Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 15 Mawrth 2017.
Roeddwn yn mynd i ofyn i chi, yn wir, am effaith y codiadau yswiriant cenedlaethol ar y grant bloc, yn enwedig ar gyfer mentrau bach a chanolig eu maint yng nghefn gwlad Cymru, ond mae arogl y gwreichion o’r tro pedol penodol hwnnw yn dal i fod yn fyw yn fy ffroenau. Felly, gadewch i mi ofyn, yn lle hynny: un mater nad aethpwyd i’r afael ag ef yn y gyllideb hon sy’n effeithio ar lawer o drigolion Cymru yw anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth ar gyfer menywod—ymgyrch Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth. Ai safbwynt Llywodraeth Cymru o hyd yw eich bod yn ceisio dod o hyd i ateb i hynny, ac a ydych wedi cael unrhyw sgyrsiau gyda’r Prif Ysgrifennydd neu unrhyw un arall yn Llywodraeth San Steffan ynglŷn â mynd i’r afael â hynny mewn cyllidebau pellach yn y dyfodol?