Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 15 Mawrth 2017.
Nid wyf wedi siomi, Lywydd, o ystyried nad yw’r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad tan 11 Ebrill. Rwy’n gwbl hyderus y cawn nifer fawr o ymatebion o bob cwr o Gymru erbyn y dyddiad cau. Gofynnodd yr Aelod ddau gwestiwn penodol. Nid ydym wedi derbyn unrhyw gais ffurfiol o ran uno gwirfoddol hyd yn hyn. A dweud y gwir, gydag etholiadau llywodraeth leol ar y gorwel, ni fyddwn wedi rhagweld y byddai unrhyw awdurdod lleol wedi gwneud cynnig o’r fath o ystyried mai ychydig wythnosau yn unig sydd tan hynny. Ailadroddaf yr hyn a ddywedais yn y Papur Gwyn—pan fo awdurdodau lleol yn cyflwyno cynigion ar gyfer uno gwirfoddol, ni fyddai Llywodraeth Cymru yn ceisio bod yn niwtral ar hynny, ond byddem yn ceisio eu cefnogi lle y gallem i geisio sicrhau bod y cynigion hynny’n dwyn ffrwyth. O ran pwynt olaf yr Aelod, rwyf wedi llwyddo i’w anghofio yn fy ateb—.