– Senedd Cymru am 3:30 pm ar 14 Mawrth 2017.
Yr eitem nesaf ar ein agenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar y Mesur Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru). Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Carl Sargeant.
Diolch i chi, Lywydd. Roeddwn yn falch ddoe o gyflwyno Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru), ynghyd â'r memorandwm esboniadol, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae ein cyflenwad o dai cymdeithasol dan bwysau sylweddol. Rhwng 1 Ebrill 1981 a 31 Mawrth 2016, cafodd 139,100 o gartrefi awdurdodau lleol a chymdeithasau tai—mae hynny yn 45 y cant o stoc tai cymdeithasol 1981—eu gwerthu o dan yr hawl i brynu a’r hawl i gaffael. Mae'r gostyngiad yn y stoc yn ystod y cyfnod hwnnw yn gorfodi llawer o bobl sy'n agored i niwed i aros yn hwy am gartref heddiw, ac yn ôl Sefydliad Joseph Rowntree, datblygu a diogelu tai cymdeithasol yw un o'r ffyrdd gorau y gellir defnyddio polisi tai i fynd i'r afael â thlodi. O ystyried y pwysau ar dai cymdeithasol a'r angen i adeiladu mwy o gartrefi, mae'r amser wedi dod i roi terfyn ar yr hawl i brynu fel un o'r ffyrdd i fynd i'r afael â'r pwysau. Yn ogystal â diddymu'r hawl i brynu, bydd y Bil yn annog landlordiaid cymdeithasol i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd, gan wybod na fyddant mewn perygl o orfod cael eu gwerthu ar ôl dim ond ychydig flynyddoedd. Mae'r Bil wedi cael ei ddatblygu yn dilyn ymgynghoriad ar Bapur Gwyn yn 2015. Mae ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys pobl ifanc, hefyd wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithdai. Hoffwn gofnodi heddiw fy niolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ddatblygiad y broses honno.
Roedd yr ymatebion gan randdeiliaid, gan gynnwys Shelter Cymru, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, yn dangos cefnogaeth glir i amcanion y Bil. Bydd y Bil yn amddiffyn y stoc tai cymdeithasol i'w rhentu gan bobl nad ydynt yn gallu prynu na rhentu tŷ trwy'r farchnad breifat. Mae hyn yn cynnwys llawer o bobl agored i niwed sydd yn elwa'n fawr o gartrefi saff, diogel a fforddiadwy a ddarperir gan ein tai cymdeithasol. I grynhoi, bydd y Bil yn diddymu'r hawl i brynu, yr hawl i brynu a gadwyd a'r hawl i gaffael ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol. Bydd yr hawliau yn dod i ben ar gyfer cartrefi newydd na chawsant eu gosod yn flaenorol yn y sector tai cymdeithasol ddeufis ar ôl i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol. Er mwyn sicrhau bod tenantiaid yn ymwybodol o effaith y Bil, ni fydd diddymu hawliau ar eiddo sydd eisoes yn bodoli yn digwydd am o leiaf un flwyddyn ar ôl i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol. Bydd pob tenant tai cymdeithasol yr effeithir arnynt yn cael gwybod yn ysgrifenedig o fewn dau fis o gael Cydsyniad Brenhinol, ac mae'r Bil yn ategu nodau ehangach Llywodraeth Cymru o greu Cymru fwy ffyniannus a thecach. Bydd yn helpu i fynd i'r afael â thlodi, a bydd yn helpu i warchod stoc o dai diogel, sicr a fforddiadwy i’w defnyddio gan bobl ar incwm isel neu sy'n agored i niwed.
Mae'r ddeddfwriaeth i ddiddymu'r hawl i brynu a'r hawl i gaffael yn cefnogi camau eraill a gymerir gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r cyflenwad tai—er enghraifft, gosod y targed uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu pobl ar incwm cymedrol i fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain hefyd, er enghraifft drwy'r cynllun Cymorth i Brynu—Cymru. Mae Cymorth i Brynu—Cymru wedi'i hen sefydlu bellach, a bydd ein buddsoddiad o £290 miliwn yn yr ail gam yn cefnogi’r gwaith o adeiladu dros 6,000 o gartrefi newydd erbyn 2021. Mae hyn wedi cael croeso mawr hefyd gan ddarpar berchnogion tai ac adeiladwyr tai fel ei gilydd.
Rydym yn cryfhau cynlluniau sy'n cefnogi perchentyaeth ar gost-isel, ond nid ar draul lleihau'r stoc tai cymdeithasol, ac nid trwy gynlluniau a all, yn y tymor hir, gostio mwy i denantiaid, a phob un ohonom, na'r rhent cymdeithasol amgen. Ceir tystiolaeth bod llawer o eiddo a werthir dan yr hawl i brynu yn y pen draw yn diweddu yn y sector preifat. Pan fydd hynny'n digwydd, gall hynny olygu costau uwch i denantiaid, a lle mae budd-dal tai yn cael ei hawlio, gall hynny gostio mwy i bwrs y wlad. Rwy’n cydnabod y bydd rhai pobl yn gwrthwynebu’r Bil, gan dynnu sylw at y cyfraniad y mae’r hawl i brynu wedi ei wneud wrth gynorthwyo tenantiaid i fod yn berchen ar dŷ. Ond mae angen i ni ystyried y manteision amlwg hynny yng nghyd-destun y system dai yn ei chyfanrwydd. Rwy’n awyddus i annog cymaint o bobl â phosibl i fod yn berchen ar eu cartrefi hefyd. Mae'r Bil hwn yn sicrhau ein bod yn diogelu'r buddsoddiad a wneir mewn tai cymdeithasol dros sawl cenhedlaeth fel y gellir ei ddefnyddio i gefnogi'r teuluoedd mwyaf agored i niwed yn awr ac yn y dyfodol.
Lywydd, bydd ein hymrwymiad maniffesto i roi terfyn ar yr hawl i brynu yn cyfrannu at greu Cymru decach drwy helpu’r rhai nad yw'r farchnad dai yn gweithio iddynt. Bydd y Bil yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau llawer o bobl. Edrychaf ymlaen at y ddadl ehangach ar y Bil hwn ac edrychaf ymlaen at gyfraniad Aelodau a'r llu o grwpiau rhanddeiliaid y gwn sy’n dymuno gweld y Bil hwn yn dod yn gyfraith.
Mae'n rhaid i mi ddechrau drwy ddweud yn eithaf uniongyrchol bod hwn yn ddiwrnod trist iawn i Gymru. Wedi'r cyfan, mae bron 140,000 o deuluoedd wedi elwa ar yr hawl i brynu ers 1980 ac mae perchentyaeth yn dal i fod yn ddyhead i ddegau o filoedd ar draws Cymru. Yn awr, bydd llwybr pwysig iddynt yn cael ei gau. Os bu polisi cyhoeddus erioed a gafodd fonllefau o gymeradwyaeth cyhoeddus flwyddyn ar ôl blwyddyn, hwn ydyw: 140,000 o deuluoedd.
Mae hwn yn ddatganiad—
Nid oes unrhyw ymyriadau ar ddatganiad, mae'n ddrwg gennyf.
