn ôl yn byw yn eu cartrefi eu hunain ac maent yn gwneud yn siŵr eu bod yn ailgylchu. Rwy’n credu bod rhai o'r pethau y mae ysgolion yn ei wneud fel hyn, er nad yw’n cael ei archwilio—nid ydynt yn cael dim marciau gan Estyn, ac nid ydynt yn cael dim marciau gan PISA—wir yn gwneud Cymru yn lle gwell.
Un o'r problemau sy’n atal ailgylchu rhag cynyddu ymhellach yw diffyg eglurder, yn enwedig gyda phlastig. Beth y ceir ac na cheir ei ailgylchu? UPVC: a geir ei ailgylchu? Beth am Tetra Paks? Beth am gwpanau wedi’u gorchuddio â phlastig? A yw defnydd lapio plastig o gwmpas cylchgronau, yr ydym i gyd yn cael llawer ohono, yn ailgylchadwy? A hefyd, ar ôl gwylio 'The One Show' neithiwr, fe wnes i ddarganfod nad oes modd ailgylchu’r defnydd pecynnu plastig du ar gyfer y microdon. Roedd hynny’n sioc i mi, ac rwy’n fy ystyried fy hun yn wybodus am hyn. Roeddwn bob amser wedi cymryd yn ganiataol bod modd ailgylchu unrhyw beth a oedd yn blastig caled. Yr hyn sydd ei angen arnom yw’r gallu i ailgylchu pob plastig. Yn rhy aml, mae aelodau o'r cyhoedd yn cael eu drysu ynghylch pa un a ellir ailgylchu rhywbeth ai peidio, a'r hyn y maen nhw’n ei wneud yw gwneud y dewis hawdd a’i anfon i safle tirlenwi. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw gwneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd. Yn ddiweddar, mae Ailgylchu dros Gymru, ymgyrch a gyllidir drwy grantiau Llywodraeth Cymru, wedi lansio ymgyrch sy'n perswadio pobl yng Nghymru i gynyddu cyfradd ailgylchu bwyd gan 50 y cant. Mae Cymru eisoes yn ailgylchu hanner ei gwastraff bwyd ac yn arwain y DU, ond mae mwy i'w wneud. Unwaith eto, mae angen eglurder. Pan gyflwynwyd ailgylchu bwyd yn Abertawe, nid oedd modd ailgylchu esgyrn a charcasau cyw iâr fel bwyd, ond erbyn hyn mae hynny’n bosibl. A yw pawb hyd yn oed yn gwybod am y newid? Hefyd, fel yn Abertawe, mae angen casglu gwastraff bwyd yn wythnosol. Nid yw pobl eisiau gadael gwastraff bwyd allan am yn hwy na hynny, neu bydd rhai pobl na fyddant yn ei ailgylchu, dim ond cael gwared arno.
Er fy mod o blaid cynllun dychwelyd blaendal am boteli plastig a gwydr a chaniau, ac y byddaf yn cefnogi'r gwelliant—rwy’n cofio’r poteli Corona â blaendal 5c arnynt, a aeth wedyn i fyny i flaendal 10c arnynt, ac rwyf wedi treulio llawer o amser hapus i lawr ar lan y môr yn casglu poteli o'r fath ac yn eu dychwelyd—nid wyf yn gweld sut y gall weithio heblaw ar sail Cymru a Lloegr gyda’i gilydd, neu efallai y bydd gennych dwristiaeth gwastraff yn mynd y ffordd anghywir. Fel arall, caiff caniau a photeli a brynwyd yn Lloegr heb flaendal, yn enwedig ar y ffin, eu dychwelyd yng Nghymru. Ond rwy'n meddwl ei fod wir yn rhywbeth sy'n bwysig iawn. Mae pobl yn dweud na wnaiff weithio. Fe wnaeth weithio am flynyddoedd lawer. I’r bobl hynny sy'n cofio poteli Corona, roedd arian arnynt bob amser, roedd pobl bob amser yn mynd â nhw’n ôl, ac os nad oeddent, nid oedd prinder o blant yn eu casglu i fynd â nhw’n ôl i gael yr arian. Felly, rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth da iawn, ac mae angen inni fwrw ati. Mae angen iddo fod ar sail Cymru a Lloegr, er mwyn peidio â chael dryswch ynghylch y ffin.
Yn olaf, hoffwn ganmol Abertawe am ei hailgylchu. Mae defnyddiau i'w hailgylchu yn cael eu casglu ar wahân. Os yw pobl yn mynd â bagiau du o sbwriel cymysg yn barod ar gyfer safleoedd tirlenwi, mae eu bagiau’n cael eu hagor ac mae’r eitemau y gellir eu hailgylchu yn cael eu dangos iddynt. Am 11 mis cyntaf 2016-17, mae ffigurau ailgylchu heb eu cadarnhau o bron i 64 y cant yn Abertawe. O ran menter canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref, mae nifer y tunelli o wastraff gweddilliol misol wedi gostwng o tua 1,000 tunnell y mis i lai na 200 tunnell y mis. Felly mae cynnydd yn cael ei wneud—da iawn awdurdodau lleol.
Hoffwn, yn gyntaf oll, ddatgan buddiant fel cynghorydd sir Powys. Byddwn yn cytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n meddwl bod gan Lywodraeth Cymru hanes da i'w adrodd o ran ei chyfradd ailgylchu—nid dim ond, wrth gwrs, yr orau yn y DU, ond un o'r targedau ailgylchu gorau ledled y byd. Rwy'n credu bod hynny i'w ganmol yn fawr. Yn ogystal â hynny, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei sylwadau agoriadol ei fod am adeiladu ar y perfformiad hwnnw, a hoffwn weld hynny'n digwydd hefyd. Ond yr hyn yr oeddwn eisiau ei wneud heddiw, yn adeiladol, rwy’n gobeithio, oedd cyflwyno rhai enghreifftiau yn y Gymru wledig lle rwy’n credu bod yna rwystr rhag i hynny ddigwydd mewn gwirionedd, ac rwy’n gobeithio y gallaf wneud hynny mewn ffordd gynhyrchiol heddiw.
Ond rwy'n meddwl ei bod yn iawn i’ch gwneud yn ymwybodol bod awdurdodau gwledig, rwy’n credu, yn arbennig, yn wynebu her wirioneddol o ran ailgylchu. Hoffwn ddod â rhai enghreifftiau o fy etholaeth fy hun, ond nodi eu bod yn digwydd ledled Cymru mewn ardaloedd gwledig. Er enghraifft, rwy’n edrych ar Fachynlleth yn fy etholaeth i—mae'r awdurdod lleol wedi cau’r ganolfan ailgylchu yno y llynedd, ac nawr mae’n rhaid i’r trigolion yno deithio ar daith gron o 60 milltir i gael gwared ar eu gwastraff ailgylchu.
