Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 15 Mawrth 2017.
Weinidog, rwy’n croesawu’n fawr y ffaith fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi parhau i flaenoriaethu buddsoddiad mewn gwasanaethau cymdeithasol, yn wahanol i’r ymagwedd a fabwysiadwyd yn Lloegr dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae’n dal i fod yn wir fod y pwysau ar y gwasanaethau cymdeithasol yn enfawr. Rwy’n gobeithio eich bod yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i ddefnyddio’r arian ychwanegol i fynd i’r afael â’r pwysau hwnnw. Rwy’n gwybod eich bod yn ymwybodol iawn o fy mhryder parhaus ynglŷn â’r toriad yn y cyllid ar gyfer Cronfa’r Teulu. Pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd mynd i’r afael â’r pwysau ar y gwasanaethau cymdeithasol yn brif flaenoriaeth i chi, ac a fyddech yn cytuno bod yr arian ychwanegol hwn yn gyfle gwych i adolygu’r gefnogaeth i blant anabl yn gyffredinol a’r toriad i Gronfa’r Teulu yn benodol?