Yn wir, rwy’n meddwl y gall rhywun yn rhesymol honni mai’r hawl i brynu fu’r polisi tai mwyaf poblogaidd yn hanes Prydain a bu’n arbennig o boblogaidd, gyda llaw, ym mherfeddwlad draddodiadol Llafur. Byddaf yn gadael y cyfyng-gyngor hwnnw i chi a'ch cydweithwyr.
Rydych hefyd wedi dewis y targed anghywir. Mae angen i ni adeiladu mwy o gartrefi—llawer mwy o gartrefi. Dyna beth ddylai fod yn llenwi ein hamser ar hyn o bryd. Mae angen adeiladu oddeutu 12,000 i 15,000 o dai yn flynyddol yn y genhedlaeth nesaf, dim ond er mwyn adennill tir. Ar hyn o bryd rydym yn cael trafferth i adeiladu targed Llywodraeth Cymru o 8,700 o gartrefi newydd y flwyddyn. Y tro diwethaf i ni gyflawni’r targed annigonol hwnnw oedd 2007-08. Yn ei ddatganiad dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod Llywodraeth Cymru yn anelu at ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod y tymor hwn. Ond nid yw hynny ond 2,500 yn fwy na'r cynlluniau blaenorol. Nawr dyma wirionedd y mater: roedd tua 250 o gartrefi yn amodol ar yr hawl i brynu yn flynyddol yn y pum mlynedd diwethaf. Mae hyn wedi gostwng yn sylweddol wrth i’r manteision a oedd yn cael eu cynnig leihau. Ond mae'n dal i fod yn bolisi pwysig ac yn un yr wyf yn credu y dylai mwy o bobl gael mynediad ato—250 o gartrefi bob blwyddyn am y pum mlynedd diwethaf. Eto i gyd, rydym tua 6,000 o dai'r flwyddyn yn fyr o'n targedau—neu’r angen, beth bynnag. Dyna’r prinder o ran cyflenwad ar y funud ac rwy’n meddwl ei fod yn frawychus bod Llywodraeth yn dewis tynnu'n ôl yr hawl i brynu ac nad yn canolbwyntio ar adeiladu mwy o gartrefi.
A gaf i ddweud, petai'r Llywodraeth wedi canolbwyntio ar ddiwygio'r hawl i brynu, byddech wedi cael ein cefnogaeth ni? Oherwydd nid yw’r un polisi yn sefydlog ac yn derfynol. Mae angen addasu hyd yn oed ar y polisïau mwyaf llwyddiannus a byddem wedi edrych ar ffyrdd o wneud yr hawl i brynu hyd yn oed yn well ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Rwy'n credu y byddai pob un ohonom wedi cytuno, er enghraifft, y dylid fod wedi ailfuddsoddi’r holl dderbyniadau o’r hawl i brynu mewn tai cymdeithasol. Mae hynny'n rhywbeth a ddylai fod wedi cael ei wneud o'r cychwyn, a dweud y gwir, ac efallai y byddai wedi osgoi rhai o'r dadleuon.
Ac yn awr fy nghwestiynau i. Yn anffodus, Ddirprwy Lywydd, bydd yn rhaid i ni wrthwynebu'r Bil hwn a’i wneud yn agored i graffu helaeth iawn. Fe’i cyflwynwyd er gwaethaf y ffaith mai dim ond tri awdurdod lleol, gyda dau arall yn yr arfaeth, sydd wedi manteisio ar yr hawl i atal yr hawl i brynu. Felly, mewn gwirionedd, nid yw 17 allan o'r 22 wedi gweithredu’r hawl i atal ac yn awr rydych yn eu gorfodi i wneud hynny. Hoffwn wybod, Ysgrifennydd y Cabinet, a yw adrannau 6 a 7 sydd wedi eu cynnwys yn y Bil yn ymwneud â chychwyn neu weithredu’r Bil. Mae hyn yn golygu, fel yr ydych wedi dweud, y bydd blwyddyn o rybudd yn cael ei roi ar y stoc tai cymdeithasol presennol a fyddai'n caniatáu i denantiaid sydd ar hyn o bryd yn byw mewn tai cymdeithasol ystyried a ddylent arfer eu hawl i brynu. Ond hoffwn i wybod a fydd y cyfnod rhybudd hwn hefyd yn berthnasol i’r awdurdodau lleol sydd eisoes wedi atal yr hawl i brynu, neu a fydd hyn ddim yn gynhwysfawr.
A gaf i orffen drwy ganmol y Llywodraeth ar un peth, sef ansawdd y memorandwm esboniadol? Bydd hyn yn ein helpu i graffu ar y Bil yn effeithiol, ac rwy’n credu, Ddirprwy Lywydd, ei bod yn gymorth mawr i’r ddeddfwrfa pan fydd y Weithrediaeth yn arfer y math hwn o onestrwydd. Felly, ar hynny, rwy’n eich canmol.
Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Nid oeddwn yn disgwyl unrhyw beth yn llai, ond roeddwn yn gobeithio y byddai'r cynnwys yng nghyfraniad David Melding wedi canmol ychydig mwy o fanylion o ran y ffaith fy mod yn deall bod gwahaniaethau gwleidyddol rhwng polisi'r Ceidwadwyr a pholisi Llafur yn hynny o beth—ac nid oeddwn yn disgwyl unrhyw gymorth yn y maes hwnnw. Ond awgrymodd yr Aelod ein bod yn canolbwyntio ar y maes anghywir. Nid yw cael gwared ar yr hawl i brynu ond yn rhan o gyfres o ddulliau i wella'r farchnad dai. Rydym yn buddsoddi'n drwm yn ein stoc dai. Dros dymor olaf y Llywodraeth, rhagorwyd ar ein targedau o adeiladu tai cymdeithasol gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig lleol, ac rwy'n cael fy nghalonogi ein bod eisoes yn gweld awdurdodau lleol yn dechrau adeiladu tai cyngor newydd yn yr etholaethau. Yn wir, mae hyn eisoes ar waith yn fy etholaeth i yn Sir y Fflint, ac yn etholaeth Hannah Blythyn, gyda phobl yn byw yn y cartrefi hynny. Mae angen i ni sicrhau'r rheini ar gyfer y dyfodol.
Rydym wedi colli 45 y cant o stoc tai cymdeithasol ers 1981. Mae hyn yn sylweddol, ac rwy'n falch bod yr Aelod wedi cydnabod bod rhan o'r broblem hon yn ymwneud â rheolau’r Trysorlys o ran y diffyg gallu i ail-fuddsoddi yn ôl mewn tai cymdeithasol. Mewn gwirionedd, aeth ein harian oddi yma yn ôl i Lundain, felly rydym wedi colli ar y ddwy lefel; collwyd tai cymdeithasol ond hefyd collwyd y cyllid i ail-fuddsoddi—ergyd ddwbl i Gymru. Felly, dyna pam yr ydym yn cyflwyno’r cynllun hwn yn rhan o becyn; cyfres o bethau.
