Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 14 Mawrth 2017.
Yr ateb byr iawn i'ch cwestiwn yw 'gwnaf'. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r holl bartïon hynny. Rwyf yn ymwybodol fod y Gweinidog wedi cyfarfod â'r rapporteur, ac yn sicr mae ei farn ef yn unigryw. Ond os oes gan yr Aelod unrhyw bryderon yr hoffai eu codi yn benodol am Ffos-y-fran, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog gan hynny yn croesawu llythyr gan yr Aelod.