Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 15 Mawrth 2017.
Yn ei gyllideb, cyhoeddodd y Canghellor gronfa o £5 miliwn i ddathlu canmlwyddiant y wraig gyntaf ym Mhrydain i gael y bleidlais yn 1918 y flwyddyn nesaf. Mae hwn, rwy’n gwybod, yn swm bychan o arian o’i gymharu â’r gyllideb gyfan, ond roeddwn yn meddwl tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym faint o’r arian hwnnw y byddem yn ei dderbyn yng Nghymru, sut y byddai’r arian hwnnw’n cael ei ddosbarthu ac i ba fath o brosiectau.