– Senedd Cymru ar 14 Mawrth 2017.
Rwy’n galw nawr ar Andrew R.T. Davies i ofyn y cwestiwn brys nesaf. Andrew R.T. Davies.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol hirdymor y cyswllt awyr rhwng y gogledd a'r de a gaiff gymorthdaliadau, yn sgil y newyddion bod Citywing wedi cael ei ddiddymu? EAQ(5)0142(EI)
Gwnaf. A gaf i ddiolch i'r Aelod a’i gyfeirio at y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ddoe. Mae adolygiad y gwasanaeth awyr oddi mewn i Gymru wedi ei gwblhau ac ar ôl i’r canfyddiadau gael eu dadansoddi byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach. Yn y cyfamser, rwy'n falch ein bod wedi cytuno ar gontract treigl gydag Eastern Airways i weithredu'r gwasanaeth.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch am eich datganiad a gyhoeddwyd ddoe a oedd yn egluro rhai o'r mesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith. Fel defnyddiwr y gwasanaeth hwn, gallaf mewn gwirionedd adael fy nrws ffrynt a bod yn y gogledd erbyn 8.40 a.m., a chyrraedd Ynys Môn. Rwy’n llwyr gefnogi'r gwasanaeth petai’n fasnachol hyfyw, ac mae'n ddigalon erbyn hyn mai hwn yw'r trydydd tro mewn 18 mis fy mae’r gweithredwr naill ai wedi mynd i’r wal neu wedi colli ei dystysgrif diogelwch . Mae cymhorthdal sylweddol o £1.2 miliwn gan y Llywodraeth yn cael ei roi i mewn i’r cyswllt awyr hwn . Credaf fod £0.5 miliwn hefyd yn cael ei wario ar y derfynfa a rhedeg y derfynfa i fyny yn y gogledd ar safle RAF y Fali.
Felly, yr hyn sy’n gwbl glir erbyn hyn, gyda'r adolygiad yr ydych wedi ei gomisiynu, yw bod angen ymgymryd â gwerthusiad llawn o'r dewisiadau sydd ar gael i wneud y llwybr hwn yn fwy hyfyw yn fasnachol neu, yn anffodus, terfynu’r llwybr hwn mewn gwirionedd, oherwydd, yn amlwg, nid yw'r trethdalwr yn cael gwerth am arian pan eich bod yn edrych ar y symiau dan sylw ac, yn anffodus, nifer y teithwyr sy'n ei ddefnyddio. Ac mae hynny’n ofid i mi, oherwydd, fel y dywedais, fel rhywun sy'n cefnogi'r gwasanaeth, hoffwn weld llwybr mwy hyfyw yn fasnachol yn cael ei ddatblygu yn yr achos hwn, ond ni allwn barhau fel yr ydym, bob rhyw chwe mis, gyda gweithredwr naill ai’n rhoi’r gorau i weithredu neu’n colli ei drwydded diogelwch. A allwch chi ddweud beth yw’r telerau masnachol presennol y bu’n rhaid i chi gymryd y gweithredwr newydd ymlaen arnynt, oherwydd yn eich datganiad yr ydych yn nodi bod yn rhaid mynd i gostau ychwanegol, ac rwyf yn credu ei fod ond yn iawn ac yn deg ein bod ni’n deall beth yw’r gost honno, oherwydd mae eich cyllideb yn gyfyngedig ac mae'n rhaid i’r arian hwnnw ddod o’r gyllideb honno? A allwch chi hefyd ddangos y llinell amser pryd y byddwch yn cyflwyno’r gwerthusiad yr ydych wedi ei wneud fel Ysgrifennydd y Cabinet o’r adroddiad yr ydych wedi ei gomisiynu? Rydych chi’n sôn am nifer o wythnosau. Mae’n debyg fy mod i wedi bod yma yn ddigon hir i wybod y gall nifer o wythnosau olygu llawer o bethau mewn ymateb—ac rwyf yn dweud hyn gyda’r parch mwyaf—gan Weinidogion y Llywodraeth, ac rwyf yn credu ei bod yn bwysig i ni gael eglurdeb ar hynny. Ac yn drydydd, a allwch chi gadarnhau bod y gwerthusiad hwn wedi edrych ar yr holl ddewisiadau? Nid oedd unrhyw ardaloedd i’w hosgoi, oherwydd gwn fod fy nghydweithiwr o Orllewin Clwyd wedi hyrwyddo'r gallu i sefydlu llwybr i’r gogledd-ddwyrain, yn hytrach na chanolbwyntio yn unig ar y gogledd-orllewin.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a'i ddiddordeb brwd yn y maes hwn? Rwy'n falch, yn gyntaf oll, bod y gwasanaeth awyr oddi mewn i Gymru wedi ei achub; hwn oedd yr unig un o wasanaethau awyr Van Air Europe i gael ei achub, ac yr oedd hynny o ganlyniad i waith diflino gan fy nhîm o fewn y Llywodraeth dros y penwythnos, ac yn enwedig ddydd Sadwrn. Cydymdeimlaf â’r nifer o deithwyr ar wasanaethau eraill Van Air sydd wedi cael eu gadael ar y clwt yng Ngogledd Iwerddon ac ar Ynys Manaw, ond mae gennym gytundeb treigl erbyn hyn gydag Eastern Airways i ddarparu'r gwasanaeth.
