Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 15 Mawrth 2017.
Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. A gaf fi ofyn pa fanylion pellach y gallwch eu rhoi am y gronfa £3 miliwn ar gyfer cynllun peilot i gefnogi parcio yng nghanol trefi a sut y bydd yn gweithredu? Pa ymwneud a fu rhyngoch chi ac awdurdodau lleol ledled Cymru hyd yn hyn? Rwyf am ddweud bod un awdurdod lleol yr ysgrifennais ato’n ddiweddar wedi dweud wrthyf nad oedd yn ymwybodol o’r arian hwn na sut i wneud cais amdano ac o ganlyniad, nid yw wedi cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru am y cyllid hwn.