Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 15 Mawrth 2017.
Lywydd, fel dywedais i, dim ond un ateb swyddogol rŷm ni wedi’i dderbyn ar hyn o bryd. Roedd hwnnw’n adeiladol, ac roedd yn codi cwestiynau, wrth gwrs, gan roi sylwadau newydd i ni er mwyn trio cryfhau’r Papur Gwyn. Dyna beth yr wyf fi eisiau i’r bobl sydd yn mynd i ymateb yn swyddogol i’r Papur Gwyn ei wneud. Os yw pobl yn codi cwestiynau, mae hynny’n helpu, ond mae’n helpu mwy pan fyddant yn codi atebion hefyd ac yn rhoi sylwadau i ni ar sut rydym yn gallu cryfhau’r sylwadau rŷm ni wedi eu rhoi yn y Papur Gwyn ac er mwyn ein helpu ni i ymateb i’r cwestiynau y mae Sian Gwenllian wedi’u codi'r prynhawn yma.