Gofynnodd yr Aelod gwestiwn penodol iawn ar y mater o awdurdodau sydd eisoes yn y cyfnod atal ac a fydd y 12 mis yn caniatáu sail iddynt ar gyfer ymgeisio yn ystod hynny. Ni fydd hynny'n wir. Bydd y cyfnod atal sy'n dechrau yn awr yn parhau yn ystod y cyflwyniad hefyd, felly ni fydd y cynllun yn gymwys ar gyfer y cyfnod atal o bum mlynedd sy'n berthnasol i’r awdurdodau hynny. Mae mwy na thri awdurdod; hoffwn hefyd gywiro’r Aelod. Roedd Caerfyrddin ym mis Ionawr 2015, Abertawe ym mis Ebrill 2015, Ynys Môn ym mis Medi 2016 a Sir y Fflint ym mis Chwefror 2017. Mae Sir Ddinbych eisoes yn cael ei hystyried hefyd, ac mae dau awdurdod arall yn ceisio am gais posibl. Rydym wedi cael rhai trafodaethau gyda nhw hefyd. Felly, mae nifer sylweddol eisoes wedi ceisio atal hyn ar sail dros dro.
Hoffwn i ddweud ein bod yn cefnogi'r Bil hwn a bwriad y polisi y tu ôl iddo. Mae wedi bod yn safbwynt hirsefydlog gan Blaid Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at y broses graffu. Byddaf yn dweud mewn ymateb i'r Ceidwadwyr nad oes llawer o bobl yn gallu fforddio prynu eu cartrefi eu hunain, ac mae bob amser angen tai cymdeithasol at y diben hwnnw. Ni fyddwn yn dymuno troi pobl dosbarth gweithiol yn erbyn pobl eraill yn eu cymunedau eu hunain, gan fy mod yn credu bod hynny'n anghyfrifol. Nodau'r polisi hwn yw'r nodau iawn ac rwy’n credu ei fod yn un y dylem geisio ei gefnogi, er fy mod yn deall y bydd rhesymau ideolegol pam na fydd pobl yn yr ystafell hon yn gwneud hynny.
Un o'r cwestiynau yr oeddwn i eisiau ei ofyn oedd hyn: a ydych yn bwriadu creu cymunedau mwy cymysg lle mae tai yn gymysgedd o rai cymdeithasol a phreifat mewn cysylltiad â’r darn penodol hwn o ddeddfwriaeth? Yn y gorffennol, gwn mewn rhai cymunedau efallai fod pobl yn fwy tueddol o brynu tŷ mewn ardal benodol o ystâd cyngor ond nid mewn ardal arall o'r ystâd honno, ac yna mae hynny wedi dwysáu’r problemau sy'n ymwneud â thai cymdeithasol a’r hawl i brynu. Felly, roeddwn yn dymuno gofyn am hynny.
Yn amlwg, drwy rybuddio pobl fod yr hawl i brynu yn mynd i gael ei ddiddymu, bydd rhai tenantiaid presennol yn ystyried prynu a byddant yn dechrau chwilio am ffyrdd o ariannu hyn, a all roi pobl mewn sefyllfa fregus. Cafwyd nifer o enghreifftiau dros y blynyddoedd o gwmnïau sy'n darparu cyllid i helpu pobl i fanteisio ar yr hawl i brynu, ac yna’n troi tenantiaid allan pan nad yw’r cyllid yn cael ei ad-dalu, gan wybod bod ganddynt ecwiti mewn ased a gafodd ei gaffael ymhell islaw’r gwerth ar y farchnad, a byddai wedi codi yn ôl pob tebyg wedyn o ganlyniad. Felly, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i leihau'r risgiau hyn wrth i ni nesáu at ddiwedd yr hawl i brynu?
Mae eich datganiad hefyd yn sôn am y cynllun Cymorth i Brynu—Cymru i helpu pobl i gamu ar yr ysgol, ond nid yw’r cynllun hwn ond yn berthnasol i adeiladau newydd. Felly, y llynedd, fe wnaeth y grŵp seneddol hollbleidiol ar gyfer rhagoriaeth yn yr amgylchedd adeiledig adrodd ar ansawdd tai a adeiladwyd o’r newydd ledled y DU. Roeddent yn gweld bod 93 y cant o’r prynwyr yn cwyno am broblemau wrth eu hadeiladwyr, ac o'r rhain, roedd 35 y cant yn cwyno am 11 neu fwy o broblemau. Felly, erbyn hyn, mae cwestiynau’n codi ynghylch a yw’r Cyngor Adeiladu Tai Cenedlaethol yn gallu datrys y cwynion hyn yn briodol a sicrhau bod adeiladau newydd yn addas i'r diben. Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu edrych yn fanwl ar yr adroddiad hwn a chymryd camau yn erbyn adeiladau newydd o ansawdd gwael? Ac o ystyried y problemau hyn, a yw’n briodol mewn gwirionedd i gyfyngu Cymorth i Brynu i adeiladau newydd yn unig?
Fy nghwestiwn olaf, ar hyn o bryd—wrth gwrs, byddwn yn craffu ar y Bil hwn yn y pwyllgor cymunedau yr wyf yn eistedd arno—yw hyn: a ydych yn fodlon bod blwyddyn yn ddigon o amser i roi cyfle i bobl sydd yn y broses, yng nghanol proses, hawl i brynu? Gwn fod yr Alban wedi penderfynu ar gyfnod o ddwy flynedd pan oeddent yn dal i fod yn caniatáu i bobl gyflwyno achosion i brynu eu cartrefi. Felly, rwy’n awyddus i fod yn sicr eich bod yn rhoi'r wybodaeth gywir ac amserol i denantiaid, a'u bod yn deall eu hawliau. Mae hyn yn hanfodol, oherwydd ei fod yn newid, yn y bôn, a gallwn annog pobl i ddeall, efallai, drwy ymgyrch gyhoeddus, pam eich bod yn cymryd y penderfyniad hwn i wneud hyn fel rhan o fenter Llywodraeth.
Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad ac rwy’n croesawu ymrwymiad ei phlaid i gefnogi proses y Bil, wrth symud ymlaen. Mae’r Aelod yn iawn am y gymysgedd o gymunedau, ond mae'n rhaid i ni gofio bod 45 y cant o'r stoc hon eisoes wedi ei werthu ac erbyn hyn wedi mynd i mewn i'r sector preifat. Mae'n wahanol iawn, felly, i sut y dechreuodd yn wreiddiol yn y lle cyntaf. Felly, mae'n rhaid i ni gynllunio'n well sut rydym yn creu cymunedau, ac mae hynny'n rhan o'r canllawiau cynllunio sy'n cael eu cyhoeddi. Mae creu tai cymdeithasol newydd, sy'n cael eu datblygu gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac awdurdodau lleol, unwaith eto, yn ymwneud â’r ffordd y mae'n diwallu angen lleol, ac mae’n bwysig bod cymunedau lleol yn ymgysylltu â hynny.
O ran y rhaglen Cymorth i Brynu—Cymru, mae gen i ddiddordeb yn sylwadau'r Aelod o ran ansawdd rhai o'r adeiladau. Byddaf yn edrych ar yr adroddiad hwnnw yn ofalus. Ni fyddwn yn dymuno ariannu unrhyw sefydliad sy'n darparu tai o ansawdd gwael. Yn ddiweddar, buddsoddwyd hyd at £20 miliwn mewn cronfa arloesi ar gyfer syniadau a chysyniadau newydd ar gyfer tai, ac rydym yn cael ymatebion gwych. Gobeithio—ochr yn ochr â'r Bil hwn, dywedais fod cyfres o ddulliau a fydd yn ein helpu i ddatblygu cyfleoedd newydd, a bydd y rhaglen arloesi, ochr yn ochr â’r grant tai cymdeithasol hefyd yn ychwanegu at y cyfleoedd a fydd yn cael eu rhoi yn yr is-adran dai.
