Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 15 Mawrth 2017.
A gawn ni aros gyda’r Papur Gwyn, Lywydd, a hefyd yr argymhelliad ynglŷn â’r map rhanbarthol newydd i Gymru? Mae’n 20 mlynedd—rwyf bron ffaelu credu—ers i fi gael fy nghomisiynu, ar y cyd â’r Athro Kevin Morgan, gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, Ron Davies, i ail-lunio map rhanbarthol Cymru o ran NUTS II, i greu rhanbarth y Cymoedd a gorllewin Cymru, a dwyrain Cymru, er mwyn ymgysylltu â’r ardaloedd mwyaf difreintiedig a thrwy hynny, wrth gwrs, ennill statws Amcan 1. Mae’r map yma, wrth gwrs, yn gwneud y gwrthwyneb: mae’n ymgysylltu ag ardaloedd difreintiedig a’r ardaloedd mwyaf llewyrchus. A gaf i ofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet ai dyma’r map y bydd e’n defnyddio wrth drafod y dyfodol ar gyfer unrhyw ddilyniant o ran cronfeydd rhanbarthol a hefyd y map ar gyfer ardaloedd a gynorthwyir, sef yr ‘assisted areas map’, i Gymru?