– Senedd Cymru ar 14 Mawrth 2017.
Rwy’n galw nawr ar Lee Waters i ofyn yr ail gwestiwn brys—Lee Waters.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y methiant i benodi cynrychiolydd o Gymru ar fwrdd y BBC? EAQ(5)0095(EDU)
Mae'n rhaid i'r aelod dros Gymru o fwrdd y BBC fod yn gwbl alluog i hyrwyddo anghenion amrywiol pobl Cymru. Nid oedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn cytuno ac ni allem gefnogi ei hargymhelliad. Roedd ymgeiswyr da ar gael. Gwrthododd yr Ysgrifennydd Gwladol eu trafod gyda mi.
Diolch yn fawr, Weinidog. Mae'r BBC, wrth iddynt ddweud mai Dr Carol Bell oedd yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth y DU, wedi dyfynnu ffynhonnell o Lywodraeth y DU yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi gweld yn dda i atal ymgeisydd dewisedig yr ysgrifennydd gwladol.
A wnewch chi egluro i'r Cynulliad Cenedlaethol swyddogaeth Llywodraeth Cymru yn y broses o gael aelod dros Gymru o fwrdd y BBC? A oedd yn fater o roi sêl bendith yn unig, neu a oedd yn fwriad iddi fod â rôl ystyrlon? A oedd ganddi, mewn gwirionedd, rôl ystyrlon? A fyddai hefyd yn dweud wrthym ble y mae’n credu yr ydym ni arni nawr? Beth yw'r amserlen ar gyfer penodi aelod Cymreig o’r bwrdd? Mae gweddill y bwrdd yn ei le erbyn hyn ac yn dechrau ar ei waith.
Yn olaf, mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Cynulliad wedi argymell yn gryf y dylai unrhyw gynrychiolydd dros Gymru o fwrdd y BBC fod yn atebol i wrandawiad gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn ei gadarnhau. Ni ddigwyddodd hynny yn yr achos hwn. Fel y deallaf i, y rheswm am hynny oedd diffyg amser. Gan fod llai o frys erbyn hyn i benodi aelod o fwrdd y BBC dros Gymru, a fyddai'n cytuno â'r pwyllgor trawsbleidiol y dylai fod cyfle i drafod â’r sawl sydd wedi'i benodi, a’i holi, cyn i chi roi cydsyniad Llywodraeth Cymru i’r apwyntiad hwnnw?
Lywydd, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi ac â’r Aelodau led y Siambr gyfan fod dadlennu yn fwriadol enw unrhyw unigolyn sydd wedi gwneud cais am y swydd hon, fel a ddigwyddodd ddoe, yn destun gofid, ac mae'n gwbl groes i'r safonau yr ydym yn eu disgwyl gan y broses penodiadau cyhoeddus. Mae'n dresmasiad difrifol ar eu preifatrwydd personol.