Y cyfnod o flwyddyn o seibiant ar ôl cyflwyno—rwy’n hyderus o allu tenantiaid i weithredu, os ydynt yn dymuno gwneud hynny, o ran prynu, ond byddwn hefyd yn ymwybodol o hyn o ran ein hymgysylltiad â thenantiaid. Felly, byddwn yn ysgrifennu at yr holl denantiaid o fewn y cyfnod o ddau fis ar ôl i’r Bil dderbyn Cydsyniad Brenhinol. Ond rwy'n credu ei fod hefyd yn rhywbeth y byddech yn dymuno craffu arno, y manylion ar ôl y digwyddiad hwnnw, a sicrhau ein bod yn rhoi hyder i'r tenantiaid, os ydynt yn ceisio prynu rhywbeth sylweddol fel yna, nad ydynt yn mynd i afael benthycwyr diegwyddor, ac fel arall sicrhau bod y cyllid ar gael. Mae'n rhywbeth yr ydym yn credu y bydd y cyfnod o 12 mis yn ddigonol ar ei gyfer.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn gwybod bod cartrefi saff, diogel a fforddiadwy yn rhan hanfodol o wead sicrhau bywydau a chymunedau cryf a chydlynol, ac mae diogelu a sicrhau safonau gweddus o stoc tai Cymru yn elfen graidd wrth gyflawni hyn. Fel yr ydych yn ymwybodol, ym mis Chwefror eleni, roedd fy nghyngor fy hun, Sir y Fflint, yn llwyddiannus yn ei gais i atal yr hawl i brynu o ran yr holl anheddau cyngor. Rhwng 1996 a 2016, cafodd cyfanswm o 1,606 o dai eu gwerthu yn erbyn cefndir o alw gormodol a rhestrau tai sy’n tyfu fwyfwy.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y crybwyllwyd gennych mewn ateb blaenorol, mae'r cyngor wedi arwain y ffordd wrth ddechrau adeiladu’r llwyth cyntaf o dai cyngor newydd mewn cenhedlaeth drwy'r rhaglen tai ac adfywio strategol. Rwy'n siŵr nad oes raid i mi ofyn a fyddwch yn ymuno â mi ac yn croesawu’r cynsail a osodwyd gan Gyngor Sir y Fflint a’i agwedd arloesol sy’n torri cwys newydd. Ond mae gen i gwestiwn ychwanegol: yn eich datganiad, rydych yn dweud yr ysgrifennir yn ffurfiol at bob tenant yr effeithir arnynt ar draws Cymru ynghylch newidiadau dan y ddeddfwriaeth. A gaf i ofyn pa arweiniad neu adnoddau sy’n cael eu darparu i sicrhau bod hyn yn digwydd? A hefyd, a ellir rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i’r wybodaeth am y cynlluniau sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru megis Cymorth i Brynu a rhentu i brynu, a sut i fod yn gymwys amdanynt?
Mae'r Aelod yn codi rhai pwyntiau teg o ran yr wybodaeth ar gyfer tenantiaid yn y dyfodol a safbwynt Llywodraeth Cymru o ran cymorth yn y dyfodol. Mae gennym wefan eisoes sydd â dolenni i wahanol gymorth ariannol neu wybodaeth i denantiaid newydd. Mae hynny ar gael gan y Llywodraeth. Wrth gwrs, rwy’n llongyfarch fy awdurdod lleol i—ein hawdurdod lleol ni—byddai’n annoeth peidio â gwneud hynny. Mae’r Cynghorydd Bernie Attridge, yr aelod arweiniol ar dai cymdeithasol, yn hyrwyddwr gwych o dai cymdeithasol, ac ynghyd ag awdurdodau eraill, rhaid i mi ddweud, maent yn dechrau troi'r llanw o ran buddsoddi’n ofalus mewn stoc tai newydd i bobl leol, sydd yn bwysig iawn.
Dylwn i atgoffa Aelodau o ffaith foel iawn yn Lloegr. Roedd addewid yno, am bob tŷ a fyddai’n cael ei werthu byddent yn ail-fuddsoddi ac adeiladu cartref arall yn sgil hynny. Ond, mewn gwirionedd, mae'r ystadegau yn awgrymu, am bob saith sy'n cael ei golli i'r farchnad, dim ond un sydd wedyn yn cael ei ail-adeiladu, sydd yn anffodus. Felly, nid ydym byth yn mynd i gael digon o stoc tai cymdeithasol oni bai ein bod yn gwneud buddsoddiadau ac yn eu diogelu ar gyfer y dyfodol, sef yr hyn yr ydym yn mynd i'w wneud yma yng Nghymru.
Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Yn UKIP, rydym yn cefnogi'r hawl i brynu yn fras, ond rydym hefyd yn cydnabod bod y polisi hwn wedi arwain at anawsterau ymarferol. Mae'n ddiddorol bod yr hawl i brynu wedi dod yn faes y gad ideolegol rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr, oherwydd Llafur mewn gwirionedd a gynigiodd y math hwn o gynllun gyntaf yn eu maniffesto ar gyfer etholiad cyffredinol 1959 dan Hugh Gaitskell. Fodd bynnag, collodd Llafur yr etholiad hwnnw ac, yn y pen draw, y Ceidwadwyr, 20 mlynedd yn ddiweddarach, ddechreuodd ddeddfu ar werthu tai cyngor, ac fe brofodd i fod yn bolisi poblogaidd, fel y mynegodd David Melding yn gynharach heddiw.
Fodd bynnag, weithiau mae'n cymryd rhai blynyddoedd cyn y gallwn weld a yw polisi wedi gweithio mewn gwirionedd ai peidio. Felly, a yw’r hawl i brynu wedi helpu i hwyluso mwy o berchnogaeth cartrefi yn y DU? Wel, i raddau, ydy yn sicr. Ym 1980, pan gyflwynwyd y Ddeddf, roedd 55 y cant o ddeiliaid tai Prydain yn berchen ar, neu wedi morgeisio, eu cartref eu hunain. Ar ôl y Ddeddf, cododd hyn fesul tipyn, gan gyrraedd uchafbwynt o 71 y cant yn 2003. Yn anffodus, ers hynny mae'r ffigur wedi gostwng i'w lefel bresennol o lai na 64 y cant, sy'n golygu, am y tro cyntaf, fod gennym gyfraddau perchentyaeth is na Ffrainc. Felly, mae'n neges gymysg braidd a gallaf weld eich pryderon am yr hawl i brynu.