Cynhaliais gymhorthfa, a dweud y gwir, ychydig cyn y Nadolig, a daeth un etholwr i fy nghymhorthfa â thwb mawr o olew a’m helpu i’w roi yng nghist fy nghar—gofynnodd imi ble yr oeddwn yn mynd nesaf. Dywedais 'Y Drenewydd', a dywedodd, 'Allwch chi fynd â hwn i'r ganolfan ailgylchu?' Roedd ganddo feic modur ac ni allai wneud hynny, ac, wrth gwrs, dyna’r unig reswm pam yr oedd eisiau fy ngweld, ac roedd yn gwneud pwynt pwysig iawn a dderbyniais, wrth i’r olew hwnnw slochian o gwmpas cefn fy nghar yr holl ffordd yn ôl i'r Drenewydd.
Y mater arall hefyd yw, ar hyn o bryd, bod gan y ddwy dref fwyaf yn fy etholaeth i, y Drenewydd a'r Trallwng, ganolfan ailgylchu sydd ar agor saith diwrnod yr wythnos—poblogaidd iawn ymhlith y cyhoedd, prysur iawn. Rwy’n eu defnyddio fy hun. Yn un o’r canolfannau ailgylchu—yr un yr wyf i’n ei defnyddio—yn aml mae ciwiau i ddefnyddio sgipiau penodol o fewn y ganolfan honno, ond yr hyn y mae'r awdurdod lleol yn ei wneud yn awr, o ganlyniad i fesur arbed costau, yw lleihau hynny, o’r mis nesaf ymlaen, o saith diwrnod yr wythnos i dri, ac mae’r cyhoedd yn cwyno’n arw am hyn. Beth mae hyn yn ei wneud, wrth gwrs, yw gwneud ailgylchu'n anoddach i bobl. Gwneir hyn fel cost—gwnaf, derbyniaf ymyriad gan Mike Hedges.
Fel cynghorydd ym Mhowys, beth ydych chi'n ei wneud i atal y cyngor rhag gwneud hynny? [Chwerthin.]
Yr hyn a ddywedaf, Mike Hedges, yw, yn union fel nad ydw i’n aelod o Lywodraeth Cymru, fy mod yn cyflwyno materion yma heddiw, nid wyf yn aelod o gabinet y cyngor, ac rwy’n meddwl ei bod yn iawn yn y ddadl hon heddiw—does bosib nad yw hi’n iawn, onid yw hi, i mi gynrychioli fy etholwyr yn yr adeilad hwn heddiw a dweud beth yw rhai o'r materion sy'n effeithio arnynt? Yn sicr, rwy’n fodlon iawn i weithio gyda'r awdurdod lleol a bod yn adeiladol wrth weithio gyda nhw a chyflwyno atebion hefyd. Dyna pam yr wyf yn awyddus i gael y ddadl hon heddiw. Hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet gyflwyno atebion hefyd i fy helpu i i helpu fy awdurdod lleol, Mike Hedges.
Ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud hefyd yw mai’r mater arall sy'n arbennig o berthnasol, rwy’n meddwl, mewn ardaloedd gwledig yw ailgylchu ar gyfer busnesau. Rwyf wir yn gobeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet gyflwyno ateb neu gydnabod y broblem, ond mae llawer o awdurdodau lleol mewn ardaloedd gwledig mewn gwirionedd nawr yn lleihau'r rhestr o eitemau y ceir mynd â nhw i'w mannau cyfleuster ailgylchu. Maent yn lleihau'r rhestr, felly mae gen i un busnes yn fy etholaeth sydd â gwastraff ailgylchu’n cronni mewn cornel o'i warws, gan na wnaiff yr awdurdod lleol ei dderbyn yn eu depo mwyach. Beth sy'n digwydd yn y fan yna yw eu bod yn dweud, 'Wel, ewch i ofyn i gwmni preifat ddod a chymryd hwn gennych chi.' Ond, wrth gwrs, does dim cwmnïau preifat sy'n fodlon mynd i mewn i ardaloedd gwledig Cymru. Nid yw'n fasnachol ddichonadwy iddyn nhw wneud hynny, ac mae hon yn broblem real iawn hefyd.
Y mater arall, wrth gwrs, yw bod yr awdurdod lleol wedi rhoi'r gorau i gasglu gan fusnesau y mis diwethaf. Felly, nawr mae disgwyl i fusnesau fynd â'u gwastraff ailgylchu i'w depo agosaf. I un busnes sydd gen i, mae'n daith gron o 45 milltir. Mae ganddyn nhw lawer o wastraff ailgylchu, ond nid does ganddyn nhw gerbyd masnachol. Rwy'n edrych ar Ysgrifennydd y Cabinet yn chwifio'i freichiau arnaf—wel, rwyf wir yn chwilio am atebion i rai o'r problemau hyn, ac rwy'n meddwl tybed a oes cyfle yma naill ai i newid deddfwriaeth neu ddiwygio deddfwriaeth i'w gwneud yn haws i bobl a busnesau yng Nghymru ailgylchu eu nwyddau cartref a’u gwastraff busnes.
Ond rwyf yn awyddus i gyflwyno’r rhain heddiw. Rwy'n gwybod bod llawer o fusnesau’n hapus iawn i dalu am wasanaeth casglu, ond na allant wneud hynny oherwydd nad yw'n fasnachol ddichonadwy i gwmnïau ddod i mewn a chynnig y gwasanaeth hwnnw. Rwy’n meddwl, felly, bod angen i'r Llywodraeth gamu i mewn a llenwi’r methiant hwnnw yn y farchnad.
