<p>Diwygio Llywodraeth Leol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 15 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 1:40, 15 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn am ofyn y cwestiwn ynglŷn â’r ymatebion sy’n dod i mewn ar uno gwirfoddol, a gofyn a oes unrhyw awdurdodau lleol wedi ymateb mewn gwirionedd ac yn awyddus i uno’n wirfoddol, sy’n rhan fawr o’ch cynlluniau sydd ar y ffordd ar gyfer diwygio llywodraeth leol o ran chwilio am arbedion effeithlonrwydd. O ystyried nad ydym ond wedi cael un ymateb—un yn unig o 22 awdurdod lleol—sut rydych yn bwriadu bwrw iddi yn awr? Mae wedi bod yn anhrefn arnom dros y tair blynedd diwethaf o ran diwygio llywodraeth leol. Nid yw’n ymddangos i mi fod yna awydd i ymgysylltu â chi, o ystyried mai un ymateb yn unig a gafwyd. Felly, sut rydych yn bwriadu symud ymlaen yn awr a gweithio gyda’n hawdurdodau lleol i sicrhau nad ydym yn cadw ein gweithwyr rheng flaen a’n haelodau etholedig mewn sefyllfa amwys lle nad oes neb yn gwybod beth sy’n digwydd? Rwy’n siomedig iawn o glywed nad ydym ond wedi cael un ymateb.