7. 3. Datganiad: Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 14 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 3:55, 14 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Mae yna faterion eraill, megis gadael yr UE. Gwelaf fod yr UE yn gorfodi aelod-wladwriaethau i ganiatáu i fuddsoddwyr rhyngwladol brynu i mewn i’w marchnadoedd tai. Gall hyn yn awr newid. A yw hwn yn ddatblygiad i'w groesawu, felly, gan nodi fod dau god post Caerdydd yn y 10 uchaf ar gyfer eiddo sy'n eiddo i gwmnïau ar y môr? Felly, gellid mynd i'r afael â hynny drwy i ni adael yr UE. Felly, cyfres o gwestiynau, a chymerwyd sbel i gyrraedd atynt. Ond byddwn yn falch pe byddech yn eu hateb. Diolch.