Mae'r ffigurau hyn yn dod yn fwy pryderus pan maent yn ymwneud â phobl ifanc. Ym 1990, roedd 45 y cant o rai 25 mlwydd oed ar yr ysgol eiddo. Yn 2000, roedd y ffigur hwnnw wedi gostwng i 34 y cant, ac yn 2010, roedd yn 21 y cant. Felly, mae'n sicr yn ymddangos heddiw bod yr ifanc yn cael eu prisio allan o'r farchnad eiddo. Yn wir, ymddengys mai ochr arall i Ddeddf Tai 1980 yw bod y cyfyngiadau difrifol ar allu cynghorau i adeiladu tai cyngor newydd wedi arwain at brinder tai. Cafodd refeniw o werthiannau tai cyngor ei gyfeirio gan Lywodraeth ganolog y DU i fynd at leihau dyled y cynghorau. Felly, rydym wedi cael cyfnod lle mae’r cynghorau wedi cael eu cyfyngu yn ddifrifol yn eu gallu i adeiladu tai cyngor. Rydym bellach yn cychwyn ar gyfnod yng Nghymru pan, fel y gwnaethoch chi, Weinidog, esbonio yn gynharach, rydym yn awr yn gweld rhywfaint o dai cyngor yn cael eu hadeiladu eto, sydd yn ddatblygiad i'w groesawu. Ond yr ydych yn awr yn mynd i'r afael â'r broblem o leihad mewn stoc, ac ymddengys mai dyna pam yn bennaf eich bod eisiau rhoi terfyn ar yr hawl i brynu yng Nghymru. Rydym ni yn UKIP yn credu y dylid clustnodi’r cyllid o werthu tai cyngor, gyda chynghorau yn gorfod ail-fuddsoddi hwn naill ai mewn tai cyngor a gaiff eu hadeiladu o'r newydd neu adfywio'r stoc bresennol.
Mae angen i ni barhau i bwyso am fuddsoddi swyddi i ffwrdd o’r trefi a'r dinasoedd arfordirol mawr cyn belled ag y gallwn, oherwydd gallai hyn wedyn helpu i fynd i'r afael â phroblem diboblogi’r Cymoedd.
Nid wyf wedi clywed cwestiwn eto. A ydych yn dod at gwestiwn?
Wel, byddaf yn dechrau cyflwyno rhai cwestiynau. Diolch am fy atgoffa, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn yn meddwl tybed, Weinidog, beth oedd eich barn am hyn fel rhan o'ch dull cydgysylltiedig chi o weithio, yn ôl pob tebyg, ar fater tai. Efallai y gallwch roi sylwadau ar hyn pan wyf yn awgrymu mai’r hyn nad ydym ei eisiau mewn gwirionedd yw ystadau preifat newydd diddiwedd ar y llain las, gyda dim ond elfennau anfoddog a bach iawn o dai cymdeithasol, y mae eu preswylwyr yn achosi tagfeydd ar y ffyrdd pan fyddant yn teithio i mewn i'w swyddi yn y ddinas. A yw hwn yn syniad da ar gyfer y dyfodol? Efallai y gallwch chi daflu goleuni ar eich gweledigaeth ar hyn? Llawer gwell yn fy marn i—yn ein barn ni—yw ceisio cadw swyddi yn y Cymoedd cyn belled ag y bo modd, ac adfywio tai yn y Cymoedd eu hunain, a hefyd datblygu safleoedd tir llwyd a mewnlenwi yn y ddinas. Felly, roeddwn yn meddwl beth oedd eich barn ar y syniadau hynny.
Mae hefyd ffactorau allanol eraill— [Torri ar draws.]—efallai y byddwch yn gallu taflu rhywfaint o oleuni arnynt—ac rwy’n diolch i chi am eich diddordeb, Aelodau draw acw. Er enghraifft, rydym yn gadael yr UE—
A ydych yn dod i gasgliad, os gwelwch yn dda, gyda rhai cwestiynau?
Yr wyf yn wir. Yr wyf yn wir, Ddirprwy Lywydd.
Diolch.
Mae yna faterion eraill, megis gadael yr UE. Gwelaf fod yr UE yn gorfodi aelod-wladwriaethau i ganiatáu i fuddsoddwyr rhyngwladol brynu i mewn i’w marchnadoedd tai. Gall hyn yn awr newid. A yw hwn yn ddatblygiad i'w groesawu, felly, gan nodi fod dau god post Caerdydd yn y 10 uchaf ar gyfer eiddo sy'n eiddo i gwmnïau ar y môr? Felly, gellid mynd i'r afael â hynny drwy i ni adael yr UE. Felly, cyfres o gwestiynau, a chymerwyd sbel i gyrraedd atynt. Ond byddwn yn falch pe byddech yn eu hateb. Diolch.
Cyn imi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i atgoffa’r Aelodau, yr holl Aelodau yn y Siambr, fod hwn yn ddatganiad a dylai fod pedwar llefarydd, rhagarweiniad byr, ac yna un neu ddau o gwestiynau i bob llefarydd? Ac am y gweddill ohonoch chi, mae'n gwestiwn syml i’r Gweinidog, nid yw’n fater o gymryd faint bynnag o amser a gymerwch i wastraffu amser, rhaid i mi ddweud, er mwyn dod at gwestiynau. Maent yn gwestiynau, ac mae gen i nifer o siaradwyr. Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, unwaith eto. Roedd llawer o gwestiynau yno—bydd llawer o’r cwestiynau hynny yn cael eu datrys drwy graffu ar y Bil wrth iddo fynd drwy'r Cynulliad, a byddwn yn hapus i drafod gydag Aelodau a'r Aelod a ofynnodd y cwestiynau hynny yn gynharach. Gwrandewch, nid wyf yn dweud bod yr hawl i brynu yn syniad gwael a gyflwynwyd, ond yr oedd yn sylfaenol ddiffygiol. Roedd cyfle gan Mrs Thatcher i newid bywydau llawer o bobl ac roedd cael yr hawl i brynu yn un o'u cynigion nhw hefyd, ond y broblem oedd nad oeddem yn ail-fuddsoddi yn ôl i greu mwy o stoc dai. Roedd pwrs y wlad yn crebachu ac roedd mater y cyllid refeniw tai yn mynd yn ôl yn anghymesur i’r Trysorlys. Rydym wedi newid y rheolau yn awr o ran y Cyfrif Refeniw Tai, ac rydym wedi dod allan o’r rhaglen honno lle mae awdurdodau yn awr yn gallu cadw 100 y cant o'u derbyniadau cyfalaf, ond mae lefel stoc mor isel. A dyna pam mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr, lle’r ydym yn gwneud buddsoddiadau yn hyn ar gyfer y dyfodol, ein bod yn eu diogelu yn y tymor hir. Mae cynllunio ar gyfer y dyfodol yn ddarn o ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gennym yma yng Nghymru, a bydd y Ddeddf hon—gobeithio, os caiff ei phasio gan y Cynulliad—yn ein helpu ni i gwblhau’r rhaglen honno. Ond mae'r Aelod yn codi llawer o faterion, yn wir, gan gynnwys y materion sy'n ymwneud â Brexit, yr wyf yn siŵr fydd yn codi yn ystod y trafodaethau drwy graffu ar y Bil.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad yma heddiw. Mae hwn yn gyhoeddiad pwysig ac, ar ben hynny, yn un gafodd ei gymeradwyo gan bleidleiswyr yng Nghymru yn ystod etholiad y Cynulliad y llynedd. Fel yr ydych wedi nodi, ar gyfer pob 20 o dai cymdeithasol oedd yn bodoli ym 1981, mae naw bellach wedi'u gwerthu, ac er bod yr hawl i brynu wedi helpu llawer o deuluoedd i gamu ar yr ysgol dai, nid oedd y polisi wedi ei gyflwyno mewn ffordd gynaliadwy. Rydym yn wynebu canlyniadau cymdeithasol hyn heddiw, felly rwy’n croesawu eich camau gweithredu.
