1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 15 Mawrth 2017.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllid canlyniadol Barnett sy'n deillio o Gyllideb y Gwanwyn Canghellor y DU? OAQ(5)0114(FLG)
Diolch i Julie Morgan am y cwestiwn. Bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn ceisio gwneud y defnydd gorau o unrhyw gyllid newydd sydd ar gael i ni. Nid yw’r symiau canlyniadol sy’n codi o gyllideb y gwanwyn yn gwneud dim i wrthdroi polisi niweidiol caledi y mae Llywodraeth y DU yn ei ddilyn.
Cyn i chi ofyn y cwestiwn atodol, rwy’n credu eich bod wedi gofyn i’r cwestiwn hwn gael ei grwpio â chwestiwn 4.
Ac rydych wedi gallu cytuno i hynny, Lywydd?
Ydw. Wedi’i wneud. [Chwerthin.]
Diolch.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am oblygiadau Cyllideb y Gwanwyn 2017 Llywodraeth y DU i grant bloc Cymru? OAQ(5)0110(FLG)
Yn ei gyllideb, cyhoeddodd y Canghellor gronfa o £5 miliwn i ddathlu canmlwyddiant y wraig gyntaf ym Mhrydain i gael y bleidlais yn 1918 y flwyddyn nesaf. Mae hwn, rwy’n gwybod, yn swm bychan o arian o’i gymharu â’r gyllideb gyfan, ond roeddwn yn meddwl tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym faint o’r arian hwnnw y byddem yn ei dderbyn yng Nghymru, sut y byddai’r arian hwnnw’n cael ei ddosbarthu ac i ba fath o brosiectau.
Diolch i Julie Morgan am y cwestiwn hwnnw. £294,000 yw cyfran Cymru o’r gronfa o £5 miliwn. Dyna’r swm canlyniadol. Bydd Cabinet Cymru yn cyfarfod ddydd Mawrth yr wythnos nesaf i ystyried sut y byddwn yn defnyddio symiau canlyniadol y gyllideb, a bydd hynny’n rhan o’n hystyriaeth.
Weinidog, rwy’n croesawu’n fawr y ffaith fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi parhau i flaenoriaethu buddsoddiad mewn gwasanaethau cymdeithasol, yn wahanol i’r ymagwedd a fabwysiadwyd yn Lloegr dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae’n dal i fod yn wir fod y pwysau ar y gwasanaethau cymdeithasol yn enfawr. Rwy’n gobeithio eich bod yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i ddefnyddio’r arian ychwanegol i fynd i’r afael â’r pwysau hwnnw. Rwy’n gwybod eich bod yn ymwybodol iawn o fy mhryder parhaus ynglŷn â’r toriad yn y cyllid ar gyfer Cronfa’r Teulu. Pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd mynd i’r afael â’r pwysau ar y gwasanaethau cymdeithasol yn brif flaenoriaeth i chi, ac a fyddech yn cytuno bod yr arian ychwanegol hwn yn gyfle gwych i adolygu’r gefnogaeth i blant anabl yn gyffredinol a’r toriad i Gronfa’r Teulu yn benodol?
Wel, Lywydd, y flaenoriaeth honno yr ydym bob amser wedi ei rhoi i’r gwasanaethau cymdeithasol yw’r rheswm pam nad yw gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru wedi dioddef o’r toriadau a wnaed ar draws y ffin. Mae ein gwasanaethau cymdeithasol yn wynebu pwysau sylweddol iawn o ganlyniad i ddemograffeg a ffactorau eraill—rwy’n cydnabod hynny’n llwyr—ond maent mewn lle gwell i wynebu’r pwysau hynny na gwasanaethau eraill mewn mannau eraill. Bydd yr Aelod wedi gweld yr adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 sy’n cadarnhau, unwaith eto, bod gwariant ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn y flwyddyn ariannol hon yn 106 y cant o’r gwariant yn Lloegr, a dyna pam, yn y gyllideb a roddwyd gerbron y Cynulliad hwn ar gyfer y flwyddyn nesaf, mewn cytundeb â Phlaid Cymru, y cafodd £25 miliwn ychwanegol ei nodi yn y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, ac yna cafodd £10 miliwn o gyllid rheolaidd pellach ei nodi rhwng y gyllideb derfynol a’r gyllideb ddrafft, i helpu adrannau gwasanaethau cymdeithasol i ddod o hyd i ateb teiran i bwysau’r hyn a elwir yn gyflog byw mewn gofal cymdeithasol. Yn y cyfnod yn arwain at y gyllideb, ysgrifennais at Ganghellor y Trysorlys, yn ei annog i ddod o hyd i gyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, a bydd y mater hwnnw’n sicr o gael ei drafod pan fydd cyd-Aelodau yn y Cabinet yn cyfarfod ddydd Mawrth yr wythnos nesaf i drafod y symiau canlyniadol. Bydd sut y caiff yr arian hwnnw ei ddefnyddio, os gellir sicrhau y bydd unrhyw ran ohono ar gael ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, wrth gwrs, yn fater i’r Gweinidog dan sylw, ond bydd hi’n sicr yn ymwybodol o farn yr Aelod a bydd wedi clywed yr hyn a ddywedodd y prynhawn yma.
Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu’r cynnydd o £50 miliwn i gyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru a fydd yn awr yn dod yn sgil y gyllideb, sy’n adeiladu ar y cynnydd o £400 miliwn a gyhoeddwyd yn natganiad yr hydref? Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd go iawn i ni o ran datblygu cyfalaf.
Wel, Gadeirydd, rwy’n croesawu unrhyw arian ychwanegol sy’n dod i Gymru. Bydd y cyfalaf ychwanegol o £50 miliwn yn cael ei rannu dros gyfnod o bedair blynedd. Pan fyddwch yn ei ystyried gydag arian datganiad yr hydref, mae’n golygu mai dim ond 21 y cant yn llai y bydd ein cyllidebau cyfalaf yn 2019-20 yn awr, o’i gymharu â’r hyn oeddent yn 2009-10. Felly, mae’r Canghellor wedi mynd ran o’r ffordd—rhan fach o’r ffordd—i lenwi’r twll a grëwyd gan ei ragflaenydd.
Mewn cyllidebau blaenorol ar gyfer y DU, mae cryn anghytundeb wedi bod ynglŷn â sut y mae Llywodraeth y DU wedi dosbarthu llinellau gwariant penodol, yn enwedig mewn gwariant cyfalaf—felly, pa un a ydynt yn dynodi prosiect ledled y DU lle nad oes symiau canlyniadol Barnett, neu brosiect yn Lloegr yn unig os yw ar gael. A yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi cynnal unrhyw asesiad ar y gyllideb ddiweddar i weld a gafwyd unrhyw dystiolaeth sy’n awgrymu bod cyfrifo ystrywgar tebyg wedi digwydd mewn perthynas â symiau canlyniadol Barnett?
Wel, gall yr Aelod fod yn sicr ein bod yn cadw llygad barcud wrth chwilio am yr union fathau hynny o ystrywiau, ac mae fy swyddogion wedi bod yn edrych yn ofalus iawn ar fanylion yr hyn a ddywedwyd gan y Canghellor yr wythnos diwethaf. Fel y gwyddoch, mae’r gyllideb yn wledd newidiol iawn yn wir, a newidiodd eto o fewn yr awr ddiwethaf yn unig gyda chamu’n ôl eto o’r argymhellion a wnaed gwta wythnos yn ôl. Ond rydym yn edrych yn fanwl iawn ar y pwynt y mae’r Aelod wedi’i wneud ac yn herio lle y mae angen i ni wneud hynny, lle y credwn fod dosbarthiadau’n cael eu defnyddio ar gam er anfantais i symiau canlyniadol Barnett.
Mae cyllideb y gwanwyn yn darparu hwb o £150 miliwn i gyllideb adnodd Llywodraeth Cymru a £50 miliwn i’w chyllideb cyfalaf, fel y crybwyllwyd yn gynharach. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £10 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru, er mwyn helpu i dalu costau ychwanegol yr isafswm cyflog cenedlaethol. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno i roi ystyriaeth gref i ddefnyddio peth o’r cynnydd yn y grant bloc i ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Wel, fel y credaf fy mod wedi’i ddweud eisoes y prynhawn yma, Lywydd, gall yr Aelodau fod yn sicr y bydd gofal cymdeithasol yn cael ei ystyried yn briodol pan fydd y Cabinet yn cyfarfod i edrych ar ffyrdd y gallwn ddefnyddio’r adnoddau ychwanegol sydd wedi dod i Gymru o ganlyniad i gyllideb yr wythnos diwethaf.
Roeddwn yn mynd i ofyn i chi, yn wir, am effaith y codiadau yswiriant cenedlaethol ar y grant bloc, yn enwedig ar gyfer mentrau bach a chanolig eu maint yng nghefn gwlad Cymru, ond mae arogl y gwreichion o’r tro pedol penodol hwnnw yn dal i fod yn fyw yn fy ffroenau. Felly, gadewch i mi ofyn, yn lle hynny: un mater nad aethpwyd i’r afael ag ef yn y gyllideb hon sy’n effeithio ar lawer o drigolion Cymru yw anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth ar gyfer menywod—ymgyrch Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth. Ai safbwynt Llywodraeth Cymru o hyd yw eich bod yn ceisio dod o hyd i ateb i hynny, ac a ydych wedi cael unrhyw sgyrsiau gyda’r Prif Ysgrifennydd neu unrhyw un arall yn Llywodraeth San Steffan ynglŷn â mynd i’r afael â hynny mewn cyllidebau pellach yn y dyfodol?
Lywydd, roeddem yn siomedig iawn fod y Canghellor wedi methu manteisio ar gyfle yr wythnos diwethaf i fynd i’r afael â’r mater hwnnw ac ymateb i’r pwyntiau a wneir yn briodol iawn gan yr ymgyrch honno. Rydym yn manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael i ni i barhau i drafod materion o’r fath gyda’r Prif Ysgrifennydd a Llywodraeth y DU yn fwy cyffredinol, ac roeddem wedi gobeithio y byddai’r gyllideb wedi cael ei gweld fel cyfle i wneud iawn am rai o’r anghyfiawnderau y mae’r ymgyrch honno wedi tynnu sylw atynt.