Rwy'n rhannu uchelgais Lesley Griffiths i’n galluogi i ddod yn genedl ddiwastraff. Mae'n rhaid inni gadw'r pwysau i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu, ac mae'n rhaid i leihau faint o wastraff yr ydym yn ei greu fod y rhwymedigaeth bwysicaf. Nid yw’n ddim llai na syfrdanol nad yw traean o fwyd a gynhyrchir byth yn cyrraedd y bwrdd na’r plât. Ar ymweliad â fferm ddoe ym Mro Morgannwg clywais sut mae un archfarchnad flaenllaw yn mynnu yn eu contract gyda'r tyfwr bod yn rhaid i’r hyn a elwir yn flodfresych diolwg nad ydynt yn bodloni eu gofynion cosmetig ar gyfer blodfresych gwyn perffaith grwn gael eu haredig yn ôl i mewn i’r ddaear yn hytrach na’u gwerthu i bobl sydd â mwy o ddiddordeb ym mlas y blodfresych na'i siâp. Ac yn fwy gwarthus, mae gwastraffu bwyd nad oes dim yn bod arno ac sy’n anodd dod o hyd iddo, yng nghyd-destun y newyn difrifol heddiw sy’n wynebu o leiaf bedair gwlad yn Affrica, yn hollol gywilyddus. A dweud y gwir, dylid gwahardd contractau o'r fath, ond nid, mae'n debyg, yn ôl UKIP, sydd eisiau dileu pob sôn am fentrau pellach i gyflawni datblygu cynaliadwy. Rwy’n sylweddoli nad yw hyn yn rhywbeth y gall swyddogaethau gwastraff trefol awdurdodau lleol ymdrin ag ef, ond efallai y gellid defnyddio caffael cyhoeddus i newid arferion gwastraffus o’r fath. Mae cyfraniad yr archfarchnadoedd at sbarduno arferion ffermio mwy a mwy anghynaladwy yn rhywbeth sy'n gofyn am ddadl ar wahân.
I droi at swyddogaeth cyngor Caerdydd a'i swyddogaeth strategol wrth helpu Cymru i ddod yn genedl ailgylchu orau’r byd, gan mai hwnnw yw’r awdurdod gwastraff trefol mwyaf sydd gennym, mae ei ymgyrch 'Arhoswch Allan o'r Du ... Symudwch i mewn i'r Gwyrdd' wedi cymryd camau mawr i gynyddu ailgylchu. O ran ailddefnyddio defnyddiau, mae eu casgliadau gwastraff ailgylchadwy swmpus di-dâl wedi bod yn aruthrol o boblogaidd ac wedi lleihau tipio anghyfreithlon, oherwydd nid yw’n gredadwy i feddwl bod pobl yn tipio gwastraff gweddilliol yn anghyfreithlon oherwydd nad oes prin ddim ohono. Dyna pryd y byddwch yn gweld tipio anghyfreithlon yn digwydd, a hynny ar wahân i’r tipio gwastraff masnachol a drefnir yn anghyfreithlon.
Fodd bynnag, o ran siarad â’n poblogaethau, mae'n amlwg bod llawer mwy y gallwn ei wneud. Cefais sgwrs y bore yma gydag etholwr a chefais fy sicrhau ei bod hi a'i chymdogion yn ei chael yn amhosibl cyfyngu eu gwastraff gweddilliol i faint y bin a ddarperir ar gyfer casgliadau bob pythefnos. Wnaeth hi ddim fy argyhoeddi, ac yn ystod y sgwrs, daeth i'r amlwg ei bod hi mewn gwirionedd yn rhoi eitemau y gellir eu hailgylchu yn y bin i eitemau na cheir eu hailgylchu. Mae'n dangos y ffaith y gellid ailgylchu 50 y cant o'r hyn sydd mewn gwastraff cartref na chaiff ei ailgylchu. Felly, yn amlwg mae gennym her fawr yn hynny o beth. Byddwn yn hapus i siarad ag unrhyw un o fy etholwyr sy'n meddwl y gallant ddangos na allant leihau eu gwastraff na ellir ei ailgylchu i'r bin cyfyngedig y mae Caerdydd yn ei ddarparu, gan gofio bod yna gasgliadau ar wahân ar gyfer gwastraff clinigol, gan gynnwys cewynnau. Nid wyf wedi cwrdd ag unrhyw aelwyd sy'n methu â chydymffurfio, yn hytrach na methu â thrafferthu i gydymffurfio neu ddim yn gwybod beth y gellir ac y dylid ei ailgylchu.
Aelodau eraill o'r gymuned sy’n gorfod talu am wastraff pobl anghyfrifol, boed yn y gost o godi sbwriel neu waredu defnyddiau ailgylchadwy fel pe byddai’n wastraff cyffredinol. Rwy’n edrych ymlaen at weld cynllun cymunedol y dreth gwarediadau tirlenwi yn cael ei ddefnyddio i ymdrin â'r ffaith nad oes y fath beth â thaflu i ffwrdd. Mae pob tunnell o wastraff na ellir ei ailgylchu yn costio £80 y dunnell mewn treth tirlenwi, yn ogystal â chost ei waredu. Mae’r gost cyfle honno’n arwain at beidio â darparu gwasanaethau hanfodol eraill. Felly, mae gennym rwymedigaeth i leihau ein hallyriadau tŷ gwydr o leiaf 80 y cant erbyn 2050, ac nid tirlenwi yw hynny oherwydd y methan a gynhyrchir.
Felly, gallwn weld yn union pa mor dda yr ydym yn llwyddo, gan fod gwastraff na ellir ei ailgylchu yn un o'r 40 o ddangosyddion lles cenedlaethol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae angen i bob awdurdod lleol fabwysiadu arfer gorau i gynyddu cyfraddau ailgylchu. Felly, rwy’n gwrthwynebu gwelliant 4 y mae UKIP yn ei gynnig. Os gall Cyngor Sir Ynys Môn gasglu gwastraff gweddilliol bob tair wythnos, a bod Conwy yn symud tuag at gasgliadau misol, nid wyf yn deall pam na all awdurdodau lleol eraill wneud hynny.
Mae defnyddio bagiau plastig i lawr 70 y cant ers inni gyflwyno’r ardoll. Oni allem ni ddefnyddio ardoll debyg ar gyfer pecynnu gwastraffus, fel y disgrifiodd Simon Thomas ef? Mae Plastics Europe, y corff masnach, yn dweud mai defnydd pecynnu yw dwy ran o dair o’r plastig a ddefnyddir yn y DU, a gallwn ddysgu gan Lywodraeth yr Almaen, a gyflwynodd ddeddfwriaeth yn 1996 i orfodi cwmnïau gweithgynhyrchu i ddylunio pecynnu gwastraffus allan o'u prosesau. Nid yw'n gyd-ddigwyddiad mai’r Almaen nawr yw’r genedl uchaf yn Ewrop o ran ailgylchu, ac yn amlwg dylem gofleidio’r ffordd y maen nhw wedi gwneud pethau.
Yn adroddiad etifeddiaeth pwyllgor amgylchedd y pedwerydd Cynulliad—
Mae angen ichi ddod â'ch sylwadau i ben yn awr.
[Yn parhau.]—awgrymwyd y dylem anghofio targedau ailgylchu sy'n seiliedig ar bwysau a defnyddio targedau sy'n seiliedig ar garbon, er mwyn osgoi cymhellion gwrthnysig ac, yn fwy radical, gallem weddnewid casgliadau gwastraff—
Dewch â'ch sylwadau i ben.