Ar yr un pryd, mae'n amlwg o adroddiadau yn y cyfryngau fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’u ffynonellau wedi ceisio tanseilio’r Llywodraeth hon, a’m tanseilio i fel Gweinidog, a briffio yn erbyn penderfyniadau yr ydym wedi'u gwneud, a phopeth yn unfrydol. Gadewch i mi ddweud hyn: sut bynnag yr ydym yn ceisio cynnal perthynas ryng-lywodraethol o fewn y Deyrnas Unedig, dyma enghraifft berffaith o sut i beidio â gwneud hynny. Daeth Llywodraeth Cymru i gytundeb â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar sut i benodi’r unigolyn hwn i gynrychioli Cymru ar y bwrdd. Cynrychiolwyd Llywodraeth Cymru ar y panel recriwtio. Cynhaliwyd cyfweliadau ar gyfer y swydd yng Nghaerdydd ar 14 Chwefror. Roedd yn amlwg o'r cyfweliadau hynny fod yna nifer a ystyrid yn ymgeiswyr da iawn a nifer o ymgeiswyr y gellid eu penodi. Nid oedd cytundeb unfrydol ar bob un o'r rhain, a barnwyd bod rhai yn well nag eraill. Mynegwyd eu rhinweddau cymharol yn glir iawn yn adroddiad y panel, a gafodd ei weld gan yr Ysgrifennydd Gwladol a minnau. Roeddwn yn hyderus y gellid gwneud apwyntiad da. Siom i mi felly oedd cael llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 27 Chwefror, yn dweud ei bod o blaid argymell ymgeisydd nad oedd yn un o'r ymgeiswyr y cytunwyd yn unfrydol eu bod yn ymgeiswyr cryfach. Cefais fy synnu hefyd bod gennyf 24 awr i ymateb i'r llythyr hwn. Cefais fy synnu ymhellach i ddarganfod nad oedd yr Ysgrifennydd Gwladol hyd yn oed yn fodlon trafod yr ymgeiswyr eraill gyda mi. Roedd hi'n benderfynol ein bod naill ai yn derbyn ei dewis hi neu, yn ei geiriau hi, byddwn yn ei atal, gan orfodi ailddechrau’r ornest. Roedd hyn, Lywydd, er gwaethaf y ffaith fod ei Hysgrifennydd Parhaol ei hun yn derbyn drwy gyfrwng e-bost bod ymgeiswyr eraill cryfach, ac er gwaethaf y sicrwydd gennyf i y byddem yn hapus i gytuno ar ddewis o blith yr ymgeiswyr eraill cryfach.
Lywydd, ni fynegais i farn ar unrhyw adeg ynghylch pwy, yn fy marn i, fyddai'r ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd hon. Yr hyn yr wyf wedi ei ddweud yn eglur iawn yw bod Cymru yn haeddu’r gorau, a'r ymgeisydd y mae’r panel penodi yn ei gredu yw'r ymgeisydd gorau. Ac ni fydd unrhyw Ysgrifennydd Gwladol yn dweud wrthyf i nad oes gennyf unrhyw ddewis yn y mater hwn, ac ni fydd ffynonellau dienw o Lywodraeth y DU wedyn yn dweud wrthyf i fy mod yn ddigywilydd wrth ymarfer y gallu sydd ar gael i mi. Mae gen i hawl i ymarfer y gallu hwnnw sydd ar gael i mi, a phryd bynnag y bydd Llywodraeth y DU yn ymddwyn fel hyn, byddwn yn ymarfer yr hawl honno.
Lywydd, rwyf yn hynod siomedig â'r sefyllfa yr ydym ynddi. Rwyf yn hynod siomedig gyda gweithredoedd, agwedd a thôn yr Ysgrifennydd Gwladol, ac rwyf yn hynod siomedig nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn barod i weithredu er budd gorau Cymru yn y mater hwn.
Rwy'n hynod siomedig hefyd, Weinidog, oherwydd diwedd y gân yn y fan yma yw bod yna gadair wag ar y bwrdd hwnnw. Nid yw Cymru yno. Nid oes gan y bwrdd ei hun set gyflawn o sgiliau ac mae'n brin o ystod o sgiliau yr oedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn amlwg yn credu bod ei hymgeisydd dewisedig yn meddu arnyn nhw. Gwnaed y penderfyniad hwnnw yn sgil rhestr fer wedi gornest agored. Cawsant eu cyfweld gan banel a oedd yn cynnwys cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru. Byddai’r panel hwnnw wedi cytuno ar yr ymgeiswyr a oedd yn gymwys iawn ac wedi argymell yn unol â hynny. Fel y dywedais, roedd cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru ar y panel. Yn yr amgylchiadau hynny, yn fy marn i, Weinidog, mae’n rhaid i chi roi eich rhesymau, uwchlaw yr hyn yr ydych wedi ei ddweud wrthym yn barod heddiw, pam eich bod wedi anghytuno â chasgliad unigol yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae bwlch sgiliau yn awr ar y bwrdd hwnnw. Beth oedd o'i le gyda'r ymgeisydd unigol a ddewiswyd, a beth allai’r unigolyn hwnnw fod wedi ei gynnig?
