Part of the debate – Senedd Cymru am 5:33 pm ar 14 Mawrth 2017.
Diolch, Lywydd. A gaf i gynnig gwelliant 3 yn enw Paul Davies sy’n galw am gyflawni canlyniadau datblygu cynaliadwy drwy economi fwy cylchol yma yng Nghymru? A, chyn imi fynd i mewn i fy araith, a gaf i hefyd adleisio sylwadau Simon Thomas yn dymuno gwellhad buan i Lesley Griffiths?
Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn parhau i hyrwyddo’r agenda lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu, a dyna pam yr ydym wedi bod yn gwbl gefnogol i'r uchelgais yn 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff', sydd wedi cael ei amlinellu gan Lywodraeth Cymru. Yn wir, roeddem yn falch iawn o glywed y cyhoeddiad a wnaethpwyd yn ddiweddar ynghylch y £6.5 miliwn, sydd wedi ei ddarparu i fusnesau er mwyn helpu i hybu'r economi gylchol yng Nghymru, oherwydd ein bod yn gwybod, pe byddem yn datblygu economi wirioneddol gylchol yma yng Nghymru, y gallai arbed tua £2 biliwn y flwyddyn inni, sy’n arian yn ôl i economi Cymru y gellir ei wario mewn meysydd mwy cynhyrchiol, fel y gallwn, yn hytrach na llosgi gwastraff neu roi gwastraff mewn safleoedd tirlenwi yn ddiangen, ddefnyddio’r gwastraff hwnnw mewn ffordd fwy cyfrifol sydd hefyd yn ychwanegu gwerth at ein heconomi.
Rydym o blaid ymchwilio pellach i gynlluniau blaendal ar gyfer gwydr, caniau ac, yn wir, ar gyfer plastigion. Ac rydym yn croesawu’r newid agwedd tuag at gynlluniau blaendal gan rai cwmnïau mawr yn yr wythnosau diwethaf. Ond rwyf yn meddwl tybed a ellir gwneud mwy, yn enwedig o ran cynlluniau ardollau weithiau. Rydym yn gwybod am yr effaith enfawr a gafodd y cynllun ardollau ar fagiau plastig ar ymddygiad defnyddwyr. Cafodd cynllun tebyg ei gynnig, wrth gwrs, gennyf fi ar gyfer ardoll gwm cnoi, oherwydd mae sbwriel gwm cnoi yn felltith yn fy mywyd i, ac efallai yr hoffai’r Gweinidog wneud sylwadau am ymdrin â'r broblem honno.
Ond o ran y sefyllfa o gwmpas Cymru, er ei fod yn wir yn newyddion gwych mai ni yw’r ail wlad yn Ewrop o ran y tabl cynghrair ailgylchu, a’n bod yn drydydd yn y byd, ac er ei bod yn wych bod llawer o awdurdodau lleol wedi gwneud cynnydd rhagorol, gan gynnwys Conwy a Sir Ddinbych yn yr ardaloedd yr wyf i’n eu cynrychioli, rwy'n credu bod mwy o waith i'w wneud o ran rhesymoli'r gwahanol systemau ailgylchu sydd gennym yma yng Nghymru. Mae'n gwbl amhriodol bod gennym 22 o awdurdodau lleol a phob un yn gweithredu systemau gwahanol. Gellid gwireddu arbedion effeithlonrwydd enfawr i drethdalwyr pe byddai rhai o'r awdurdodau lleol hynny'n cydweithio er mwyn trefnu eu gwasanaethau casglu gwastraff. Nid yw’n iawn o gwbl bod gennym y fath amrywiad, er bod angen, wrth gwrs, trefniadau gwahanol mewn ardaloedd gwledig iawn neu ardaloedd lled-wledig o'u cymharu ag ardaloedd trefol, fel y cyfeiriodd Simon Thomas ato’n ddigon teg.