Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 14 Mawrth 2017.
Roedd yr ymatebion gan randdeiliaid, gan gynnwys Shelter Cymru, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, yn dangos cefnogaeth glir i amcanion y Bil. Bydd y Bil yn amddiffyn y stoc tai cymdeithasol i'w rhentu gan bobl nad ydynt yn gallu prynu na rhentu tŷ trwy'r farchnad breifat. Mae hyn yn cynnwys llawer o bobl agored i niwed sydd yn elwa'n fawr o gartrefi saff, diogel a fforddiadwy a ddarperir gan ein tai cymdeithasol. I grynhoi, bydd y Bil yn diddymu'r hawl i brynu, yr hawl i brynu a gadwyd a'r hawl i gaffael ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol. Bydd yr hawliau yn dod i ben ar gyfer cartrefi newydd na chawsant eu gosod yn flaenorol yn y sector tai cymdeithasol ddeufis ar ôl i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol. Er mwyn sicrhau bod tenantiaid yn ymwybodol o effaith y Bil, ni fydd diddymu hawliau ar eiddo sydd eisoes yn bodoli yn digwydd am o leiaf un flwyddyn ar ôl i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol. Bydd pob tenant tai cymdeithasol yr effeithir arnynt yn cael gwybod yn ysgrifenedig o fewn dau fis o gael Cydsyniad Brenhinol, ac mae'r Bil yn ategu nodau ehangach Llywodraeth Cymru o greu Cymru fwy ffyniannus a thecach. Bydd yn helpu i fynd i'r afael â thlodi, a bydd yn helpu i warchod stoc o dai diogel, sicr a fforddiadwy i’w defnyddio gan bobl ar incwm isel neu sy'n agored i niwed.
Mae'r ddeddfwriaeth i ddiddymu'r hawl i brynu a'r hawl i gaffael yn cefnogi camau eraill a gymerir gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r cyflenwad tai—er enghraifft, gosod y targed uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu pobl ar incwm cymedrol i fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain hefyd, er enghraifft drwy'r cynllun Cymorth i Brynu—Cymru. Mae Cymorth i Brynu—Cymru wedi'i hen sefydlu bellach, a bydd ein buddsoddiad o £290 miliwn yn yr ail gam yn cefnogi’r gwaith o adeiladu dros 6,000 o gartrefi newydd erbyn 2021. Mae hyn wedi cael croeso mawr hefyd gan ddarpar berchnogion tai ac adeiladwyr tai fel ei gilydd.
Rydym yn cryfhau cynlluniau sy'n cefnogi perchentyaeth ar gost-isel, ond nid ar draul lleihau'r stoc tai cymdeithasol, ac nid trwy gynlluniau a all, yn y tymor hir, gostio mwy i denantiaid, a phob un ohonom, na'r rhent cymdeithasol amgen. Ceir tystiolaeth bod llawer o eiddo a werthir dan yr hawl i brynu yn y pen draw yn diweddu yn y sector preifat. Pan fydd hynny'n digwydd, gall hynny olygu costau uwch i denantiaid, a lle mae budd-dal tai yn cael ei hawlio, gall hynny gostio mwy i bwrs y wlad. Rwy’n cydnabod y bydd rhai pobl yn gwrthwynebu’r Bil, gan dynnu sylw at y cyfraniad y mae’r hawl i brynu wedi ei wneud wrth gynorthwyo tenantiaid i fod yn berchen ar dŷ. Ond mae angen i ni ystyried y manteision amlwg hynny yng nghyd-destun y system dai yn ei chyfanrwydd. Rwy’n awyddus i annog cymaint o bobl â phosibl i fod yn berchen ar eu cartrefi hefyd. Mae'r Bil hwn yn sicrhau ein bod yn diogelu'r buddsoddiad a wneir mewn tai cymdeithasol dros sawl cenhedlaeth fel y gellir ei ddefnyddio i gefnogi'r teuluoedd mwyaf agored i niwed yn awr ac yn y dyfodol.
Lywydd, bydd ein hymrwymiad maniffesto i roi terfyn ar yr hawl i brynu yn cyfrannu at greu Cymru decach drwy helpu’r rhai nad yw'r farchnad dai yn gweithio iddynt. Bydd y Bil yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau llawer o bobl. Edrychaf ymlaen at y ddadl ehangach ar y Bil hwn ac edrychaf ymlaen at gyfraniad Aelodau a'r llu o grwpiau rhanddeiliaid y gwn sy’n dymuno gweld y Bil hwn yn dod yn gyfraith.