Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 14 Mawrth 2017.
Diolch, Lywydd, ac rwy’n cynnig y gwelliannau. Wrth gwrs, hyd yn oed wrth drafod sbwriel mae’n rhaid wrth ffeithiau, rydw i’n meddwl, ac yn gyffredinol mae Plaid Cymru yn cefnogi ymdrechion y Llywodraeth i symud tuag at dim gwastraff. Yn wir, mae’n polisi ni am gyflymu’r broses yna, achos rydym ni’n credu ein bod ni’n gallu cyflawni hynny i bob pwrpas erbyn 2030 yng Nghymru, a drwy wneud hynny creu swyddi tu fewn i’r economi leol a chreu cyfoeth allan o’r gwastraff hefyd, achos mae yna werth bob tro i wastraff.
Mae rhai cynghorau yng Nghymru yn gosod y nod. Mae’n wir dweud fod Ceredigion ar y blaen ac wedi cyrraedd dros 68 y cant o ailgylchu erbyn hyn, bron 10 mlynedd o flaen yr amcan o 70 y cant sydd gan y Llywodraeth erbyn 2025. Mae modd felly clodfori cynghorau pan fyddan nhw’n cyrraedd yna ac yn dweud eu bod yn gosod templed ar gyfer awdurdodau eraill. Mae modd hefyd gresynu bod rhai cynghorau nid yn unig yn peidio â chyrraedd y nod sy’n cael ei osod gan y Llywodraeth, ond yn mynd yn ôl. Mae Blaenau Gwent, er enghraifft, erbyn hyn yn ailgylchu 5 y cant yn llai o wastraff na’r oedden nhw’n ei wneud pedair neu bum mlynedd yn ôl, ac mae hynny’n siom.
Wedi dweud hynny, nid yw’n bolisi gan Blaid Cymru bod yn rhaid i ni gael yr un dull casglu a delio gyda gwastraff ar draws Cymru. Mae gwahanol ardaloedd a natur ardaloedd—natur wledig yn benodol—yn golygu bod yn rhaid rhoi rhywfaint o ryddid i awdurdodau lleol i gydweithio â’i gilydd i ddod i fyny ag atebion sydd yn berthnasol iddyn nhw, ond sydd y tu fewn i’r amlen o gyrraedd dim gwastraff.
Nawr, mae yna fwlch—hyd yn oed gyda’r ffaith bod Cymru’n gwneud cystal ar ailgylchu—mae yna fwlch o hyd yn y gwastraff sydd yn mynd i dirlenwi a gyda gwastraff nad oes modd ei ailddefnyddio. Mae hynny’n cynnwys gwastraff megis polystyren a ‘styrofoam’— rhywbeth sy’n cael ei wahardd mewn rhai gwledydd erbyn hyn, a rhywbeth rwy’n meddwl o ddifri y dylem ni ystyried ei wahardd yma yng Nghymru. Os nad oes gennym ni rym o dan y Ddeddf Cymru newydd, fe ddylem gydweithio gyda gwledydd eraill yn ynysoedd Prydain, a hefyd ein partneriaid o hyd yng ngweddill Ewrop, i wahardd y math yma o becynnu.
Mae Plaid Cymru hefyd yn gryf o’r farn y dylid cael cynllun dychwelyd ar gyfer poteli a deunyddiau plastig, gwydr a chaniau. Rydym yn gweld hyn yn gyffredinol drwy wledydd Ewrop, ac, yn wir, rwy’n gweld mwy o siopau bach yn y gwledydd sy’n arddel y dulliau hyn nag ydym yn ei weld yng Nghymru. Nid wyf yn credu, felly, bod hwn yn rhwystr i’r economi lleol, ond yn hytrach yn mynd i ychwanegu at yr economi lleol. Mae modd i sicrhau bod hynny’n fudd i siopau ac i gwsmeriaid, fel sydd yn digwydd yn yr Almaen eisoes, ymysg rhai gwledydd eraill.
Y brif broblem sydd gennym yw plastig. Mae plastig yn fath o danwydd; mae’n ddefnydd o olew. Ac mae plastig, yn enwedig y gleiniau mân, neu’r mân leiniau—os taw dyna’r gair am ‘microbeads’—yn broblem o hyd yn yr amgylchedd, er ein bod ni’n eu gwahardd o ‘cosmetics’ yn ystod y flwyddyn nesaf. Mae’r effaith ar bysgodfeydd ac ar ein traethau ni’n arbennig o andwyol, ac rydym ni eisiau gweld mwy o fynd i’r afael â phlastig o’r math yma, a pheidio â defnyddio olew, a dweud y gwir, at bwrpas mor brin ag i greu pecynnau sydd ddim eu hangen, ac yn hytrach defnyddio’r adnodd prin o olew ar gyfer ei brif bwrpas, tra’i bod gennym ni, o ynni, ac ar gyfer cemegau sydd o werth yn yr economi yn ogystal.
Felly, mae modd, rwy’n meddwl, pe byddem ni’n gallu rhoi cynllun dychwelyd poteli ac ati, at ei gilydd; cynllun i wahardd rhai deunyddiau plastig nad oes modd eu hailgylchu, megis polystyren; a hefyd cynllun, er enghraifft, i wneud yn siŵr bod unrhyw fwyd sy’n cael ei weini ar y stryd yn defnyddio pecynnau sy’n cael eu hailgylchu neu’n ‘biodegradable’—mae modd helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd y nod o economi dim gwastraff erbyn 2050. Mae Plaid Cymru a gwelliannau Plaid Cymru’n ceisio helpu’r Llywodraeth tuag at y nod hwnnw.
Mae’n braf iawn gweld y Gweinidog yn ôl yn ei le yn gwneud y gwaith yma yr oedd e’n arfer ei wneud yn y Llywodraeth flaenorol, a dyma gyfle hefyd i ddymuno’n dda i Lesley Griffiths i wella’n glou iawn, gobeithio, o’i hanffawd.