Nawr, rydym yn defnyddio, fel yr wyf wedi ei amlinellu eisoes, y gyllideb y byddem fel arfer yn ei defnyddio ar gyfer Van Air a Citywing. Fodd bynnag, fel y nodwyd gan yr Aelod, yr ydym yn gorfod cyfrannu swm bach, ond nid ansylweddol i gynnal y gwasanaeth yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r adnodd hwn ar gael o fewn y gyllideb bresennol ar gyfer y cyswllt awyr rhwng y gogledd a'r de. Fodd bynnag, y llynedd, fel yr amlinellodd yr Aelod, gofynnais am adolygiad trylwyr—trylwyr— o'r gwasanaeth awyr oddi mewn i Gymru, sydd wedi edrych ar ystod eang o ddewisiadau, o roi'r gorau i'r gwasanaeth yn gyfan gwbl i newid patrymau gwasanaeth, cynyddu darpariaeth, edrych ar y math o awyren sy'n cael ei defnyddio a hefyd asesu a oes dewisiadau eraill o ran cysylltedd ar gael yn y tymor byr a chanolig. Rydym hefyd wedi edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio meysydd awyr eraill, nid yn unig yn y gogledd-ddwyrain—ond rwyf yn derbyn yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud am Faes Awyr Penarlâg—ond meysydd awyr bach eraill yng Nghymru.
Mae'r adroddiad wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl oherwydd amrywiaeth o ffactorau, ond mae'n cael ei gwblhau y mis hwn, ac felly byddaf mewn sefyllfa i'w asesu dros gyfnod y Pasg, gyda golwg ar wneud cyhoeddiad ynghylch dyfodol y gwasanaeth yn ystod y tymor nesaf. Nid yn unig y mae'r gwasanaeth hwn yn bwysig i Ynys Môn; mae hefyd yn bwysig i Gaerdydd a’r de-ddwyrain, gan sicrhau ein bod yn genedl sydd wedi’i chysylltu’n well ac yn unedig. Ond bydd angen i mi ystyried argymhellion yr adolygiad ochr yn ochr â'r problemau gweithredwyr diweddar. Ac, fel y dywedais, rwyf yn bwriadu gwneud cyhoeddiad cyn gynted ag y bo modd ynghylch dyfodol hirdymor y gwasanaeth awyr hwn.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog a'r swyddogion am wneud yn siŵr bod y gwasanaeth wedi gallu parhau yn ddi-dor. Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn dweud ei fod yn byw o fewn tafliad carreg i’r maes awyr yng Nghaerdydd ac mae'n dweud ei fod yn defnyddio’r gwasanaeth o bryd i'w gilydd i fynd i Ynys Môn, ond, fel rhywun sydd wedi’i ynysu braidd o’r teithiau pum awr hynny o’r gogledd i'r de, nid yw'n syndod i mi ei fod yn gadarnhaol ynghylch y posibilrwydd o golli’r gwasanaeth awyr, oni bai ei fod yn fasnachol hyfyw.