Fy nghwestiynau i: sylwaf o'ch datganiad y bydd yn dal yn rhoi'r dewis i landlordiaid cymdeithasol i werthu cartrefi i'w tenantiaid. Os bydd hyn yn digwydd, pa fesurau diogelu fydd ar waith i wneud yn siŵr na fydd unrhyw werthiant o'r fath yn effeithio ar y ddarpariaeth o’r stoc dai? Sut fydd Llywodraeth Cymru yn annog landlordiaid cymdeithasol i fuddsoddi unrhyw arian a wneir yn y modd hwn yn ôl i ddarparu mwy o dai i wneud iawn am y diffyg? Ac yn olaf, mae'n bwysig bod dinasyddion Cymru yn gwybod am y newidiadau hyn, a nodaf y ddyletswydd ar landlordiaid cymdeithasol i hysbysu eu tenantiaid. Ond sut fyddwch chi’n monitro hyn i wneud yn siŵr ei fod wedi digwydd mewn gwirionedd, a pha ganlyniadau a geir os nad yw landlordiaid cymdeithasol yn cyfleu’r wybodaeth hon yn gywir?
Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Mae hi'n gywir i godi'r mater: am bob 20, mae naw wedi cael eu gwerthu ers 1981. Hyd yn oed mwy o ystadegau i ychwanegu at hynny: rydyn ni wedi samplo tua wyth awdurdod yng Nghymru lle mae eisoes yn hysbys i ni y rhai sydd wedi cael eu gwerthu. Felly, o’r 48 y cant hwnnw o'r rhai sydd wedi cael eu gwerthu, mae 12 y cant ohonynt wedi mynd i mewn i'r farchnad rentu yn y sector preifat hefyd, felly nid ydynt hyd yn oed yn cael eu defnyddio fel hawl i brynu; maent yn cael eu defnyddio fel rhaglenni sy'n gwneud elw i fuddsoddwyr—eto, rhywbeth nad yw'n ddefnyddiol ar gyfer darparu tai fforddiadwy i unigolion.
O ran y pwynt olaf ynglŷn â rhannu gwybodaeth, byddwn yn rhoi ystyriaeth bellach i hynny, boed hynny yn wybodaeth sy'n cael ei hanfon allan gan Lywodraeth Cymru neu gan dai cymdeithasol. Ond mae'n rhywbeth y byddwn i'n awyddus iawn i’w sicrhau, lle mae gwerthiant gwirfoddol yn digwydd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig neu gyngor, bod yr arian hwnnw yn dod yn ôl, ac yn cael ei ail-fuddsoddi mewn polisi tai eto, a byddai honno’n egwyddor bwysig y byddaf yn gobeithio ei gwireddu yn y pwyllgor.
Ysgrifennydd y Cabinet, cyn i chi lansio’r Bil hwn neu yn wir cyn ichi ei gynnwys yn eich maniffesto cyn etholiadau'r Cynulliad, tybed a wnaethoch ystyried adolygu'r meini prawf cymhwyso. A wnaethoch chi edrych o gwbl ar faint o bobl sydd wedi prynu eu cartrefi ac yna wedi aros ynddynt am flynyddoedd ac, yn wir, am ddegawdau, neu wedi eu trosglwyddo i lawr i'w teuluoedd? Oherwydd, wrth gwrs, pan fydd pobl yn siarad am hyn, rhagdybir, ar unwaith, y byddai'r 140,000 o gartrefi hyn ar gael i bobl yn awr, heddiw, i fyw ynddynt. Wrth gwrs, nid yw hyn yn wir, oherwydd i ble mae’r bobl hynny yn mynd i fynd? Gallai'r un peth fod yn wir am y 250 o bobl sy'n ceisio prynu eu cartrefi yn awr. Nid ydynt yn mynd i ddiflannu yn sydyn; maent yn dal yn mynd i aros yn y cartrefi hynny. Ni fydd yn cynyddu'r stoc dai.
Mae fy ail gwestiwn i chi yn ymwneud â'r cyfnod gras. Dywedasoch yn gynharach, ac rwyf eisiau eglurhad ar hyn, na fyddai'r cyfnod gras yn gymwys i'r bobl hynny a oedd yn awyddus i brynu, ond nad ydynt wedi prynu gan fod y cyngor wedi atal yr hawl i brynu. Felly, a allwch chi esbonio pam nad ydych yn mynd i roi'r cyfnod gras hwnnw iddyn nhw hefyd? Oherwydd mae gennyf nifer o etholwyr oedd eisiau prynu, sydd wedi methu â phrynu, a dywedwyd wrthynt, 'Peidiwch â phoeni, mesur dros dro yn unig yw hyn.' Yn awr, mae’r cyfle hwnnw i fod yn berchen ar gartref eu breuddwydion yn mynd i gael ei dynnu oddi arnynt am byth.
Rwy'n credu, yn olaf, roeddwn i eisiau gwybod—mae'n ddrwg gennyf, rwyf wedi anghofio’n llwyr beth oedd hynny. O, mae'n ddrwg gennyf. Yn olaf, roeddwn eisiau gwybod, yn eich meini prawf cymhwyso, a fyddech wedi ystyried mewn gwirionedd, wrth werthu unrhyw gartref, bod yr arian bellach yn cael ei glustnodi ar gyfer ailadeiladu tai cymdeithasol. Rwy’n llwyr dderbyn, dros y 35 mlynedd diwethaf, na wnaeth pobl adeiladu’r cartrefi yr oedd ganddynt y cyfle i wneud hynny, ond nid yw hynny'n golygu na allech fod wedi gwneud newid i hynny. Un cwestiwn cyflym olaf: a yw hyn yn golygu nad ydych yn ymddiried yn eich cynghorau sir i atal lle maent ei angen, oherwydd eich bod yn tynnu’r pŵer hwn oddi wrthynt yn barhaol? Byddwn wedi dweud bod hynny yn erbyn yr agenda lleoliaeth. Diolch.
Rwy'n ddiolchgar am sylwadau cytbwys yr Aelod, eto. Roedd hwn yn ymrwymiad yn y maniffesto a gymerwyd gennym trwy holl sianelau’r rhaglen maniffesto. Aethom at y bobl a phleidleisiodd y bobl o’i blaid. Cawsom y fraint o gael ein hethol fel y Llywodraeth, ac yn awr rydym yn cwblhau’r addewid maniffesto hwnnw fel y nodwyd.
