Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 14 Mawrth 2017.
A gaf i groesawu datganiad y Gweinidog heddiw a’r ffaith bod yna olwg ffres yn cael ei gymryd o gynllun strategol y Gymraeg mewn addysg, a dymuno’n dda i Aled Roberts yn ei waith? Rydw i’n gobeithio nad ydyw wedi cael pàs ysbyty gan y Gweinidog, ac rwy’n gofyn hynny yn benodol am un rheswm, sef bod ei ragflaenydd, Leighton Andrews, pan oedd ef yn trafod y materion yma yn y Cynulliad diwethaf, wastad wedi sôn am y posibiliad o droi’r cynlluniau strategol yma i mewn i lefel statudol, os nad oedd y cynghorau lleol yn cydweithio gyda’r Llywodraeth. Nid yw’r Gweinidog wedi sôn am hynny yn ystod ei ddatganiad heddiw, ac rydw i eisiau gofyn, felly, yn gyntaf: a ydy hi dal yn opsiwn gan y Llywodraeth i wneud y cynlluniau Cymraeg mewn addysg yn statudol os nad yw’r cynghorau yn cydweithio?
Nawr, mae’r Gweinidog wedi sôn am gydweithio gyda’r cynghorau fel y ffordd ymlaen, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny’n llwyddiannus. Ond hoffwn innau hefyd ddychwelyd at ysgol Llangennech fel enghraifft, ac i fynd yn ôl at achos y BBC gynnau fach, o sut i beidio â gwneud y pethau yma, ond nid o ochr y cyngor sir. Mi oedd cynllun Gymraeg mewn addysg Cyngor Sir Gâr yn sôn yn benodol fod y cyngor sir yn cydweithio’n agos gyda staff a chyrff llywodraethol ysgolion dwy ffrwd sir Gâr er mwyn eu troi yn ysgolion Cymraeg. Dyna oedd amcan y cynllun Cymraeg mewn addysg. Fe dderbyniwyd hynny yn unfrydol gan gabinet sir Gâr yn ôl ym mis Gorffennaf 2014, pan oedd y cyngor sir, wrth gwrs, dan arweinyddiaeth y Blaid Lafur. Yn sgil hynny, roedd llywodraethwyr y ddwy ysgol yn Llangennech—iau a hŷn—wedi cymeradwyo, roedd y cyngor cymuned wedi cefnogi’r cynllun, roedd pwyllgor craffu’r cyngor sir wedi cefnogi’r cynllun, roedd cabinet y cyngor sir wedi cefnogi’r cynllun—er roedd hwnnw nawr o dan arweinyddiaeth Plaid Cymru—ac roedd y cyngor sir llawn, wrth gwrs, wedi cefnogi’r cynllun. Er gwaethaf hynny, mae dal pobl yn dweud nad oedd y prosesau wedi eu dilyn a, rhywsut, fod pobl leol wedi eu hanwybyddu. Nawr, hyd y gwelaf i, mae Cyngor Sir Gâr, yn achos Llangennech a’u cynllun strategol Cymraeg mewn addysg, wedi dilyn pob cam statudol a phob cam y gofynnwyd amdano gan y Llywodraeth. Felly, mae’n siom nad oedd y Llywodraeth yn fwy parod i sefyll wrth gefn y cyngor sir yn yr achos yma. Sut fedrwn ni osgoi yn y dyfodol y sefyllfa yma’n codi eto pan mae yna gynllun Cymraeg mewn addysg yn cael ei dderbyn gan y cyngor sir, bob cam yn cael ei ddilyn, ac wedyn rhai—rhai—yn ceisio gwneud hwn yn fater ieithyddol a dadl ieithyddol?