Rydym yn gwybod bod pob trafnidiaeth, i raddau llai neu fwy, yn cael cymhorthdal gan arian cyhoeddus. Dyna realiti'r ffordd mae trafnidiaeth yn gweithio, a byddwn yn ddiolchgar am ychydig o sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet nawr ei fod yn cytuno â mi nad gwasanaeth dymunol yw hwn erbyn hyn, ond rhan hanfodol o’r cymysgedd trafnidiaeth, ei fod yn ddolen gyswllt busnes hanfodol i lawer o bobl mewn busnesau sy'n dymuno gwneud busnes rhwng y gogledd a’r de, a’i fod wedi dod yn hanfodol ar gyfer cynnal gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Nid modd i bobl o'r gogledd rhewllyd ddod i lawr i Gaerdydd yw hyn yn unig; mae’n fodd i Weinidogion y Llywodraeth wneud yn siŵr eu bod yn gallu cynnal cysylltiadau agos â’r gogledd. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe byddai'n cadarnhau bod hyn yn hanfodol, erbyn hyn, fel rhan o'n cymysgedd trafnidiaeth.
Byddwn yn ddiolchgar am sicrwydd na fyddai unrhyw newidiadau i wasanaethau—ac, wrth gwrs, mae’n rhaid i wasanaethau gael eu hadolygu—yn arwain at sefyllfa lle byddai awyren o'r gogledd yn dod i mewn i Gaerdydd yn hwyrach, neu’n gadael Caerdydd yn gynharach, oherwydd mae’n rhaid i hediad fod yn ymarferol ac mae angen iddo weithio mewn ffordd sy'n caniatáu i bobl gynnal eu busnes. Mewn gwirionedd, byddwn yn gofyn iddo hefyd gadarnhau a yw wedi ystyried ffyrdd y gallai'r awyren gyrraedd Caerdydd yn gynharach yn y bore a gadael yn hwyrach yn y dydd er mwyn ymestyn y diwrnod gwaith ar gyfer pobl sy'n cysylltu â'r brifddinas. Hefyd, ceir cais yn aml i ehangu’r gwasanaethau awyr, a byddwn yn ddiolchgar am sylwadau ar ba fath o ehangiad sydd ganddo mewn golwg, gan gynnwys, o bosibl, cysylltiadau â Llundain y gwn ein bod wedi cael cyfle, yn anffurfiol, i’w trafod ddoe.
Yn olaf, ar nodyn ymarferol i’r rhai sydd eisoes wedi prynu tocynnau gyda Citywing, bu problem pan aeth y cwmni diwethaf i’r wal ac roedd yn rhaid i bobl hawlio eu harian gan gwmni a oedd wedi cael ei ddiddymu. Rydym yn gwybod pa mor anodd oedd hynny ac y bydd yr un fath yn yr achos hwn. A allai'r Gweinidog ddweud wrthym pa ymdrechion y bydd y Llywodraeth yn eu gwneud i sicrhau bod y rhai sydd wedi talu am docynnau yn gallu cael y siawns gorau posibl o gael ad-daliad?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ac ateb y cwestiwn olaf yn gyntaf? Mae swyddogion eisoes yn siarad â Citywing ynghylch y potensial o adfachu cost y tocynnau. Rydym wedi bod yn glir iawn—ac yr oeddem dros y penwythnos—bod teithwyr yn gallu mynd i naill ai feysydd awyr Ynys Môn neu Gaerdydd a dal awyren Eastern Airways gyda'r archebion a wnaed trwy Citywing. Ond, o ran yr archebion a allai fod wedi eu colli, neu pan nad yw teithwyr yn fodlon teithio gydag Eastern Airways, mae cyfraith diogelu defnyddwyr yn berthnasol fel arfer, yn ogystal â'r dulliau diogelu trwyddedau trefnwyr teithio awyr sydd wedi hen ymsefydlu. Ond byddwn yn falch o roi sylw i unrhyw achosion y gallai fod gan yr Aelod o deithwyr sydd ar eu colled o ganlyniad i dranc Citywing.
