Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 15 Mawrth 2017.
Yn ddefnyddiol iawn, mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar lle y mae’n nodi cyfanswm gwariant y sector cyhoeddus yng Nghymru ar bob lefel o’r Llywodraeth. Y flwyddyn ddiweddaraf y mae ganddynt ddata cymaradwy ar ei chyfer yw 2014-15, ac roedd yn £38 biliwn. Mae hynny’n cymharu â chyfanswm refeniw sector cyhoeddus i Gymru o £23.3 biliwn. Felly, mae’r adroddiad yn canfod mai cydbwysedd cyllidol net Cymru oedd diffyg o £14.7 biliwn, bron yr un fath â’r Alban, er gwaethaf economi sylweddol lai, a fyddai’n gadael bwlch cyllidol o 24 y cant o’r cynnyrch domestig gros. O ystyried y bwlch hwnnw, a dibyniaeth Cymru ar drosglwyddiadau cyllidol o Loegr, a yw’n synhwyrol i’r Prif Weinidog ddweud mai’r Alban a ddylai fod yn fodel ar gyfer Cymru?