Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 15 Mawrth 2017.
Wel, diolch i chi, Lywydd. Ers i’r fframwaith cyllidol gael ei lofnodi rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr, rwyf wedi parhau i gyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Cyfarfûm ag ef ddiwethaf yng Nghaeredin mewn cyfarfod pedairochrog rhwng y Gweinidogion cyllid, lle y trafodwyd datganoli ariannol ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig. Dwy agwedd, mae’n debyg: sut rydym yn gwneud i’r system yr ydym yn awr wedi cytuno arni i weithio’n effeithiol; pa bethau y mae angen i ni eu gweld ar y gorwel y gallem fod eisiau eu rhoi ar ein hagendâu yn y dyfodol ar gyfer cyflawni gwaith rhyngom.