8. 4. Datganiad: Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg — Y Ffordd Ymlaen

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 14 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:25, 14 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i Darren Millar am ei eiriau caredig. Fel bob tro arall, mae wedi crwydro ymhell ac agos, gan ddefnyddio'r datganiad fel man cychwyn yn hytrach na fel diben y ddadl hon y prynhawn yma. Ond, gadewch i mi ddweud hyn, Darren: mae diffyg uchelgais yn rhai o'r cynlluniau hynny, rwy’n meddwl eich bod chi’n gwbl gywir yn hynny o beth. Mae'r heriau yr ydych chi wedi’u nodi yn eich cwestiynau, a’ch dadansoddiad cyfan, yn her rwy'n derbyn. Rwy’n meddwl eich bod wedi amlinellu llawer o'r heriau allweddol y mae'n rhaid inni eu goresgyn.

Felly, gadewch i mi ddweud hyn wrth ymateb i chi: oes, mae angen i ni gael camau gweithredu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a chan lywodraeth leol. Sut ydym ni’n gwneud hynny? Yr hyn nad ydym yn ei wneud yw pwyntio bysedd a chreu penawdau sy’n tynnu sylw, lle rydym yn dechrau rhyfel gyda llywodraeth leol ac ati. Nid ydym ni’n gwneud hynny. Yr hyn yr ydym ni’n ei wneud yw gweithio gyda'n gilydd. Rydym ni’n gweithio gyda'n gilydd ac yn parchu ein gilydd a’r gweledigaethau yr ydym yn eu rhannu a’r uchelgeisiau yr ydym yn eu rhannu. Dyna beth sydd wrth wraidd hyn.

Mae hyn yn ymwneud â chenhadaeth, os mynnwch chi. Mae Kirsty Williams wedi sôn am ein cenhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg ar sawl achlysur. Mae hyn yn ymwneud â chael gweledigaeth ar y cyd ar gyfer y dyfodol. Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni’r weledigaeth honno yr ydym yn ei rhannu. Gobeithio y bydd Aled yn gallu adrodd erbyn dechrau'r haf ac y bydd y cynlluniau strategol ar waith ar yr adeg honno er mwyn ein galluogi i fod â’r fframwaith hwnnw ar waith, os mynnwch chi, wrth symud ymlaen.

Ac, wrth inni symud ymlaen, bydd angen i ni gyflawni’r holl heriau yr ydych chi wedi’u hamlinellu, cynllunio gweithlu, Cymraeg i oedolion a materion yn ymwneud â'r cwricwlwm newydd ac ati. Mae'r rheini i gyd yn heriau allweddol yr wyf yn eu derbyn ac y mae’n rhaid i ni eu cyflawni. Mae'r pwyntiau sydd wedi eu gwneud am ddarpariaeth gofal plant yn rhai da. Mae angen i ni sicrhau bod y cynnig gofal plant sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd—. Mae fy nghydweithiwr, y Gweinidog dros Gymunedau a Phlant, yn gweithio ar y gwaith hwnnw ac yn ei arwain. Gadewch i mi ddweud hyn wrth Darren: rydym ni’n cyfarfod yn rheolaidd i drafod yr elfennau iaith Gymraeg o hynny, gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, i sicrhau bod gennym y gweithlu medrus hwnnw i’n galluogi i oresgyn yr her honno. Mae hynny'n sicr yn rhywbeth, unwaith eto, yr wyf yn ei dderbyn.

Mae dilyniant addysg ôl-16 hefyd yn rhywbeth yr wyf yn ei dderbyn. Bydd yr Aelod yn ymwybodol bod Kirsty Williams wedi gwneud datganiad yn yr Eisteddfod y llynedd, gan sefydlu gweithgor gyda Delyth Evans. Rydym yn disgwyl i hwnnw adrodd erbyn dechrau'r haf neu ganol haf eleni. Bydd hynny, rwy’n gobeithio, yn nodi amlinelliad, yn nodi ffordd ymlaen, ar gyfer dyfodol addysg ôl-16, yn enwedig y posibilrwydd o ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg bellach. Rwy’n cytuno mai dyna'r sector sy'n gwbl hanfodol er mwyn creu'r gweithlu a fydd yn ein galluogi i gyflawni ein huchelgeisiau a'n cynlluniau. Ac mae strategaeth gydlynol, y gwnaethoch ofyn amdano, yn gwbl hanfodol fel sylfaen i’r holl bethau hyn.

Ond yr hyn yr ydym ni’n ei drafod heddiw, Darren, yw cynlluniau strategol llywodraeth leol. Yr hyn y mae’n rhaid i'r rhain ei wneud yw creu'r weledigaeth yr ydym i gyd, rwy’n meddwl—rwy’n gobeithio—yn ei rhannu ar gyfer y dyfodol. Dyna fydd yn gosod y sail bryd hynny. Byddwn yn deall nifer yr athrawon y bydd eu hangen arnom, byddwn yn deall nifer y gweithwyr cymorth y bydd eu hangen arnom, byddwn yn deall y math o ddarpariaeth gofal plant y bydd ei hangen arnom, lle y bydd angen y bobl hynny arnom, y mathau o sgiliau y bydd arnom angen iddynt eu cael, a sut yr ydym yn bwrw ymlaen â hynny, nid ar gyfer 2017 i 2020 yn unig, sef yr hyn yr ydym yn ei drafod heddiw, ond defnyddio’r cynlluniau ar gyfer 2017 i 2020 er mwyn adeiladu’r sylfaen ar gyfer y dyfodol.

Felly, rwy’n gobeithio fy mod i wedi ateb y rhan fwyaf o'ch cwestiynau yn y fan yna. Wrth gwrs, roedd Cymraeg i oedolion yn dod o dan y cytundeb cyllideb gyda Phlaid Cymru, pan wnaethom ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer cyrsiau Cymraeg trwy'r ganolfan genedlaethol ar gyfer dysgu Cymraeg i oedolion. Ond efallai bod yr heriau yr ydych chi wedi’u nodi yn ffordd dda o ddisgrifio’r math o heriau y bydd yn rhaid i ni eu goresgyn o ganlyniad i'r cynlluniau hyn a’r dull hwn o weithio.