Nid y sector cyhoeddus yn unig—er bod y sector cyhoeddus yn amlwg yn cael budd sylweddol o’r gwasanaeth hwn—sy’n dibynnu arno. Rydym yn credu bod tua hanner y teithiau ar y gwasanaeth awyr yn cael eu gwneud gan bobl sy'n cynrychioli buddiannau sector preifat. Felly, mewn gwirionedd mae’n wasanaeth pwysig iawn i’r sectorau preifat a chyhoeddus. Bydd yr adolygiad yn ystyried a yw ddim ond yn bwysig neu a ydyw, mewn gwirionedd, yn hanfodol. Ni fyddwn yn dymuno rhagfarnu canlyniad yr adolygiad hwnnw. Byddaf hefyd yn ystyried a yw Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi barnu bod y gwasanaeth awyr oddi mewn i Gymru yn elfen allweddol o unrhyw gytundeb cais twf, a byddaf hefyd yn gwrando ar farn awdurdodau lleol ar draws y gogledd.
Mae'n hanfodol bod gennym gysylltiadau trafnidiaeth da ac aml gyda gogledd y wlad, fel Aelod, fel Rhun ap Iorwerth, sy'n cynrychioli etholaeth yn y gogledd. Ond mae’n rhaid i unrhyw fath o drafnidiaeth gyhoeddus fod yn gynaliadwy, ac mae’n rhaid i ni sicrhau nad ydym yn dal i bwmpio cymhorthdal i mewn i wasanaeth sy'n gweld nifer y teithwyr yn gostwng. Mae’n rhaid cael dewisiadau eraill, boed hynny drwy gynyddu nifer y teithwyr, ac, yn hyn o beth, rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn ystyried y galw yn y dyfodol trwy Wylfa yn dod yn rhan o'r ffrwd a datblygiadau economaidd eraill ar Ynys Môn ac yn y gogledd. Mae'r holl ffactorau hyn yn cael eu hystyried yn yr adolygiad, ac rwyf yn edrych ymlaen at ei dderbyn yn y tymor byr iawn.
Weinidog y Cabinet, deallaf fod Loganair wedi gweithredu gwasanaeth llwyddiannus yn cysylltu ynysoedd Orkney â Kirkwall ar dir mawr yr Alban ers rhyw wyth mlynedd. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried edrych ar y model a ddefnyddir ar gyfer y gwasanaeth hwn, o ystyried cwymp y trydydd gweithredydd ar y llwybr gogledd i Gaerdydd? A hefyd a wnaiff ystyried defnyddio erodrom Penarlâg fel dewis arall i’r Fali, Ynys Môn? Ac rwyf hefyd yn deall bod modelau newydd o awyrennau erbyn hyn—gydag un injan—sy'n cario'r un nifer o deithwyr. Pan fydd yn edrych ar y rhai a fydd yn darparu'r gwasanaeth, a fydd e’n ystyried y math o awyren a ddefnyddir?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Un o'r heriau mawr sydd gennym o ran Ynys Môn yw'r math o awyren ac awyren sifil sy'n gallu hedfan i mewn ac allan o Ynys Môn heb yr angen am fuddsoddiad ychwanegol yn y seilwaith yno. Felly, byddai angen i ni edrych ar fuddsoddi mewn cyfleusterau a'r seilwaith pe byddem yn cynyddu maint yr awyrennau sy'n mynd i mewn i’r maes awyr ac allan ohono. Rwyf wedi credu erioed y gallai maes awyr Penarlâg hefyd gynnig manteision sylweddol i economi’r gogledd, ond ceir problemau eto gyda'r seilwaith yno, oherwydd bod y rhedfa gryn dipyn yn fyrrach na rhedfeydd meysydd awyr arferol. Felly, unwaith eto, byddai angen buddsoddi yno. Mae yna hefyd heriau i'w goresgyn o ran sicrhau’r adegau a fyddai'n bodloni Airbus, sy'n dibynnu ar y rhedfa benodol honno i ddod â chydrannau i mewn ac allan ar gyfer yr awyrennau a gynhyrchir yn Toulouse.
Mae'r Aelod yn codi pwynt diddorol o ran Loganair. Mae hwn yn wasanaeth yr ydym wedi edrych arno’n fanwl iawn. Rydym yn ceisio dysgu cymaint o wersi â phosibl o bob cwr o'r byd o ran sut y gall gwasanaethau awyr weithredu mewn ffordd gynaliadwy mewn gwlad fach. Unwaith eto, bydd yr wybodaeth honno ar gael i mi yn rhan o'r adolygiad sy'n cael ei gynnal.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.