Efallai nad ydych wedi mynegi eich dewis chi o ran pwy yr hoffech ei weld yn cael ei benodi. A wnewch chi ddweud wrth y Cynulliad hwn a oeddech yn ffafrio un ymgeisydd, ac a fyddai unrhyw ymgeisydd arall ar y rhestr fer wedi gallu cael perthynas agosach â'ch plaid na'r un a gafodd ei ddewis? Os na, ac os nad ydych yn barod i roi’r rhesymau hynny i ni heddiw, dof i’m casgliad fy hunan ar ffrindgarwch.
Ni fyddaf yn ymuno â'r Blaid Geidwadol y prynhawn yma i ladd ar unigolion sy'n ymgeisio am benodiadau cyhoeddus, ac ni fyddaf yn ymuno â'r Blaid Geidwadol i gyhuddo’r unigolion sy'n gwneud cais ac sydd â’r hawl i wneud hynny. Credaf fod gan bawb sy'n gwneud cais am benodiadau cyhoeddus yr hawl i ddisgwyl i'w cais aros yn gyfrinachol. Mae'n fater o gofnod fod ffynonellau o Lywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi’r enwau hyn ar gofnod ac rwyf yn gresynu bod hynny wedi digwydd. Ni fyddaf yn ymuno â chi i wneud hynny.
Ond gadewch i mi ddweud hyn wrth y Blaid Geidwadol: roedd aelodau’r panel a fu’n cyfweld yr ymgeiswyr ac a ddaeth i gytundeb yn eglur iawn, iawn o ran pwy, yn eu barn nhw, oedd yn ymgeiswyr cryf a phwy nad oeddent yn ymgeiswyr cryf. Ysgrifennodd fy nghynrychiolydd i ar y panel at Ysgrifennydd Parhaol yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon drannoeth ar 15 Chwefror. Dywedodd yn yr e-bost hwnnw: Mae hynny yn golygu—ac aralleirio wyf i—na ellir penodi'r ymgeisydd hwnnw. Gallaf ddarllen yr e-bost hwnnw y prynhawn yma. Anfonodd Ysgrifennydd Parhaol yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ateb at fy swyddog i yn cytuno nad yr ymgeisydd dan sylw oedd yr ymgeisydd gorau. Ni fyddai'n dderbyniol i mi yn y swydd hon, fel Gweinidog, dderbyn unrhyw ymgeisydd nad wyf yn ei ystyried fel yr ymgeisydd gorau, pwy bynnag y bo. Rwyf yn deall swyddogaethau a chyfrifoldebau'r fangre hon. Rwyf yn cydnabod bod yn rhaid inni gael y bobl orau ar fwrdd y BBC. Mae angen i fwrdd y BBC gael pobl sydd ag ystod eang o wahanol gyfrifoldebau, profiadau a sgiliau. Ond mae’n rhaid bod un ohonyn nhw, un ohonyn nhw, yn cael ei benodi i’r swydd o fod y cynrychiolydd gorau un y gall Cymru ei gael ar y bwrdd hwnnw, ac ni fyddaf yn cyfaddawdu ar hynny.
