Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 14 Mawrth 2017.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei gyflwyniad i'r ddadl hon, a hefyd am y sgwrs yr ydym ni wedi ei chael am y mesur hwn yn ddiweddar? Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi amlinellu, gofynnir i ni heddiw gydsynio i Ran 5 Bil Economi Ddigidol Llywodraeth y DU. Fel y soniodd Ysgrifennydd y Cabinet, ar adegau, mae’r rhan honno wedi bod yn ddadleuol iawn wrth i'r Bil symud drwy'r broses ddeddfwriaethol yn nau Dŷ Senedd y DU. Wedi dweud hynny, rwyf hefyd yn cytuno â phwyslais cyffredinol y mater hwn ger ein bron. Fodd bynnag, mae'n werth nodi, wrth iddo fynd ar ei hynt trwy Dŷ'r Arglwyddi, bod adroddiad Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoleiddio Tŷ'r Arglwyddi wedi dweud—ac rwy’n dyfynnu— nid ydym yn credu ei bod hi’n briodol i Weinidogion gael y grym i benderfynu trwy ddeddfwriaeth ddirprwyedig pa awdurdodau ddylai fod â’r hawl i ddatgelu neu dderbyn gwybodaeth drwy’r porth hwn sydd wedi’i ddrafftio’n fras ac sydd â’r potensial o fod yn bellgyrhaeddol.
Gallai’r pwerau eang i rannu gwybodaeth gydag amrywiaeth o 'unigolion penodedig', a allai gynnwys cyrff sector preifat, yn benodol, fod yn faes o bryder, ac yn amlwg roedd yn faes a oedd yn achosi pryder yn y trafodaethau ar ben arall yr M4. Nodwyd yno, yn Nhŷ'r Arglwyddi, y byddai'r pwerau yn ehangu’r cwmpas ar gyfer rhannu gwybodaeth ar draws adrannau'r Llywodraeth, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn sylweddol iawn, ac rwy’n deall y bwriedir caniatáu i dderbynwyr gyfateb y data yn erbyn yr hyn sydd ar gael eisoes i nodi unigolion 'sy'n wynebu anfanteision lluosog'.
Fodd bynnag, gallai rhywun fod â phroblem gyda’r diffiniad eang y rhestr o gyrff y gellid rhannu data dinasyddion â nhw o dan gymal 30 y Bil. Mae'r pŵer i gael eu disgrifio fel 'unigolyn penodedig' yn golygu y gallai fod hawl gan gontractwyr sector preifat i dderbyn a datgelu gwybodaeth am ddinasyddion. Felly, a gaf i ofyn, pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud ar y pwynt penodol a ddylai'r unigolion penodedig gael eu rhestru ar flaen y Bil? Ac a yw Llywodraeth Cymru yn credu y dylai'r Bil gynnwys rhestr o'r fath ar flaen y Bil? Byddai'r darpariaethau yn y Bil, fel y dywedwyd yn y memorandwm esboniadol, yn caniatáu i wybodaeth gael ei rhannu rhwng cyflenwyr nwy a thrydan ac awdurdodau cyhoeddus, o ran cwsmeriaid sy'n byw mewn tlodi tanwydd. Yn amlwg, mae unrhyw gam tuag at gynorthwyo pobl sydd mewn tlodi tanwydd i'w groesawu'n fawr. Fodd bynnag, mae'n codi rhai cwestiynau difrifol yn ymwneud â’r ffaith y bydd gwybodaeth am gwsmeriaid yn cael ei darparu i gwmnïau masnachol. Felly, pa gamau sydd wedi'u cymryd i ddiogelu pobl Cymru er mwyn sicrhau nad yw cwmnïau'n torri unrhyw hawliau preifatrwydd?
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet bod y ddeddfwriaeth hon yn cyd-fynd â deddfwriaeth hawliau dynol. A wnaiff e gadarnhau hynny eto? Ac yn ôl i rannu data gwybodaeth gyda chwmnïau nwy a thrydan. Yn amlwg, os yw'n helpu pobl mewn tlodi tanwydd ac mewn tlodi dŵr, ac yn helpu pobl i reoli dyledion a phob peth arall, mae’r datblygiadau hynny i'w croesawu, yn naturiol, ond beth sy'n digwydd i'r data pan na ystyrir bod y cwsmeriaid hynny a oedd mewn tlodi tanwydd ar un adeg, mewn tlodi tanwydd mwyach? Pa fesurau sy’n cael eu defnyddio i atal y wybodaeth honno rhag cael ei rhannu pan nad yw’n berthnasol gwneud hynny mwyach?
Rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cadarnhau y prynhawn yma y bydd y rhannau perthnasol, pan fo cyrff cyhoeddus perthnasol yn cael eu trafod a mesurau yn cael eu cyflwyno yma, yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol yma. Mae hwnnw’n cam yr wyf yn ei groesawu. Ac, ar ôl dweud hynny oll, ni fydd Plaid Cymru yn gwrthwynebu'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw. Diolch yn fawr.