8. 4. Datganiad: Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg — Y Ffordd Ymlaen

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 14 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:54, 14 Mawrth 2017

Fe wnaf i ateb y cwestiwn cyntaf yn gyntaf. Ydy, mae’n opsiwn i sicrhau bod y cynlluniau yn statudol yn y dyfodol. Mae hefyd yn opsiwn, wrth gwrs, i symud y broses gynllunio i’r consortia ar draws y wlad, ac rydym ni’n ystyried hynny ar hyn o bryd. Nid oes gen i gynnig y prynhawn yma ar unrhyw un o’r syniadau yma, ac nid wyf eisiau gwneud cynnig ar hyn o bryd. Rydw i eisiau gweithio drwy’r broses fel mae hi dros y misoedd nesaf a dod i gasgliadau pan mae’n briodol i wneud hynny—siŵr o fod dros yr haf. Mi fydd yna gyfle inni drafod hynny fel rhan o broses y Papur Gwyn dros yr haf, a dyna’r fath o amserlen sydd gen i ar gyfer opsiynau gwahanol o wneud y peth yma yn statudol.

Rydw i wedi osgoi ymweld â’r materion eraill yn ystod y misoedd diwethaf, oherwydd nad wyf i eisiau bod yn rhan o’r fath o drafodaeth rydym ni wedi ei gweld ac wedi bod yn dystion iddi yn ystod y misoedd diwethaf. Dywedais i wrth ymateb i Neil Hamilton fod distawch yn gallu bod yn gyfaill i’r pethau yma, ac rwy’n mawr obeithio y byddwn ni, drwy broses o siarad a thrafod, drwy broses o wrando a chlywed beth mae pobl yn ei ddweud, yn dod i gasgliadau sy’n cael eu rhannu ar draws cymunedau, lle bynnag y maen nhw. Nid fy mwriad i heddiw yw gwrthod unrhyw gynllun. Nid fy mwriad i’r prynhawn yma yw derbyn unrhyw gynllun. Rydw i eisiau mynd trwy broses o siarad, rhannu syniadau, rhannu gweledigaeth gyda phobl, dod i gytundeb ar ddiwedd y broses yma ac wedyn symud ar y cyd ymlaen ar gyfer y dyfodol. Beth liciwn i ei weld, lle bynnag ydym ni yn y wlad, yw ffordd o weithio a fydd yn cydnabod bod gan bobl syniadau gwahanol a gweledigaeth wahanol ambell waith ar gyfer addysg yn ein cymunedau, ond ein bod ni’n gallu cytuno bod yna le priodol i’r Gymraeg a bod rhaid i’r Gymraeg fod yn rhan o’r broses addysg. Pan ydym ni’n dod i gytundeb, mi fyddwn ni i gyd yn cydweithio ar gyfer y dyfodol.