Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 14 Mawrth 2017.
Ydy, mae'n ddigon posibl bod yna achos o blaid rhoi gwell cyngor i ddeiliaid tai, ac os bydd rhyw fath o raglen ystyrlon i wneud hynny, ni fyddem yn lladd ar y polisi hwnnw. Ond dim ond nodi yr wyf y gall bwriadau da weithiau arwain at ganlyniadau gwaeth, felly mae’n rhaid inni fod yn ymwybodol iawn o broblem tipio anghyfreithlon, ond rwy’n gwerthfawrogi'r pwynt yr ydych yn ei wneud.