<p>Prosiectau Gwasanaethau Cyhoeddus</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 15 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 1:33, 15 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r rhesymau dros yr oedi yw pryderon Llywodraeth y DU ynglŷn â’r cydbwysedd sector cyhoeddus/sector preifat gyda’r fargen ddinesig honno. Ac ar y pwnc hwnnw, os hoffech, tybed a allech roi syniad i ni—rwy’n sylweddoli na allwch roi ffigur penodol i mi—pa gyfran o gyllid Ewropeaidd Cymru yn fy rhanbarth sydd wedi cael ei wario ar brosiectau gwasanaethau cyhoeddus lle y mae’r prif bartner cyflenwi wedi dod o naill ai’r sector preifat neu’r trydydd sector?