1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 15 Mawrth 2017.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau gwasanaethau cyhoeddus o fewn Dinas a Sir Abertawe? OAQ(5)0104(FLG)
Diolch yn fawr. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid i brosiectau gwasanaethau cyhoeddus, mawr neu fach, o fewn Dinas a Sir Abertawe. Mae hyn yn amrywio o £100,000 o arian buddsoddi i arbed ar gyfer gwasanaeth i blant sy’n derbyn gofal i £100 miliwn tuag at safle Ysbyty Treforys.
Diolch yn fawr am yr ateb yna, Ysgrifennydd y Cabinet. Nawr, dros yr wythnosau diwethaf, mae pobl ar draws Abertawe wedi bod mewn cysylltiad yn pryderu am ddyfodol Fferm Gymunedol Abertawe, sydd wedi gwneud gwaith arbennig dros 20 mlynedd a mwy yn darparu cyfleoedd dysgu i bobl o bob oed. Yn anffodus nawr, mae’n wynebu cau ar ddiwedd y mis yma os na allan nhw godi £50,000 i gadw’r lle ar agor. A wnewch chi gydweithio gydag aelodau eraill eich Llywodraeth a chyngor Abertawe i drio diogelu dyfodol yr ased bwysig yma yn y tymor byr, tra byddan nhw’n edrych ar ffyrdd eraill o godi arian yn yr hir dymor?
Diolch yn fawr am y cwestiwn. Rwy’n gyfarwydd gyda’r pwnc. Gwelais yr ateb roedd arweinydd y sir yn Abertawe wedi rhoi mas, yn dweud bod arian ychwanegol ar gael i’r fferm i roi cais i fewn amdano, i weld os mae nhw’n gallu helpu nhw yn y ffordd yna. Mae’r sir yn mynd i helpu’r fferm gyda manylion am sut i roi i fewn am yr arian, ac rwy’n fodlon siarad ag aelodau eraill y cabinet i weld a oes rhywbeth y gallwn ni ei wneud. Ond nid ydym ni wedi derbyn cais o gwbl gan y fferm fel Llywodraeth eto.
A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am grybwyll Ysbyty Treforys? Rwyf fi, fel pawb sy’n byw yn ninas-ranbarth Abertawe, yn falch iawn o’r gwaith sy’n cael ei wneud yn Ysbyty Treforys, a’r gwaith y mae’n ei wneud, gan ddenu’r model prif ganolfan a lloerennau ar gyfer iechyd ar draws de-orllewin Cymru i gyd. Fy nghwestiwn, fodd bynnag, yw: y prosiect o’r pwys mwyaf i ddinas Abertawe ar hyn o bryd yw dinas-ranbarth Abertawe a’r angen am gymorth ariannol ar gyfer hwnnw. Yr hyn rwy’n ei ofyn yw a fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i barhau i gefnogi prosiect dinas-ranbarth Abertawe yn llawn?
Rwy’n hapus iawn i roi’r ymrwymiad hwnnw y prynhawn yma, Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn barod i arwyddo bargen ddinesig Abertawe ers rhai wythnosau bellach. Rydym yn teimlo’n rhwystredig oherwydd gweithredoedd Llywodraeth y DU yn y gwahanol negeseuon y mae gwahanol Weinidogion yn y Llywodraeth honno i’w gweld yn eu cyfleu. Roeddwn yn falch o weld y llythyr oddi wrth Ganghellor y Trysorlys i Jonathan Edwards, yr AS dros Ddwyrain Caerfyrddin, lle roedd y Canghellor yn ymrwymo i’r fargen unwaith eto, a dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai’r Llywodraeth mewn sefyllfa i symud ymlaen â hynny’n fuan iawn. Rydym yn sicr yn credu y dylent fod yn y sefyllfa honno.
Wel, wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r rhesymau dros yr oedi yw pryderon Llywodraeth y DU ynglŷn â’r cydbwysedd sector cyhoeddus/sector preifat gyda’r fargen ddinesig honno. Ac ar y pwnc hwnnw, os hoffech, tybed a allech roi syniad i ni—rwy’n sylweddoli na allwch roi ffigur penodol i mi—pa gyfran o gyllid Ewropeaidd Cymru yn fy rhanbarth sydd wedi cael ei wario ar brosiectau gwasanaethau cyhoeddus lle y mae’r prif bartner cyflenwi wedi dod o naill ai’r sector preifat neu’r trydydd sector?
Rwy’n hapus iawn i ddarparu’r ffigurau a’r manylion hynny i’r Aelod. Yn gyffredinol, fel y gŵyr, partneriaid sector preifat yw un o’r prif ffyrdd y gallwn gyflenwi arian Ewropeaidd ochr yn ochr â’n prifysgolion, llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru ei hun. Mae partneriaid sector preifat i fyny yno ar y pen hwnnw i’r gynghrair, ac yn cael eu cynrychioli’n llawn yn y pwyllgor monitro rhaglenni, dan gadeiryddiaeth fy nghyd-Aelod, Julie Morgan. Roeddwn yn falch o fod ar y pwyllgor monitro rhaglenni ar ddiwedd Chwefror, ac yn falch o siarad â phartneriaid sector preifat yno, am y ffordd y maent yn gallu defnyddio arian o dan y cylch presennol, a sut y gallant ein helpu i ffurfio syniadau mewn perthynas â pholisi rhanbarthol y tu hwnt i Brexit.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae Llywodraeth Cymru yn darparu tua £300 miliwn y flwyddyn i Ddinas a Sir Abertawe ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus i bobl Abertawe. Yn yr Arolwg Cenedlaethol Cymru diweddaraf, roedd nifer y bobl a oedd yn teimlo bod Dinas a Sir Abertawe yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel ychydig dros 50 y cant. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn credu bod hyn yn cynrychioli gwerth am arian, a beth y gall y Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel i’r bobl y maent yn eu gwasanaethu ac i geisio cyrraedd 70 y cant yn yr arolwg nesaf a gwella ar hynny yn y dyfodol?
Rwy’n credu bod pobl Abertawe yn cael gwerth da am arian o’r buddsoddiad yr ydym yn ei wneud yn eu gwasanaethau cyhoeddus—gwasanaethau iechyd a gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol. Wrth gwrs, mae angen i ni fod yn uchelgeisiol parthed lefelau boddhad. Mae lefelau boddhad y gwasanaeth iechyd, fel y gwyddoch, mewn gofal sylfaenol ac eilaidd yn eithriadol o uchel a bob amser wedi bod. Gwn fod cydweithwyr mewn llywodraeth leol yn anelu at gyflawni lefelau boddhad tebyg yn y dyfodol.