<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 15 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:52, 15 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, Lywydd, cyfarfûm â Robert Chote, pennaeth y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, yng Nghaerdydd ychydig cyn y Nadolig i drafod gwaith y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a sut y gall gasglu data sy’n bwysig i ni yng Nghymru. Ond fel y bydd Nick Ramsay yn ei wybod, un o’r pethau allweddol a sicrhawyd gennym yn y fframwaith cyllidol oedd ffrwd o gyngor annibynnol—annibynnol ar y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol—a fyddai’n dod o safbwynt Cymreig yn benodol pe bai angen i ni ddefnyddio hwnnw fel rhan o’r cytundeb fframwaith cyllidol. Rhan o’r cytundeb oedd y byddem yn sicrhau gwaith craffu annibynnol ar ragolygon Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol agos, ac roeddwn yn falch o gyhoeddi datganiad ysgrifenedig i’r Aelodau ychydig ddyddiau yn ôl, yn cadarnhau bod Prifysgol Bangor wedi llwyddo i ennill y cytundeb i ddarparu’r oruchwyliaeth annibynnol honno.