<p>Diwygio Llywodraeth Leol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 15 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:36, 15 Mawrth 2017

Diolch. Mae’r ymateb cychwynnol rydw i wedi’i dderbyn gan gynghorwyr yn bennaf, ac o bob rhan o Gymru, yn nodi nifer o bryderon difrifol. Tra’n cefnogi’r ymgais i wneud gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn fwy effeithiol, mae llawer yn pryderi fod y cynigion sy’n cael eu hamlinellu yn y Papur Gwyn yn peryglu egwyddorion craidd llywodraeth leol—egwyddorion sy’n ymwneud efo bod yn ymatebol ac yn atebol yn lleol. Fe all eich cynigion chi beryglu rôl llywodraeth leol fel rhan allweddol o ddemocratiaeth Cymru. Mae yna eraill yn gofyn a fydd creu’r haenau rhanbarthol yn arwain at gyfundrefn fwy effeithiol ac effeithlon. Felly, sut ydych chi’n bwriadu cynnal yr atebolrwydd pwysig yma yn y gyfundrefn ranbarthol? A fydd yna ddadansoddiad o gost cynigion y Papur Gwyn yn cael ei wneud?