Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 15 Mawrth 2017.
Wel, Lywydd, nid oes rhaid i awdurdodau lleol wneud cais am y cyllid gan eu bod yn ei dderbyn drwy’r grant cynnal refeniw. Felly, byddant i gyd yn derbyn eu cyfran o’r cyllid. Gadewch i mi ddweud fy mod yn disgwyl y bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cymryd rhan yn y cynllun newydd. Deallaf fod fy nghyd-Aelod, Carl Sargeant wedi cyfarfod â llefarydd Plaid Cymru ar y mater hwn yn gynharach heddiw. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, Carl Sargeant, wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol heddiw, ac mae’r llythyr eisoes wedi cael ei gyhoeddi, lle roedd yn nodi cyfres o ofynion a chanllawiau i sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymwybodol o’r cynllun ac y byddant yn cymryd rhan ynddo yn y ffordd y byddem wedi ei ddisgwyl.