Byddaf yn cymryd y pwynt olaf yn gyntaf, os caf, o ran y gallu i wneud yn siŵr bod cyllid yn cael ei ail-fuddsoddi yn ôl mewn tai. Rydym wedi newid y rheolau yn awr, ond y broblem yw ein bod wedi colli’r stoc dai. Mae awdurdodau yn awr yn gallu cynnal 100 y cant o'r gwerthiant a'i roi yn ôl i mewn i'r ddarpariaeth dai. Felly, rydym wedi gwneud newidiadau i'r broses ariannol a ddechreuwyd 35 mlynedd yn ôl—mae'n wahanol iawn heddiw. Ond rydym wedi colli llawer iawn o stoc, a dyna pam—. Rwyf hefyd yn cydnabod y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud, gan ddweud na fydd hyn yn cynyddu niferoedd y stoc, ond yr hyn y mae'n ei wneud yw eu cadw fel endidau. Pan fydd y rhain yn cael eu gwerthu, fel y dywedais yn gynharach, mewn wyth awdurdod a gafodd eu samplo, mae dros 12 y cant o'r rhain wedi mynd i mewn i'r sector rhentu preifat, felly nid ydynt yn rhan o’r sector cymdeithasol y crëwyd nhw ar ei gyfer.
Mae'r Aelod yn gywir yn ei rhagdybiaeth am y cyfnod gras dros dro a gallu'r rhai sydd eisoes wedi’u hatal; ni fyddant yn cael y cynsail i wneud cais am y cyfnod gras o 12 mis. Nid yw'n gymwys iddyn nhw. Y rheswm am hynny a'r rheswm pam y cyflwynwyd hyn yn y lle cyntaf yw oherwydd bod pwysau yn sgil prinder tai yn y maes penodol hwnnw ac, felly, ni fyddem am weld cynyddu gwerthiant yn y meysydd hynny yn awr neu o fewn y cyfnod pum mlynedd. Mae llawer o ddadansoddi wedi bod wrth brofi’r awdurdodau lleol pan fyddant yn gwneud cais am atal. Felly, ymhen 12 mis, ni fyddai’r sefyllfa honno wedi newid. Ni fyddem wedi cynyddu'r cyflenwad tai yn sydyn gan 250 neu beth bynnag y gall y rhif hwnnw fod. Felly, ni fydd yn gymwys i'r rhai sydd eisoes ar hyn o bryd o fewn y gostyngiad dros dro o ran hawl i brynu.
Credaf fy mod i wedi ymdrin â thri chwestiwn yr Aelod.
Roeddwn yn falch o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi’r Bil hwn yng nghyd-destun cyfres o bolisïau a gynlluniwyd i gadw stoc tai cymdeithasol, a chynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy. A yw'n rhannu fy mhryder am yr hyn fyddai'r effaith ar y cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru pe byddai Plaid Cymru, y Torïaid ac UKIP wedi llwyddo'r wythnos ddiwethaf yn eu hymdrech i atal y Llywodraeth dan arweiniad Llafur Cymru rhag buddsoddi gwerth £30 miliwn pellach mewn tai fforddiadwy?
Rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn i godi'r mater o wneud yn siŵr ein bod yn gallu bwrw ymlaen â’r Bil hwn ac amddiffyn y stoc dai ar gyfer y dyfodol. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog Cyllid sy’n cydnabod yr her enfawr o ddarparu 20,000 yn fwy o unedau newydd yng Nghymru. Nid yw'n her hawdd, ac ni allwn weld y goleuni mewn eiliad; mae'n rhaid iddo gael ei gyflwyno yn gynnar, ac rydym wedi dechrau’r broses honno. Felly, dyna pam, er gwaethaf cyfnod ariannol heriol, y mae’r Ysgrifennydd cyllid wedi caniatáu i'r Cabinet a ninnau wneud buddsoddiadau sylweddol gydag awdurdodau lleol, gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, yn awr, i wneud yn siŵr ein bod yn gallu cyflawni ar gyfer pobl dros y pum mlynedd nesaf.
Rwy'n siŵr y byddwch yn cofio dod i Gydweli ac ymweld â'r tai newydd oedd yn cael eu hadeiladu ym Morfa Maen yn 2013 o dan arweinyddiaeth y Blaid Lafur bryd hynny ar Gyngor Sir Caerfyrddin—y cyngor cyntaf i adeiladu tai cyngor yng Nghymru ers y 1980au. Erbyn hyn mae gennym 11 awdurdod yng Nghymru sy’n berchen ar gartrefi sydd wedi dod allan o gymhorthdal y cyfrif refeniw tai. Mae hynny'n golygu eu bod bellach yn cadw eu refeniw rhent yn lleol yn hytrach na’i anfon yn ôl i'r Trysorlys, ac maent yn gallu buddsoddi’r arian hwnnw mewn stoc leol. Felly, fy nghwestiwn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw a ydych yn teimlo, fel rhan o'r Bil hwn, drwy roi terfyn ar yr hawl i brynu, y bydd yn ychwanegu at y diogelwch y bydd cynghorau yn ei gael, ac mewn gwirionedd yn calonogi awdurdodau lleol i ailafael yn eu swyddogaeth hanesyddol fel adeiladwyr tai mawr?
Diolch i chi am eich cwestiwn. Rwy’n cofio'n glir yr ymweliad â Chydweli, yn ôl yn 2013. O hynny symudais i is-adran yr amgylchedd, ac yn awr rwy’n ôl, fel y maent yn ei ddweud yng Nghaliffornia. Y mater dan sylw o ran y cynllun mawr a welais yng Nghydweli oedd rhywbeth am bobl leol yn buddsoddi yn eu cymunedau ac yn cael y weledigaeth i wneud hynny. Fe wnes i longyfarch yr awdurdod bryd hynny.
Gadael y Cyfrif Refeniw Tai: hawliais bob clod am hynny, ond mewn gwirionedd, roedd yn ymwneud yn rhannol â Jocelyn Davies, sef y Gweinidog tai blaenorol, a gychwynnodd y rhaglen honno. Ailafael yn y rhaglen ar y diwedd wnes i, ac roeddwn yn ddigon ffodus o gael ei chyflwyno. Ond roedd llawer o waith wedi mynd i mewn i gefndir hwnnw, gan wneud yn siŵr eto ein bod wedi gallu cyflawni yn y tymor hwy gyda buddsoddiad yno.
Fe wnes i fethu un cwestiwn, a godwyd gan Angela Burns ynghylch a wyf yn ymddiried yn yr awdurdodau lleol. Rwy'n ymddiried yn yr awdurdodau lleol yn gyfan gwbl i adeiladu mwy o gartrefi, ond y broblem yw nad yw'r ddeddfwriaeth yn eu diogelu yn y tymor hir. Dyna pam yr ydym yn gweld awdurdodau blaengar, fel Sir y Fflint, fel llawer o rai eraill ar draws—. Mae Rhondda Cynon Taf yn awdurdod lleol arall sy'n gwneud rhai buddsoddiadau mawr. Mae'n rhaid i ni roi'r offer iddynt i allu cyflawni hyn hefyd, a dyna pam y bydd y Bil hwn nid yn unig yn Fil sy’n rhoi terfyn ar yr hawl i brynu, ond sy’n gwneud yn siŵr bod ein buddsoddiad clyfar mewn adeiladu cartrefi newydd a stoc tai cymdeithasol yn cael ei ddiogelu ar gyfer ein pobl ifanc i’r dyfodol.