[Yn parhau.]—i fod yn wasanaeth talu wrth ddefnyddio fel trydan a nwy. Ac rwy’n edrych ymlaen at glywed sylwadau'r Llywodraeth.
Mae croeso i unrhyw fenter sy'n lleihau ein hôl troed carbon, wrth gwrs, ond, unwaith eto, rydym yn gweld cynnig sydd, yn anghywir, yn beio'r defnyddwyr yn hytrach na’r gwneuthurwr. Hoffwn weld cynnig sy'n rhoi'r pwyslais ar y bobl hynny sy’n gallu atal cynhyrchu gwastraff yn y lle cyntaf, a’r unig rai sy’n gallu gwneud hynny yw’r rhai sy'n gwneud ac yn gwerthu’r cynnyrch—drwy gyd-ddigwyddiad, y rheini sy'n gwneud llawer o arian oddi wrth ddefnyddwyr Cymru. Mae cadwraeth defnyddio ynni bob amser yn well na cheisio milwrio yn ei erbyn, ac mae lleihau gwastraff yn llawer gwell nag ailgylchu, sydd yn aml yn defnyddio llawer o ynni ynddo’i hun. Yn aml, mae'r nwyon tŷ gwydr a achosir gan broses ailgylchu yn cael eu hanghofio, wrth i bobl ystyried ailgylchu fel rhywbeth sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Mae fel pe byddem ni’n ystyried bod defnydd wedi'i ailgylchu yn niwtral o ran carbon, ond yn amlwg nid yw.
Mae gwneuthurwyr yn gwneud môr a mynydd o'u defnydd pacio y gellir ei ailgylchu, gan obeithio y bydd y defnyddiwr yn anwybyddu'r ffaith y byddai'n llawer gwell i'r amgylchedd pe na byddai’r defnydd pacio erioed wedi cael ei wneud yn y lle cyntaf. Nid yn unig y byddai llai o becynnu yn arbed ar y cynhyrchiad gwreiddiol, byddai hefyd yn golygu y gellid cludo mwy o'r cynnyrch ar y tro, a bod llai o angen cludo gwastraff i weithfeydd ailgylchu. Mae gweithgynhyrchwyr ac adwerthwyr wedi cael rhwydd hynt i wneud hyn, gan fod cost gwaredu ac ailgylchu bob amser wedi cael ei throsglwyddo i'r defnyddiwr. Nid oes gan y defnyddiwr unrhyw ffordd o ddewis opsiwn ystyrlon â llai o ddefnydd pecynnu ar y silffoedd, felly mae'n hanfodol bod llawer mwy yn cael ei wneud i orfodi gweithgynhyrchwyr i ddefnyddio llai o ddefnydd pecynnu. Hyd yn hyn, mae'r holl fentrau wedi gwarchod busnesau mawr a cholbio’r defnyddiwr. Hoffwn weld hyn yn gwrthdroi. Gadewch inni sefyll dros y defnyddiwr, sydd, wedi'r cyfan, yn gorfod talu am fag i gludo’r defnydd pecynnu i mewn a’r dreth gyngor i gael gwared arno, a gwneud yn siŵr bod y rheini sydd mewn sefyllfa i wneud rhywbeth am y peth, sef y gwneuthurwr a’r adwerthwr, yn gwneud rhywbeth mewn gwirionedd.
Un enghraifft o allu rhoi’r argraff anghywir yw’r tâl am fagiau siopa. Mae'n annidwyll defnyddio'r ffigurau sy'n cael eu dyfynnu am ddefnyddio llai o fagiau, oherwydd nid yw hynny o reidrwydd yn adlewyrchu gostyngiad tebyg yn swm y plastig a ddefnyddir. Mae'r bagiau 5c gan rai adwerthwyr yn cynnwys llawer mwy o blastig na'r hen fagiau untro. Felly, nid yw’r gostyngiad yn nifer y bagiau a ddefnyddir o reidrwydd yn adlewyrchu gostyngiad cyfatebol yn y plastig sy’n cael ei waredu, a bydd yn rhaid cael gwared ar y holl fagiau am oes hynny, sydd hefyd yn cynnwys llawer mwy o blastig, ar ryw adeg yn y dyfodol beth bynnag. Gadewch inni osod targed ystyrlon sy'n ymwneud yn benodol â'r ôl troed carbon.
Mae'r cynnig hefyd yn anwybyddu rhai ffactorau pwysig eraill sy’n creu gwastraff a nwyon tŷ gwydr. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod bwyd a daflwyd yn cynhyrchu mwy na 21 miliwn o dunelli o nwyon tŷ gwydr bob blwyddyn. Mae'r swm sy’n cael ei wastraffu o ddim ond un cynnyrch bwyd, cyw iâr, yn cyfateb i’r un faint o nwyon tŷ gwydr ag a gynhyrchir gan 290,000 o geir y flwyddyn, ac eto rydym ni’n gwneud y nesaf peth i ddim i ymdrin â'r mater hwn. Mae aelwydydd Cymru’n taflu llai o fwyd i’r bin na gweddill y DU, ac mae hynny'n dda iawn, ond yn 2015, taflodd aelwydydd Cymru werth £13 biliwn a dros 300,000 tunnell o fwyd. Meddyliwch beth fyddai’r banciau bwyd wedi’i wneud â’r holl fwyd hwnnw pe byddai wedi'i roi iddyn nhw ar y ffordd allan o'r archfarchnad yn lle gorwedd mewn oergell ac yna cael ei roi yn y bin oherwydd ei fod wedi mynd heibio’r dyddiad. Mae'n wastraff o fwyd, o'r ynni a’r adnoddau a aeth i’w gynhyrchu, ac, yn achos cig, mae’n wastraff bywyd enfawr. Ble mae polisi Llywodraeth Cymru ar hyn?
Mae'r cynigion a amlinellir yn y cynnig yn iawn ynddynt eu hunain, ond yn syml nid ydynt yn ddigon ac mae’n ymddangos eu bod yn ymwneud mwy â thargedau y gall Llywodraeth Cymru eu defnyddio i ymffrostio, yn hytrach na rhoi hwb i ymdrin â nwyon tŷ gwydr. Nid yw’r targed o geisio bod y wlad orau yn y byd am ailgylchu, yn ei hanfod, yn golygu dim byd. Byddai’n bosibl i fod y wlad orau yn y byd am ailgylchu a bod â’r ôl troed carbon gwaethaf ar yr un pryd. Os aiff Llywodraeth Cymru i lawr y llwybr hwn mewn ymgais i edrych fel brenin neu frenhines ailgylchu, y perygl yw y byddwn yn hytrach, yn y pen draw, yn ymerawdwr yr amgylchedd sy’n gwisgo dillad eithaf amheus. Diolch.
