Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 14 Mawrth 2017.
Hoffwn ddweud fy mod i’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am fy mriffio i ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ddoe. O ystyried amddiffyniadau’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol, o ystyried y diffyg gwrthwynebiad gan y pwyllgor llywodraeth leol a hawliau dynol, a hefyd o ystyried sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet am y gwelliannau sylweddol iawn i’r ddeddfwriaeth wrth iddi fynd rhagddi, a pha mor agored yw’r cydweithredu rhyngddo ef a Llywodraeth y DU ar hyn, rydym ni hefyd yn falch o gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.
Mae’n dweud y bydd yn caniatáu i Gymru ddilyn ein dulliau ein hunain, yn ogystal â darparu ar gyfer dull cydlynol a chyson ar draws y DU. A yw wir yn dweud bod yr holl densiynau rhwng y ddau ddull hynny wedi eu datrys, ac onid oes rheidrwydd i gyfaddawdu rhywfaint rhwng y ddau amcan hynny? Pan fo’n sôn am fynd i'r afael â thwyll a rheoli dyled, rwy’n tybio trwy gyfeirio at 'reoli dyled' ei fod yn golygu mynd ar drywydd dyledion a cheisio cael pobl sydd mewn dyled i dalu’r dyledion hynny, yn enwedig i Lywodraeth Cymru. Ai dyna’r bwriad yn hynny o beth?
Rwy’n croesawu'r gwaith i geisio sicrhau nad yw pobl mewn tlodi tanwydd a thlodi dŵr yn cael y gostyngiadau sy’n ddyledus iddynt—nid yw niferoedd mawr ohonynt yn eu derbyn. Nid yw bob amser wedi bod yn hawdd gwneud cais am y gostyngiadau hynny nac i bobl fod yn ymwybodol o'r ffaith eu bod yn gymwys. Ac rwy’n cydnabod y pryderon o ran preifatrwydd a nododd Dai Lloyd, ond serch hynny rwy’n credu bod hwn yn amcan teilwng, ac rwy'n falch bod y ddeddfwriaeth yn gwneud hynny.
A gaf i hefyd dynnu sylw at y parc gwyddor data ger Casnewydd, a'r ffaith fod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yno a'r cyfleoedd a allai fodoli ar gyfer cyflogaeth a gweithgarwch economaidd, yn enwedig yn yr ardal honno, trwy gael y data sector cyhoeddus hyn ar gael i ymchwilwyr sydd wedi’u hachredu gan Awdurdod Ystadegau'r DU? A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi bod hwn yn gyfle sylweddol arall i’r parc data ger Casnewydd? A yw e hefyd yn cydnabod bod Llywodraeth y DU ac, rwy’n credu, trwy weithio gyda gweinyddiaethau datganoledig yn y cyd-destun hwn yn ôl pob tebyg, wedi bod yn arweinydd o ran sicrhau data agored? Pan gaiff y data hyn eu rhannu gan ymchwilwyr, a fyddant ar gael trwy eu gwaith ymchwil wedyn ar sail ddienw? Ac a yw'n teimlo bod y cydbwysedd iawn yn dal i gael ei daro rhwng hynny a phwysigrwydd data agored i'r cyfleoedd economaidd y bydd hynny’n eu cynnig, ond hefyd i amddiffyn cyfrinachedd priodol?