Diolch. Dawn Bowden.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ôl i chi geryddu Aelodau eraill, rwyf wedi torri i lawr cryn dipyn ar yr hyn yr oeddwn yn mynd i'w ddweud yn wreiddiol. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad derbyniol iawn, gan nodi enghraifft arall o Lywodraeth Lafur Cymru yn cyflawni un o'i haddewidion maniffesto yn ei blwyddyn gyntaf? Byddai'n rhaid i mi ddweud bod hyn yn gwrthgyferbynu’n llwyr â’r addewidion a welwyd yn cael eu torri yn ddiweddar gan y Torïaid o ran eu haddewidion maniffesto ar yswiriant gwladol, ac mewn gwirionedd, o ran adeiladu tai fforddiadwy, y maent wedi newid eu cân arno yr wythnos hon hefyd.
Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gadawodd etifeddiaeth yr hawl i brynu yn y 1980au, fel yr ydych eisoes wedi ei grybwyll, ni yn druenus o brin o stoc dai ac, fel yr ydym eisoes wedi clywed, cafodd awdurdodau lleol eu hatal rhag ail-fuddsoddi'r arian o werthu’r tai hynny. Pan glywaf y Ceidwadwyr ac UKIP yn siarad am ail-fuddsoddi hynny, mae'r cyfan—mae arnaf ofn—yn rhy ychydig yn rhy hwyr. Roedd angen hynny arnom yn y 1980au, ac ni chawsom hynny, ac arweiniodd hynny, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, at yr argyfwng tai yr ydym yn dal i geisio ymdrin ag ef. Felly, er fy mod yn gallu deall y dyhead o fod yn berchen ar dŷ, rwy’n credu bod angen mynd i'r afael â hynny mewn ffyrdd gwahanol, fel yr amlygwyd eisoes gennych hefyd yn eich datganiad.
Rwyf wedi cael rhai trafodaethau diweddar, Ysgrifennydd y Cabinet, â Chartrefi Cymoedd Merthyr am yr hawl i brynu. Gan gofio mai dyma’r awdurdod lleol lleiaf yng Nghymru, maen nhw’n dal i fod wedi gwerthu 93 o'u cartrefi ar gost o £5.5 miliwn— [Torri ar draws.]
Ydw i'n clywed cwestiwn, os gwelwch yn dda?
Maent wedi gorfod tynnu £1.5 miliwn oddi ar y swm hwnnw. Felly, yr hyn yr wyf am ei wybod, Ysgrifennydd y Cabinet yw hyn: o ystyried yr holl bwyntiau yr ydych wedi eu gwneud yn eich datganiad heddiw, a ydych chi wedi gwneud asesiad o faint o dai yr ydych yn disgwyl i’r polisi hwn eu diogelu, yn awr ac yn y dyfodol yn y sector tai cymdeithasol, ac yn bwysicach, a ydych chi wedi gwneud asesiad o sut y gallai hyn leddfu'r pwysau ar restrau aros am dai cyngor?
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae'r polisi sydd wedi digwydd yn Lloegr yn fater i Lywodraeth y DU. Rwyf hefyd yn cytuno â'r Aelod bod y Papur Gwyn ar dai a'r materion ynghylch eu haddewid ar ddatblygu cartrefi newydd yn mynd i’r wal, ond nid ydym yn Lloegr—eto. Y ffaith yw, mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud yma. Dyna pam ein bod yn gwneud datganiad cadarnhaol iawn wrth roi terfyn ar yr hawl i brynu, ond hefyd yr holl gamau gweithredu eraill hynny y mae'r Aelod yn eu codi, am gymorth i brynu, rhentu i brynu, a gweithio gyda set ystwyth iawn o sefydliadau. Mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru yn drefnus iawn ac yn cyflawni llawer, mewn nifer o achosion—yn fwy felly yr agenda tai plws. Felly, nid ydynt yn adeiladu cartrefi yn unig; maent yn adeiladu cymunedau, ac mae gennyf ddiddordeb gwirioneddol yn y ffordd yr ydym yn gwneud yn siŵr bod ein harian yn mynd ymhellach o ran sicrhau, pan fyddwn yn creu cymunedau, y gallwn greu rhai cynaliadwy. Felly, nid yw’r is-adran dai hon ond yn rhan o gyfres o ddulliau y byddwch wedi fy nghlywed yn siarad amdanynt, am y ffordd yr ydym yn creu cymuned gydnerth, cymuned gryfach, wedi’i grymuso, ac nid yw hyn ond yn rhan o'r jig-so hwnnw. Gan weithio gyda fy nghydweithwyr, ar draws y Cabinet, gallwn sicrhau Cymru wahanol, a fydd yn rhoi cyfle i bobl sydd eisiau prynu cartrefi yn y dyfodol—mae gennym gynhyrchion i wneud hynny—ond mae ein stoc tai cymdeithasol, sydd dan bwysau eithafol, yn cael ei diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Yn fy marn i, ychydig iawn o bobl sy’n credu mewn gwerthu stoc a pheidio rhoi rhywbeth yn ei le. Fy nghwestiwn yn wir yw hyn: beth sydd o'i le mewn gwerthu tai cymdeithasol yn gyfrifol, ac ail-fuddsoddi er mwyn adeiladu mwy o dai cymdeithasol i greu cylch rhinweddol a galluogi pobl i fod yn fwy annibynnol? Ac mae'n debyg, mewn gwirionedd, y gellid cyfeirio hyn at bawb, gan fod pawb yma yn berchen ar eu cartref eu hunain. Yn awr, nid wyf am beri embaras ar bobl; mae rhai pobl yn berchen ar fwy nag un cartref. Ac eto i gyd, a ydych chi’n credu ei bod yn eironig bod y bobl sydd yma, bawb yn berchen ar eu cartref—onid ydych yn credu ei bod yn eironig eich bod yn dweud wrth bobl y dosbarth gweithiol nad ydynt yn gallu bod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain?
Mae hwnnw’n bwynt diddorol iawn y mae’r Aelod yn ei godi, a'r hyn yr ydym ni'n ei ddweud yma yw nad ydym yn atal pobl rhag bod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain. Rydym yn gwneud yn siŵr bod cynnyrch ar gael a fydd yn caniatáu i bobl ymuno â’r farchnad dai, a'r rheini yw'r cynlluniau yr wyf wedi siarad amdanynt: y rhaglenni cymorth i brynu a rhentu i brynu sydd bob amser yn cefnogi gallu pobl i wneud hynny. Nid wyf yn anghytuno â'r Aelod o ran yr economi cylchol a gwneud yn siŵr os ydym yn gwerthu un tŷ, ein bod yn adeiladu un arall. Nid yw hynny wedi digwydd yn y gorffennol, a dyna pam yr ydym yn ceisio diogelu'r stoc sydd gennym yn awr. Yn y gorffennol—a bydd yr Aelod yn ymwybodol o hyn—mae’r cartrefi wedi eu gwerthu ac mae’r Cyfrif Refeniw Tai dim ond wedi caniatáu i'r gwariant cyfalaf o 75 y cant gael ei gadw yn ôl i mewn, felly roeddech bob amser ar eich colled ac ni allech adeiladu eiddo newydd ar hynny. A dyna pam ei bod yn bwysig i ni atal y cynnig hwnnw rhag digwydd. Rydym yn mynd i fod yn adeiladu mwy o dai cymdeithasol ar gyfer pobl sydd eisiau hynny, ond rydym hefyd yn darparu cynnyrch fel y gall pobl gamu ar ysgol y farchnad dai, os mai dyna beth maent am ei wneud.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.