Diolch yn fawr am roi'r cyfle imi i siarad yn y ddadl bwysig iawn hon. Hoffwn ddechrau drwy ddweud, fel y gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gyflwyniad, pa mor falch yr wyf o'r hyn yr ydym wedi llwyddo i’w wneud yma yng Nghymru ynglŷn ag ailgylchu. Mae'n ddrwg gen i bod UKIP mor grintachlyd â rhai o'u sylwadau, oherwydd rwy’n meddwl, os ydym wedi gwneud y fath gynnydd da iawn, bod angen inni gydnabod hynny. Rwy’n meddwl bod y dreth ar fagiau plastig wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac yn sicr mae wedi bod yn un o'r ffyrdd mwyaf dychmygus o sicrhau ymrwymiad pobl i ailgylchu.
Felly, rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith ein bod bellach yn Ewrop yn ail i'r Almaen yn unig; mae ein cyfradd ailgylchu yn 62 y cant o'i chymharu â 66 y cant yr Almaen. Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn bod Cymru wedi gosod targedau ailgylchu statudol. Rwy’n croesawu'r ailgylchu 70 y cant erbyn 2025 ac rwy’n cymeradwyo byrdwn y strategaeth 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff', ac rwy'n siŵr y byddwn cyn bo hir y cyntaf yn y byd.
Nawr, yng Nghaerdydd, fel y mae Jenny Rathbone, fy nghyd-Aelod, wedi’i ddweud yn barod, mae'r cyngor wedi rhoi arweiniad cryf i gynyddu cyfraddau ailgylchu. Yn wir, yng ngogledd y ddinas, yng Ngogledd Caerdydd, mae 95.4 y cant o drigolion Gogledd Caerdydd yn defnyddio gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu’r ddinas. Rwy'n edrych ymlaen at yr ymrwymiad y bydd cyfleuster ailgylchu newydd yng ngogledd y ddinas, yn ogystal â'r gwasanaeth di-dâl llwyddiannus iawn a gynigir yn awr gan y cyngor i godi nwyddau swmpus, sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol, a soniodd fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone am hynny hefyd.
Mae cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg—sy’n beth gwych, gan fod y ddau gyngor yn gweithio gyda'i gilydd—bellach hefyd yn gallu ailgylchu 97 y cant o wastraff bwyd yn y treulydd anaerobig newydd yn y ddinas, a agorwyd yn swyddogol yr wythnos diwethaf. Yn ogystal â gallu ymdrin â 35,000 tunnell o wastraff bwyd, mae eisoes yn cynhyrchu trydan gwyrdd fel sgil-gynnyrch ac yn fuan bydd yn cynhyrchu digon o bŵer i 4,000 o gartrefi yn ogystal â chynnyrch cyflyru pridd. Felly, mae'n cwmpasu sawl maes.
Rwy’n croesawu'r ffaith bod cynghorau yn gweithio gyda'i gilydd i ymdrin â gwastraff bwyd. Fodd bynnag, rwy’n meddwl y dylem gofio bod gan bob un ohonom gyfrifoldeb unigol i geisio lleihau gwastraff ein hunain, ac rwyf hefyd yn meddwl bod yr archfarchnadoedd yn chwarae rhan allweddol yn hyn. Cynhaliais ddadl fer am wastraff bwyd ym mis Tachwedd 2015, pan oedd yr Ysgrifennydd y Cabinet presennol yn Weinidog Cyfoeth Naturiol ar y pryd. Rwy'n credu ein bod wedi dweud ar y pryd y gallai'r Cynulliad efallai edrych ar y cymhwysedd deddfwriaethol sydd gennym yma o ran rheoli'r gwastraff a gynhyrchir gan archfarchnadoedd, gan ddilyn deddfwriaeth a gyflwynwyd yn Ffrainc. Roeddwn yn meddwl tybed efallai a oedd hynny’n rhywbeth y gallem ddychwelyd ato a gweld a oes unrhyw gymhwysedd deddfwriaethol i weithredu ar hynny.
Byddwn hefyd yn annog y Llywodraeth i fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer cynlluniau dychwelyd blaendal ar gyfer poteli diodydd a chaniau, o bosibl. Rydym yn gwybod bod yr Alban wedi cyhoeddi ei bod yn mynd i gynnal treial o gynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd, felly rwy’n meddwl y gallwn ddysgu o’r hyn y maen nhw’n mynd i'w wneud. Ond rwyf hefyd yn gobeithio y gallwn ddechrau arbrawf tebyg yng Nghymru cyn gynted ag y bo modd.
Soniodd Simon Thomas am gefnogaeth Coca-Cola, sydd wedi ei grybwyll yn barod, ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod yn perswadio’r sefydliadau mawr hyn i gytuno â ni. Rwy'n meddwl y dylai cynllun dychwelyd blaendal fod yn rhan o strategaeth gyffredinol. Dylai chwarae rhan mewn economi gylchol. Ond yr hyn a ddywedodd Coca-Cola mewn gwirionedd oedd, drwy eu hymchwil, bod 63 y cant o'u defnyddwyr o blaid dychwelyd blaendal yn y DU, bod a 51 y cant yn dweud y byddent yn fwy tebygol o ailgylchu pe byddai cynllun o'r fath yn cael ei gyflwyno.
Felly, i gloi, rwy’n teimlo bod Cymru wedi cymryd camau breision yn y maes hwn. Rwy'n meddwl bod gennym lawer i fod yn falch ohono. Mae ffordd bell i fynd eto, ond rwy’n meddwl bod llawer o syniadau a mentrau newydd y gallwn eu dilyn i roi hwb i'n cyfraddau ailgylchu i godi yn uwch fyth.
Rwyf yn rhannu'r sylwadau am Gymru. Dylem ni longyfarch ein hunain ar fod yn drydydd yn y byd. Mae hynny mewn gwirionedd yn anrhydedd arwyddocaol iawn, iawn ac yn amlwg yn gyfle i gynnal ein safle ar y blaen o ran ailgylchu fel cyfraniad at ein nodau amgylcheddol, ond mae hefyd yn darparu cyfle inni sicrhau bod cynaliadwyedd wrth wraidd ein heconomi. Mae hyn yn cyflwyno cyfleoedd mwy eang inni.
