Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 14 Mawrth 2017.
A gaf i groesawu'r datganiad a phenodiad Aled Roberts i’w swyddogaeth newydd bwysig? Hoffwn ganmol y Gweinidog am ei synnwyr cyffredin a’r ymagwedd realistig y mae’n ei harddel yn y dasg bwysig hon, yn arbennig yr hyn y mae newydd ei ddweud wrth ymateb i Llyr Gruffydd am deilwra ein polisi yn unol â’r ardal neu'r rhanbarth o Gymru, a'r gwahanol anghenion sydd gennym er mwyn cyflawni ein hamcan o fod ag 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg, gan ddibynnu ar faint y mae’r Gymraeg eisoes wedi treiddio i’r ardal honno.
Rwy'n siŵr bod y Gweinidog wedi darllen yn ofalus ymateb Rhieni dros Addysg Gymraeg i’r Cynlluniau Strategol, ac rwy’n credu ei bod yn ddogfen hynod o ddiddorol a llawn gwybodaeth, ac mewn gwirionedd yn eithaf trawiadol. Mae nifer o bwyntiau pwysig iawn yn cael eu gwneud ynddo yr wyf yn credu ei bod yn bwysig i ni eu hystyried, yn arbennig, pwysigrwydd dosbarthiadau meithrin a dosbarthiadau derbyn wrth greu, fel y mae’r datganiad yn ei ddweud, galw am addysg cyfrwng Cymraeg. Nid yw’r datganiad yn sôn am y Mudiad Meithrin, er enghraifft, sydd wedi rhoi tystiolaeth i bwyllgor y Gymraeg, ac rwy’n credu bod hynny’n hynod ddiddorol ynddo'i hun. Mae'n ymddangos i mi, fel cefnogwr cryf o bolisi'r Llywodraeth, bod hon yn elfen gwbl hanfodol o flaen unrhyw beth arall; yr ieuengaf y bo plant pan fyddant yn cael eu cyflwyno i'r Gymraeg, yna, wrth gwrs, y mwyaf llwyddiannus y mae’r polisi hwn yn mynd i fod.
Hoffwn hefyd gefnogi'r hyn y mae Llyr newydd ei ddweud am fodd o fesur y galw. Yn y ddogfen hon gan Rhieni dros Addysg Gymraeg, maent yn cyfeirio at achos Torfaen, lle mae'n dweud—os gallaf ddod o hyd i'r paragraff, mae'n werth cyfeirio ato—bod rhai cynghorau wedi cynnal arolwg i fesur y galw yn ddiweddar, er enghraifft, Torfaen, a oedd yn dangos bod dros 22 y cant o rieni yn awyddus i ddewis addysg cyfrwng Cymraeg, ond penderfynodd y sir beidio â chynnwys y wybodaeth hon yn y cynllun, gan ddewis cyflwyno cynllun a fydd yn cadw at y ddarpariaeth bresennol, sef tua 15 y cant. Mae hwnnw, yn fy marn i, yn un o'r meysydd lle y gallwn wneud rhai datblygiadau sylweddol tuag at gyflawni ein nod cyffredin.
Y peth arall yr hoffwn ei ddweud, yng ngoleuni'r helynt sydd wedi codi yn ddiweddar ynghylch yr ysgol yn Llangennech, yw pa mor bwysig yw hi i ni fynd â rhieni gyda ni o ran y polisi hwn. Oherwydd os caiff dull gorfodi ei fabwysiadu a gwrthdaro yn cael ei greu, yna mae'n mynd i fod yn llawer mwy anodd i ni symud ymlaen o ble yr ydym ni nawr i ble yr ydym ni’n dymuno bod ymhen 30 mlynedd. Oherwydd mae rhannau sylweddol o Gymru lle nad oes llawer iawn o Gymraeg yn cael ei siarad fel iaith gyntaf a byddai'n llawer anoddach i argyhoeddi’r rhieni uniaith Saesneg hyn mai dyma'r cyfeiriad y dylai Cymru fynd iddo yn y dyfodol. Hoffwn weld cenedl gwbl ddwyieithog yn ystod fy oes i, ac mae'n bwysig, felly, ein bod yn cario pobl gyda ni. Byddwn yn falch pe byddai’r Gweinidog yn dweud rhywbeth am hyn heddiw, oherwydd rwy’n credu bod yn rhaid i bob un ohonom fod yn efengylwyr dros yr iaith Gymraeg, ond os byddwn ni’n defnyddio dull rhy awdurdodol—wel, os yw awdurdod lleol yn defnyddio dull rhy awdurdodol—yna mae'n mynd i greu drwgdeimlad, sydd mewn gwirionedd yn mynd i wneud y gwrthwyneb o'r hyn y mae angen i ni ei wneud er mwyn gwneud polisi'r Llywodraeth yn llwyddiannus.