Rwyf yn credu, o glywed y cwestiynau hyd yn hyn, eu bod yn amlygu’r pwynt a wnaeth Lee Waters ynghylch pam mae angen i ni gael gwrandawiadau rhagarweiniol o fewn y strwythurau seneddol. Mae hynny yn un o amodau Senedd y DU pan maent yn cynnig enwau ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem ni allu ei wneud. Ond ni wnes i eich clywed chi yn ateb y cwestiwn, gan ein bod yn y sefyllfa newydd hon yn awr, a ydych chi’n credu bod hynny’n rhywbeth y dylem ni allu ei wneud fel pwyllgor cyfathrebu. Rydym wedi ysgrifennu fel pwyllgor at Senedd yr Alban i ofyn beth yw eu prosesau nhw ac a oedd ganddyn nhw wrandawiad cyn-seneddol. Hoffwn glywed eich barn chi yma heddiw, oherwydd beth bynnag yw’r enwau sy’n mynd o amgylch y lle, pwy bynnag yw’r personoliaethau dan sylw, credaf ei bod yn bwysig ein bod ni, yn ddeddfwrfa, yn cael y farn honno. O ystyried y ffaith y bydd trwydded newydd i Gymru dan y siarter newydd, rhoddir amodau newydd ar BBC Cymru ac mae hyn, yn sicr, yn gefndir newydd i’r drafodaeth honno y gallwn ei chael. Rwyf yn bryderus iawn o glywed nad oedden nhw wedi gwrando ar eich barn fel Gweinidog. Hoffwn gael fy modloni yma heddiw y byddwch yn gallu gweithio yn adeiladol gyda nhw mewn unrhyw broses yn y dyfodol ac na fyddwn yn wynebu'r mater hwn eto. Wrth gwrs, mae'n bwysig ein bod yn cael cynrychiolydd o Gymru yno. Ond mae angen cynrychiolydd sy'n deall Cymru ac sy’n gallu cyflwyno ein safbwyntiau ni mewn ffordd fwy cadarnhaol yn y dyfodol. Diolch.
Mae'n amlwg, Lywydd, fod llawer iawn o bryder led y Siambr. Byddaf, felly, yn rhoi fy llythyr terfynol i'r Ysgrifennydd Gwladol, dyddiedig 7 Mawrth, yn llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol fel bod pob Aelod yn gallu dod i gasgliad ar hynny ac ar y broses sydd wedi ei dilyn.
O ran y cwestiwn a ofynnwyd gan Bethan Jenkins a Lee Waters fel ei gilydd ar swyddogaeth y pwyllgor cyfathrebu, rwyf yn gweld swyddogaeth ystyrlon i’r pwyllgor hwnnw ac i’r ddeddfwrfa hon wrth ddwyn y BBC a darlledwyr eraill i gyfrif. Credaf fod angen adolygu'r broses hon yn ei chyfanrwydd, a chyn i ni symud ymlaen gydag ailgynnal y broses hon, mae angen cytundeb ymlaen llaw gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar strwythur a natur y broses honno. Roeddwn yn teimlo, a dweud y gwir, y byddai modd inni allu gweithio ar sail ymddiriedaeth a pharch rhwng gweinyddiaethau yn y wlad hon. Mae'n amlwg i mi na allwn weithio ar y sail honno a bod angen i ni adolygu'r broses.
Rwy'n teimlo'n siomedig iawn na chawsom y cyfle i gael y drafodaeth yr oedd angen inni ei chael. Gwrthododd yr Ysgrifennydd Gwladol drafod unrhyw ymgeisydd arall gyda mi, er gwaethaf fy ngheisiadau niferus am drafod unrhyw ymgeisydd arall. Yn groes i’r safbwyntiau y clywaf yn cael eu mynegi gyferbyn, ni wneuthum yn ystod y broses, ni wneuthum heddiw ac ni fyddaf yn mynegi fy newis o unrhyw ymgeisydd unigol. Ystyriaf yr ymgeisydd gorau ar gyfer y swyddi fel yr un y byddwn i’n dymuno ei weld yn cael ei benodi i gynrychioli Cymru, pwy bynnag y byddo ef neu hi. Ond rwyf yn sicr yn gweld swyddogaeth ystyrlon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol wrth ddal Llywodraethau a darlledwyr i gyfrif.
Diolch i’r Gweinidog.