Wrth iddi ystyried y ddadl hon maes o law, pan fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ôl gyda ni, byddwn yn gofyn iddi ystyried cynnwys adroddiad Sefydliad Bevan ym mis Mehefin 2016, 'Treth ar gyfer Da', sydd a dweud y gwir yn gwneud rhai argymhellion diddorol iawn sy’n berthnasol i ddadl heddiw. Mae'n edrych ar y pŵer o dan Ddeddf Cymru 2014 i'r Cynulliad gynnig trethi cwbl newydd mewn meysydd datganoledig.
Un o'r trethi y mae'r adroddiad yn eu harchwilio yw’r syniad o dreth pecynnu bwyd tecawê, gan gynnwys polystyren wedi’i ehangu, sy’n ffurf boblogaidd iawn o becynnu, yn enwedig yn y diwydiant bwyd tecawê oherwydd ei nodweddion thermol, nid yw'n effeithio ar y bwyd a diod ac mae hefyd yn hynod gost-effeithiol. Mae'n costio tua hanner cymaint â dewisiadau amgen bioddiraddadwy, sy’n llawer mwy costus o ganlyniad.
Yr her i ni, wrth gwrs, yw mai ychydig iawn o gyfleoedd ailgylchu sydd yng Nghymru, fel mewn mannau eraill, ar gyfer cynhyrchion polystyren. Felly, o ganlyniad, mae'n wastraff sy'n tueddu i fynd i safleoedd tirlenwi neu fod yn sbwriel. Bythefnos yn ôl, rwy’n meddwl, treuliais fore Sadwrn hyfryd ar gamlas Nedd yn glanhau’r sbwriel oddi ar y glannau. Roedd cyfran sylweddol o hwnnw, roedd yn ymddangos i mi, yn bolystyren. Mae'n ysgafn iawn ac yn arnofio ac felly mae’n broblem benodol o ran dyfrffyrdd a moroedd. Felly, rwy’n meddwl bod yna her arbennig inni yn hynny o beth.
Nid yw'r math hwn o dreth heb ei rwystrau na heb ei gyfyngiadau. Mae materion cydymffurfiad sylweddol posibl, er bod nifer o'r allfeydd sy'n ei ddefnyddio yn rhai sydd â pherthynas eisoes â llywodraeth leol, at ddibenion hylendid bwyd ac yn y blaen. Felly, ceir mecanweithiau i gyflawni'r canlyniad hwn. Mae angen inni fod yn ofalus am y goblygiadau cyflogaeth wrth gyflwyno treth o'r math hwn. Byddai’n effeithio ar lawer o swyddi yn rhai o'r sectorau pecynnu. Ond, rwy'n meddwl, ar y pwynt olaf hwnnw, y dylem edrych ar rywfaint o'r profiad y maent wedi’i gael yn rhai o wledydd Llychlyn lle maen nhw wedi cymryd camau blaengar iawn o ran y math hwn o fesur.
Yn y Ffindir, er enghraifft, pan gyflwynwyd treth debyg yno, er nad yw'r dreth yn codi llawer iawn o refeniw, mae'n ymddangos ei bod wedi arwain at gynhyrchu diwydiannau pecynnu newydd a dyfodiad diwydiannau eraill, fel glanhau gwydr y gellir ei ailddefnyddio. Felly, mae cyfleoedd posibl sy'n codi o hyn. Rwy'n meddwl ei fod yn ein hatgoffa bod yr economi gylchol—ydy, mae'n ymwneud ag ailgylchu, ond mae hefyd yn ymwneud â chyfres sylfaenol wahanol o berthnasoedd â’n hasedau a'r hyn yr ydym yn ymdrin ag ef mewn bywyd bob dydd, y tu hwnt i waredu. Mae cyfleoedd ar gyfer datblygu economaidd a allai godi o hyn hefyd. Felly, rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried hynny’n ofalus.
Diolch am ganiatáu imi gymryd rhan. Nid wyf am ailadrodd unrhyw beth sydd eisoes wedi ei ddweud, felly rwyf eisiau canolbwyntio fy nghyfraniad at ddadl heddiw ar y gwahanol ddulliau o gasglu gwastraff. Mae tri phrif fath. Dull casglu o ymyl y ffordd yw’r dull a argymhellir gan Lywodraeth Cymru yn ei glasbrint casglu. Mae hynny'n golygu bod y defnyddwyr yn didoli'r gwastraff ailgylchadwy sych i wahanol ddefnyddiau yn y mannau lle caiff ei gasglu.
Ar ben arall y raddfa, mae yna ddull arall o'r enw cyd-gymysgu, lle mae'r holl ddefnyddiau ailgylchadwy sych yn cael eu casglu mewn un cynhwysydd neu fag a'u didoli yn y cyfleuster adfer deunyddiau. Y broblem yw bod y dull casglu gwastraff cyd-gymysgu yn aml yn arwain at gyfradd uwch o wrthod gwastraff ailgylchadwy oherwydd croeshalogi. Mae gan y ddau ddull, wrth gwrs, fanteision ac anfanteision. Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn, lle mae didoli ar ymyl y ffordd wedi cael ei gyflwyno, ei fod wedi gweld gwrthwynebiad cryf a hefyd rhai cyfraddau is o ailgylchu. Rwy’n cydnabod hefyd na fydd y math hwn o ddidoli ar y stryd yn addas i bawb—bod yna bobl mewn fflatiau, bod yna bobl sy'n fregus ac yn agored i niwed—ac y gallai fod rhai anawsterau y gallai awdurdodau lleol ymdrin â hwy drwy chwarae eu rhan a dod o hyd i atebion i'r teuluoedd hynny. Rydym wedi clywed rhai o'r materion hynny yma heddiw. Rwy’n credu y gallai cael un dull casglu gwastraff ar gyfer Cymru gyfan helpu i leddfu'r dryswch yr ydym wedi bod yn sôn amdano yma heddiw gyda’r dulliau lluosog hyn, a chreu dealltwriaeth sengl o'r hyn y dylid ei ailgylchu.
Rwyf hefyd yn cydnabod, er mwyn inni gyflawni economi gylchol yng Nghymru, bod angen inni ddefnyddio cymaint â phosibl o'r deunydd ailgylchadwy a gesglir yng Nghymru, ac mae gan wastraff trefol ran bwysig i'w chwarae yn hynny. Er mwyn cyrraedd y targed ailgylchu o 70 y cant erbyn 2025, mae’r glasbrint casglu yn argymell casglu gwastraff arall i’w ailgylchu o ymyl y ffordd, er enghraifft, tecstilau, esgidiau a defnyddiau eraill heblaw deunydd pecynnu nad oes neb wedi sôn amdanynt yma heddiw. Tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ofyn i'ch cydweithiwr, pan ddaw hi’n ôl, a allai hi ystyried hynny.
