8. 4. Datganiad: Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg — Y Ffordd Ymlaen

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 14 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:42, 14 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar am y sylwadau hynny, ac os caf ddechrau lle y gwnaethoch chi orffen, rwy’n credu mai’r hyn a fydd yn mesur ein llwyddiant yw’r distawrwydd yn y cyfryngau, mewn sawl ffordd. Rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu symud ymlaen a chyflwyno polisi sy'n cael ei wneud nid trwy wrthdaro ac nid trwy orfodi, ond drwy ddwyn perswâd, drwy gefnogaeth, drwy hyrwyddo a thrwy gael sgwrs â phobl. Rwy’n synhwyro bod llawer iawn o ewyllys da tuag at y Gymraeg ar draws gwahanol gymunedau Cymru. Rwyf i’n cynrychioli cymuned a chymunedau lle nad oes llawer iawn o Gymraeg yn cael ei siarad ym Mlaenau Gwent. Ond rwy’n gwybod bod llawer iawn o rieni sy'n dymuno bod yn gallu siarad yr iaith eu hunain ac sydd eisiau i'w plant naill ai siarad yr iaith, neu fod yn gyfarwydd â'r iaith.

Yr hyn y byddwn ni, gobeithio, yn gallu ei wneud fel Llywodraeth, yw gweithio gyda’r ewyllys da hwnnw er mwyn sicrhau bod pobl yn teimlo'n gyfforddus â'r hyn yr ydym ni’n ei gynnig a gweithio gyda safbwyntiau cymunedau ar draws y wlad. Ac mae hynny'n golygu y bydd ein disgwyliadau mewn gwahanol leoedd yn wahanol a bydd yr hyn yr ydym ni’n ei ragweld a'n huchelgeisiau yn wahanol mewn gwahanol rannau o'r wlad. Ond yr hyn na fydd yn wahanol, gobeithio, yw pa mor benderfynol yr ydym ni i greu'r wlad ddwyieithog y gwnaethoch chi ei disgrifio. Ac wrth wneud hynny, rwy’n gobeithio y bydd y cynlluniau hyn yn rhoi ar waith y dewis i gael addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru ac i sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn gallu i wneud y dewis hwnnw ar gyfer eu plant a’u bod yn hapus i wneud hynny, a bod y dewis hwnnw ar gael gyda'r holl adnoddau a’r cyfleusterau a ddisgrifiwyd yn gynharach gan Darren Millar.

Felly, rydym ni’n gweithio, gobeithio, mewn modd sy'n adeiladol, sy'n blaenoriaethu synnwyr cyffredin yn hytrach nag ideoleg ac sy’n sicrhau y bydd gan bobl ledled Cymru y dewis o addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer eu plant heb yr anawsterau o orfod cludo eu plant am filltiroedd lawer i dderbyn yr addysg honno, a hynny gan boeni hefyd am y math o addysg y byddant yn ei derbyn—i sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei hystyried yn ddewis a wneir yn gynyddol gan rieni yn y dyfodol. Byddwn yn sicr yn gobeithio y bydd y cynlluniau y gallwn eu rhoi ar waith yn sefydlu strwythur a fydd yn gweld llawer iawn mwy o bobl ifanc yn cael dysgu Cymraeg, yn gadael yr ysgol yn rhugl yn y Gymraeg ac yn hyderus ynghylch defnyddio eu Cymraeg drwy gydol eu bywydau.

Mae'r pwyntiau a wnaethoch chi am y Mudiad Meithrin a Rhieni dros Addysg Gymraeg yn bwyntiau yr wyf yn eu derbyn. Mae'r pwyntiau am ddosbarthiadau meithrin a dosbarthiadau derbyn mewn addysg yn bwyntiau yr wyf yn eu derbyn, ac mae'r materion yr ydych chi wedi eu codi am fesur y galw, a godwyd hefyd gan Llyr Gruffydd, yn bwyntiau yr wyf yn eu derbyn. Felly, rwy’n gobeithio, wrth fwrw ymlaen â’r polisi hwn, y byddwn yn gallu gwneud hynny gyda chymunedau ledled Cymru, ac nid yn groes i gymunedau ledled Cymru.