Part of 2. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 15 Mawrth 2017.
Diolch i’r Comisiynydd am ei hateb, ac rwy’n croesawu’n fawr y datblygiad a’r ymateb i gwestiynau cynharach ar hyn, a’r ffaith y bydd gennym, cyn bo hir, bwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan yn y Cynulliad. Nid yw technoleg batri wedi datblygu’n llawn eto i mi allu teithio o Aberystwyth i’r Cynulliad heb ailwefru, ond rwy’n credu ei fod bron â bod yno. Rwy’n credu ei bod yn bwysig hefyd ein bod yn anfon datganiad clir iawn o’n hegwyddorion cynaliadwyedd a’n bod yn croesawu pob math o drafnidiaeth gynaliadwy i’r Cynulliad. Edrychaf ymlaen, felly, a hoffwn gael cadarnhad gan y Comisiynydd y bydd hyn ar gael i staff ac Aelodau’r Cynulliad, yn ogystal ag ymwelwyr.