Mater arall yr hoffwn ei godi heddiw yw mater trwyddedu gwaredu gwastraff swmpus. Rwy’n gwybod, yn aml iawn, y bydd perchnogion tai yn ffonio pobl am eu bod wedi clywed y byddant yn cael gwared ar eu gwastraff, ac y byddant yn ei wneud yn rhatach, weithiau, na rhai eraill sydd â thrwyddedau. Rwy'n meddwl bod yna broblem fawr yn y fan yma. Nid wyf yn credu bod pobl yn sylweddoli bod cynllun o'r fath yn bodoli. Rwy'n credu eu bod yn gwneud hyn mewn anwybodaeth o’r cynllun hwnnw. Wrth gwrs, mae'r gwastraff sy'n cael ei gasglu am £2 neu £3 yn cael ei adael ar ben eu stryd, efallai, neu ddim yn bell iawn i ffwrdd.
Y mater arall yr hoffwn ei godi, oherwydd rwyf wedi fy syfrdanu heddiw i glywed bod cyngor Caerdydd yn casglu gwastraff swmpus am ddim. Yn Sir Benfro, mae'n £40. Gallwch, wrth gwrs, ailgylchu hyd at 10 eitem, os mynnwch, ond nid wyf yn adnabod llawer o bobl sydd â chynifer â hynny o eitemau. Mae’r isafswm tâl o £40, yn fy marn i, yn gost warthus, ac mae’n sicr o ychwanegu, yn ôl pob tebyg, at y posibilrwydd o dipio anghyfreithlon.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ymateb i’r ddadl—Carl Sargeant.
Diolch, Lywydd. Dadl ddiddorol iawn, gyda’r cyfraniadau a godwyd gan lawer heddiw. Diolch am y cyfle i ymateb. Rwy’n mynd i ystyried pob un o'r pwyntiau a wnaethpwyd wrth lywio ein ffordd ymlaen, ac rwy'n gwybod y bydd swyddogion y Gweinidog yn gwylio'n ofalus, nid yn unig o ran yr hyn yr wyf i’n ei ddweud, ond hefyd yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud o ran y cyfleoedd y bydd hynny’n eu cyflwyno yn y dyfodol. Rwy'n siŵr y byddan nhw’n rhoi cyngor i'r Gweinidog ar y materion hynny.
Mae'r Llywodraeth yn gwrthwynebu gwelliant 1 i'r cynnig, ac yn cefnogi gwelliannau 2 a 3. Rydym yn ystyried y cynllun dychwelyd blaendal. Rwy’n gwybod bod Julie Morgan wedi cyfeirio at hyn ers amser maith, ac mae'n rhywbeth yr wyf yn gwybod bod y Gweinidog yn awyddus i fynd ar ei drywydd. Mae'r Llywodraeth hefyd yn gwrthwynebu gwelliannau 4 a 5. Nid yw'r Llywodraeth yn ymwybodol o unrhyw dystiolaeth am gasglu, dim ond y dystiolaeth anecdotaidd y mae Aelodau wedi’i chodi yma heddiw am y gwahaniaeth rhwng amlder casglu gwastraff gweddilliol a thipio anghyfreithlon. Mae llawer o awdurdodau lleol yn arddangos arfer gorau, ac mae llawer o Aelodau heddiw wedi cyfeirio at hynny. Mae'r awdurdodau hyn yn cwmpasu gwahanol fathau o ddemograffeg gymdeithasol a gwahanol fathau o wasanaethau. Gallai rhoi sylw penodol i unrhyw un awdurdod yn y cyd-destun hwn fod yn anodd, ond rydym, fel y Senedd heddiw, wedi dathlu’r ffaith bod Cymru yn flaenllaw yn y byd o ran ailgylchu. Mae Julie ac eraill yn gwbl gywir i ddweud y dylem fod yn dathlu hyn. Mae'n dangos enghraifft o'r hyn y gall Cymru ei gyflawni pan ein bod yn cydweithio.
A gaf i sôn am rai o'r pwyntiau a godwyd gan Aelodau heddiw, os caf, Lywydd? Mae llawer o bobl wedi sôn am faterion diolch i gymunedau—y bobl yn ein cymunedau sy'n darparu’r gwasanaethau hyn gydag awdurdodau lleol, ac rwyf innau'n eu llongyfarch hefyd. Maen nhw’n rhan bwysig o'r broses hon. Nid mater o beth all y Llywodraeth ei wneud yw hyn. Mae gan bob un ohonom ddyletswydd i ofalu am ein hamgylchedd a sicrhau ein bod yn rheoli'r cynnyrch gwastraff sy'n cael ei greu yn y gymdeithas.
Cododd Jenny Rathbone faterion bwyd a gwastraff bwyd, ac mae hi'n hollol gywir. Ar y penwythnos prynais focs o lysiau diolwg, oherwydd nad oes dim byd o gwbl o'i le ag ef, ond mae'n gwneud cinio dydd Sul gwych. Ac mae'r mater yn ddifrifol iawn, a dweud y gwir. Mae hyn yn fater o sicrwydd bwyd hirdymor y mae'n rhaid inni feddwl yn ofalus amdano, ac, felly, mae’r Aelod yn iawn i godi'r mater hwn, ac mae’r ystadegyn brawychus a gododd hi am wastraff bwyd yn rhywbeth yr wyf yn gwybod bod y Gweinidog yn pryderu amdano.
Roedd y mater a godwyd gan Julie Morgan ac eraill, soniodd Jeremy Miles am safbwynt pwysig iawn am—. A dweud y gwir, nid dim ond mater o’r rhaglen gwastraff bwyd yw hwn; mae'n ymwneud â'r dechnoleg sy'n dod oddi yno hefyd. Rwy’n cofio pan oeddwn yn Weinidog â chyfrifoldeb am yr adran hon, ymwelais â lle yn y gogledd a oedd yn gwneud bocsys wyau a gwahanol gartonau allan o laswellt, sy'n gynnyrch cynaliadwy, ac roedd i gyd yn ailgylchadwy.
