Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 15 Mawrth 2017.
Wel, Gadeirydd, rwy’n croesawu unrhyw arian ychwanegol sy’n dod i Gymru. Bydd y cyfalaf ychwanegol o £50 miliwn yn cael ei rannu dros gyfnod o bedair blynedd. Pan fyddwch yn ei ystyried gydag arian datganiad yr hydref, mae’n golygu mai dim ond 21 y cant yn llai y bydd ein cyllidebau cyfalaf yn 2019-20 yn awr, o’i gymharu â’r hyn oeddent yn 2009-10. Felly, mae’r Canghellor wedi mynd ran o’r ffordd—rhan fach o’r ffordd—i lenwi’r twll a grëwyd gan ei ragflaenydd.