Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 15 Mawrth 2017.
A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am grybwyll Ysbyty Treforys? Rwyf fi, fel pawb sy’n byw yn ninas-ranbarth Abertawe, yn falch iawn o’r gwaith sy’n cael ei wneud yn Ysbyty Treforys, a’r gwaith y mae’n ei wneud, gan ddenu’r model prif ganolfan a lloerennau ar gyfer iechyd ar draws de-orllewin Cymru i gyd. Fy nghwestiwn, fodd bynnag, yw: y prosiect o’r pwys mwyaf i ddinas Abertawe ar hyn o bryd yw dinas-ranbarth Abertawe a’r angen am gymorth ariannol ar gyfer hwnnw. Yr hyn rwy’n ei ofyn yw a fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i barhau i gefnogi prosiect dinas-ranbarth Abertawe yn llawn?