Mae hynny'n dod â mi’n daclus at y cyfraniad gan Aelodau UKIP a'r Ceidwadwyr. [Chwerthin.] Mae mater Gareth Bennett, ei gyfraniad agoriadol oedd, 'Nid ydym yn gwybod ble yr ydych chi'n mynd gydag ailgylchu, felly ni fyddwn yn cefnogi hyn.' Wel, Gareth, rydym yn ail yn Ewrop ac yn drydydd yn y byd. Mae hynny'n dweud rhywbeth wrthych, rwy’n gobeithio, ein bod yn un o genhedloedd mwyaf arloesol y byd o ran cyflawni. Hefyd, gwelais yn ddiweddar ar y rhyngrwyd waith gwych sy'n digwydd ar draws llawer o gymunedau, gan gynnwys Caerdydd, lle mae gennych lawer o gynghorwyr gwych, ond ein cynghorwyr lleol Ed Stubbs a Huw Thomas, yna y diwrnod o'r blaen, gyda'u cymuned leol, yn codi sbwriel, gyda'u trigolion, yn gwneud gwaith gwych. Ni ddylem danbrisio’r cyfleoedd y mae hynny’n eu rhoi. Ond rydym yn gwybod bod hanes i hyn. Gareth Bennett, codais yr erthygl, a dweud y gwir, erthygl yn y 'Western Mail', o'r adeg pan oedd yr Aelod yn sefyll cyn yr etholiad, a oedd yna’n beio lleiafrifoedd ethnig am godi sbwriel yng Nghaerdydd. Rwy'n meddwl bod yr Aelod—. Nid wyf yn cofio a yw'r Aelod erioed wedi ymateb i hynny neu wedi ymddiheuro i'n lleiafrifoedd ethnig—
A wnewch chi ildio?
Gwnaf, fe wnaf; rwy'n fwy na bodlon.
Rydych yn rhannol gywir, ond byddwn yn eich cynghori i edrych ar y darn gwreiddiol a ysgrifennodd Martin Shipton, oherwydd doeddwn i ddim yn beio lleiafrifoedd ethnig yn unig; roeddwn i’n beio myfyrwyr hefyd.
Felly, nid dim ond lleiafrifoedd ethnig, ond eraill hefyd. Rwy'n meddwl y byddai wedi bod yn well i'r Aelod ddefnyddio’r cyfraniad yna i ymddiheuro i bobl Caerdydd, yn hytrach na gwneud cyfleoedd yn y fan yna.
A'r mater a gododd Michelle Brown yn ogystal, gwrandewais yn astud iawn ar hynny. Mae hi'n bychanu'r mater o amgylch taliadau am fagiau siopa. Mae’r dyddiau wedi hen fynd, rwy’n gobeithio, pan oedden ni’n gweld coed wedi’u gorchuddio â bagiau plastig. Roedden ni’n arfer eu tyfu nhw yng Nghymru, ond nawr nid yw'n ymddangos bod hynny i’w weld. Rydym wedi llwyddo i reoli’r mater hwnnw. Mae yna hefyd y mater bod yn rhaid inni fod yn gyfrifol am y boblogaeth, ond mae gan bawb gyfrifoldeb ynglŷn â gwastraff. Yn fy nghyfraniad, ar y dechrau, soniais wrth yr Aelod a'r Siambr am fwy o gyfrifoldeb i gynhyrchwyr a'r mater yn ymwneud â gwastraff bwyd hefyd, felly byddwn yn gobeithio fy mod wedi rhoi rhywfaint o hyder i’r Aelod o ran yr hyn y gallwn ei wneud yma yng Nghymru.
Simon Thomas, unwaith eto, yn gefnogol iawn gyda’i gyfraniad, ac mae wedi ymgyrchu ers amser maith ar safonau amgylcheddol.
A gaf i sôn am y ddau bwynt olaf gyda'r Aelodau Ceidwadol? Rhoddodd Russell George rai heriau i mi. Wel, rhof innau rai atebion iddo ef, a Darren Miller, ei gydymaith, yr hyrwyddwr gwm cnoi o'r gogledd. Maen nhw’n dweud un peth, ond mewn gwirionedd maen nhw’n golygu rhywbeth arall. Maen nhw’n dweud eu bod yn gefnogol i ailgylchu a’i fod yn mynd yn ei flaen yn dda iawn, ond, a dweud y gwir, yn y pen draw, maen nhw eisiau gwrthwynebu’r holl newidiadau y mae angen i awdurdodau lleol eu gwneud yn y broses honno. [Torri ar draws.] Mae'n wir, oherwydd gadewch inni sôn am Russell George. Rwy’n deall, Russell. Holasoch fi am yr hyn y gall Powys ei wneud—rydych yn gynghorydd yn yr awdurdod—a beth arall y gallwn ni ei wneud i helpu. Beth sydd yn helpu gyda Chyngor Powys yw eu bod yn gallu gwario eu cyllideb, ond rwy’n credu eich bod wedi pleidleisio yn erbyn eu cyllideb o ran caniatáu iddyn nhw greu gwell amgylchedd ar gyfer ailgylchu.
Felly sut y gallant gadw eu canolfannau ailgylchu gwastraff ar agor, a chithau’n cymryd yr arian i wneud hynny oddi arnynt? Gadewch imi hefyd atgoffa'r Aelodau—[Torri ar draws.] Fe dderbyniaf ymyriad. Byddwn wrth fy modd. Gadewch imi hefyd atgoffa'r Aelodau gyferbyn. [Torri ar draws.] Lywydd, gadewch imi atgoffa’r Aelodau gyferbyn: roeddent yn siarad am yr hyn yr ydym yn ei wneud dros yr amgylchedd a'r hyn y gallwn ei wneud i helpu busnesau hefyd. Rwyf hefyd yn cofio pan gyflwynwyd y Ddeddf amgylchedd yn y Llywodraeth ddiwethaf, bod y bobl hynny wedi pleidleisio yn erbyn hynny, hefyd. Felly, peidiwch â honni eich bod yn hyrwyddwyr yr amgylchedd; dydych chi ddim yn hyrwyddwyr yr amgylchedd, gwleidyddol ydych chi—. Dim ond herio’r cylch gwleidyddol ydych chi, yn ceisio ennill pleidleisiau lle nad yw'n helpu.
Lywydd, i orffen, rydym yn ail yn Ewrop, yn drydydd yn y byd o ran ein cyfleoedd ailgylchu, ac rwy’n cynnig y cynnig heddiw. [Torri ar draws.]
A gawn ni glywed y Gweinidog yn gorffen? [Aelodau'r Cynulliad: 'Clywch, clywch.']
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gorffen. Diolch i chi am hynna. Er ichi wneud cyfraniad mor bwysig y prynhawn yma, rwy'n siŵr y byddwn i gyd yn edrych ymlaen at weld Lesley Griffiths yn ôl yn y Siambr hon a’n bod, yn bwysicach, yn dymuno'n dda iddi wrth iddi wella ar ôl ei damwain.
The proposal therefore is to agreement amendment 1. Does any Member object? [Objection].
Ac felly, rydym yn symud i gyfnod y bleidlais ar yr eitem yma. Rydym yn cyrraedd cyfnod y bleidlais os nad oes tri Aelod yn dymuno i fi ganu’r gloch.