Part of the debate – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 14 Mawrth 2017.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Cyn i’r newyddion hyn gyrraedd ddydd Gwener, roeddwn eisoes wedi cwrdd â rhai o'r trigolion lleol, protestwyr a chyngor Merthyr. Roeddwn hefyd wedi ymweld â’r safle yn Ffos-y-fran, gan gynnwys cael cyfarfod hirfaith gyda'r rhai sy’n ei redeg. Felly, roeddwn eisoes yn ymwybodol iawn o'r pryderon ynglŷn â’r gwaith yno, ac rwyf am beth amser wedi ceisio sicrhad ynglŷn â nifer o faterion amgylchedd ac iechyd. Fodd bynnag, nid oeddwn yn ymwybodol fod cynrychiolydd o’r Cenhedloedd Unedig yn ymweld â'r ardal, gan gyfarfod â thrigolion lleol, a’i fod yn bwriadu gwneud datganiad cyhoeddus.
Mae’n iawn wrth gwrs fod y rapporteur yn ymgymryd â pha astudiaethau bynnag y mae’n eu hystyried yn gymwys. Ond roeddwn yn synnu braidd ei fod, mae’n ymddangos, wedi gwneud datganiadau i'r cyfryngau heb gynnal trafodaethau manwl â'r cyrff hynny sydd yn cael eu beirniadu yn ei adroddiad. Ac ni cheisiodd gynnal trafodaethau â'r cynrychiolwyr etholedig lleol, naill ai yn y cyngor, gyda mi fel yr AC, neu gyda’m cydweithiwr Gerald Jones yr AS cyn iddo gyflwyno ei adroddiad, er mwyn sicrhau golwg ehangach ar y camau a gymerwyd.
Ar hyn o bryd, Ysgrifennydd y Cabinet, credaf ei bod, mae’n debyg, yn anodd i mi fod â barn ddeallus ar gasgliadau'r rapporteur. Ond byddwn wrth gwrs yn croesawu unrhyw alwad ddilys am ymchwiliad i unrhyw effaith bosibl ar iechyd oherwydd gwaith Ffos-y-fran os yw'r dystiolaeth yn awgrymu bod hynny yn angenrheidiol.
Serch hynny, mae un maes arbennig yn yr adroddiad lle’r wyf yn rhannu ei bryder yn gyfan gwbl, sef diogelu safonau iechyd y cyhoedd a gwarchod yr amgylchedd i’r dyfodol yn y DU ar ôl Brexit. Os ydych wedi gweld yr adroddiad, Ysgrifennydd y Cabinet, byddwch yn gwybod ei fod yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflawni ei rwymedigaethau i hawliau dynol o ran llygredd aer, amddiffyn hawliau plant, menywod beichiog, yr henoed a'r rhai gwael eu hiechyd, sydd yn arbennig o agored i niwed gan gemegau gwenwynig, wrth ddatblygu'r cynllun newydd i fynd i'r afael â'r argyfwng llygredd aer hwn.
Felly, a wnewch chi fy sicrhau i, Ysgrifennydd y Cabinet, y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r Cenhedloedd Unedig i ystyried unrhyw bryderon a ddaeth i’r amlwg yn yr adroddiad hwn mewn cysylltiad â Ffos-y-fran yn arbennig, ond hefyd, yn fwy cyffredinol, â’r rhai sy’n ymwneud â hawliau dynol o ran amddiffyn yr amgylchedd, yn awr ac wedi Brexit hefyd?