Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 14 Mawrth 2017.
A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei ddatganiad? Mae’n ddatganiad yr wyf yn ei groesawu ac mae yn rhoi mwy o hyder i mi fod Llywodraeth Cymru yn cymryd ei chyfrifoldeb o safbwynt addysg Gymraeg a thwf addysg Gymraeg o ddifri, a hefyd bod y Llywodraeth yn sylweddoli nad yw busnes fel arfer yn ddigon da ac na fyddai hynny yn cwrdd â’r nod sydd wedi cael ei adnabod.
Byddwch yn gwybod fy mod i ac Aelodau eraill wedi ysgrifennu atoch rai wythnosau yn ôl yn galw arnoch i wrthod mwyafrif helaeth y cynlluniau yma am eu bod nhw yn ddi-uchelgais, eu bod nhw heb fanylder ac yn aml iawn eu bod nhw’n anwybyddu llawer o gyfarwyddiadau’r Llywodraeth. Maent yn tueddu i fod yn ddisgrifiadol yn hytrach nag yn ddatblygiadol o safbwynt twf addysg Gymraeg. Rydym wedi clywed sut mae Comisiynydd y Gymraeg hefyd yn glir nad yw mwyafrif y cynlluniau yma yn ddigonol. Mae Estyn hefyd wedi galw am sicrhau bod targedau’r cynlluniau yn adlewyrchu dyheadau’r strategaeth addysg Gymraeg yn well a hefyd bod pob awdurdod lleol yn rhoi mwy o bwysigrwydd strategol ar gyflawni targedau yn y cynlluniau. Ac rydym yn cofio, wrth gwrs, am adroddiad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad blaenorol yn Rhagfyr 2015 a oedd yn eithaf damniol o’r cynlluniau a’u gwerth. Felly, mae’r ffaith ein bod wedi dod i fan hyn heddiw yn rhywbeth y byddwn yn ei groesawu, er, wrth gwrs, mae’r ffaith ein bod ni wedi gorfod dod i’r pwynt yma yn rhywbeth sydd yn destun siom.
Rwyf yn falch eich bod yn cydnabod bod angen cryfhau’r cynlluniau yn sylweddol, ond mi fyddwn yn gwerthfawrogi petaech yn gallu sôn wrthym a ydych yn disgwyl y bydd yna newidiadau i gynlluniau pob awdurdod lleol neu a ydych yn teimlo bod rhai o’r cynlluniau sydd wedi cael eu cyflwyno yn dderbyniol, jest i ni gael deall yn union beth yw eich disgwyliadau chi a ble rŷch chi’n gosod y safon.
Byddwn innau hefyd yn croesawu penodiad Aled Roberts fel person addas, yn sicr, ar gyfer y rôl yma. Ond eto byddwn yn ddiolchgar am ychydig o eglurder, oherwydd mae’n swnio i mi fod yna ddwy rôl fan hyn—un yn argymell gwelliannau penodol i’r cynlluniau strategol unigol sydd wedi’u cyflwyno; ac yn ail wedyn, argymell newidiadau i’r gyfundrefn ehangach. Yn y cyd-destun hwnnw, byddwn eisiau deall yn well beth yn union yw’r cylch gorchwyl neu’r cylch gwaith sydd wedi’i osod. Pa sgôp penodol sydd iddo a pha mor eang yw’r rôl yna rydych yn disgwyl iddo fe ei chwarae, oherwydd yn amlwg bydd y cynllun strategol y Gymraeg mewn addysg newydd yn allweddol o safbwynt gosod cywair ac uchelgais wrth symud ymlaen. Ond liciwn i ddeall yng nghyd-destun y darn penodol yma o waith rydych yn gofyn i Aled Roberts ei gyflawni, er enghraifft, a fydd disgwyl argymhellion o gwmpas dulliau mwy cadarn o fesur y galw—rhywbeth rwyf yn teimlo sy’n ddiffygiol ar hyn o bryd—a hefyd awgrymiadau efallai ynglŷn â dyletswyddau penodol o safbwynt cwrdd â’r galw sydd wedi cael ei adnabod. Ymhellach i hynny, mae eich datganiad chi yn sôn am greu y galw hefyd ac rwyf yn siŵr y byddech yn cytuno bod angen bod yn llawer mwy rhagweithiol wrth hyrwyddo manteision addysg Gymraeg a dwyieithog.
A ydych chi hefyd yn edrych i sicrhau bod dyhead Llywodraeth Cymru o safbwynt twf addysg Gymraeg yn cael ei adlewyrchu’n gryfach yng ngofynion rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, er enghraifft? Beth am bolisïau trafnidiaeth ysgolion sydd, yn aml, yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau yn y maes yma? Mi ofynnwyd am yr amserlen yn gynharach, a jest i mi ddeall yn well, ai cryfhau’r cynlluniau presennol ac yna, o bosib, edrych at gyfundrefn newydd ar ôl 2020 ydych chi? Neu ai’r bwriad yw edrych ar newid mwy sylweddol yn gynt na hynny ac yn gynharach na hynny? Ond fel rwyf yn dweud, rwyf yn croesawu y datganiad ond yn teimlo efallai y byddem i gyd yn cael budd o weld ychydig mwy o fanylion ynglŷn â’r gwaith rydych yn gofyn i Aled Roberts ei wneud.