Part of 2. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 15 Mawrth 2017.
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Hoffwn ddweud, yn dilyn fy ymateb i’ch cwestiwn ar y mater hwn ym mis Hydref, rwy’n falch o allu cadarnhau fod trefniadau ar y gweill i osod dau bwynt gwefru ar yr ystad. Bydd y rhain yn defnyddio system cerdyn talu wrth ddefnyddio/cerdyn allwedd a fydd yn caniatáu ar gyfer gwefru cerbydau trydan ar y safle a chynllun taliad hawdd i’r defnyddiwr. Unwaith y bydd ar waith, byddwn yn hyrwyddo gwybodaeth am y cyfleuster ymysg Aelodau a staff. Rydym yn gobeithio y bydd y ddarpariaeth hon yn annog y defnydd o gerbydau trydan.