Part of the debate – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 15 Mawrth 2017.
Diolch am roi’r cyfle i fi gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Rwyf i, yn amlwg, yn mynd i gefnogi ymgais Dai Lloyd i gyflwyno’r Bil yma, sy’n bwysig yn nhermau ein hetifeddiaeth a’n hanes ni fel gwlad.
Fel sydd wedi cael ei grybwyll gan nifer o Aelodau yma heddiw, roedd yna drafodaeth eithaf trylwyr yn y Senedd ddiwethaf, ac roedd gwelliannau wedi cael eu rhoi i mewn gennym ni, fel plaid, a gan bleidiau eraill, a daethom ni at ryw fath o gyfaddawd gyda'r rhestr, ond nid oeddem ni’n dal i fod yn hapus gyda’r ffaith nad oedd yna ffordd i amddiffyn yr enwau hynny o fewn y ddeddfwriaeth fel y cafodd ei phasio yn y Senedd ddiwethaf. Rwy’n credu, ac yn dal i gredu, ei fod wedi colli ar gyfle i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn fwy cryf nag yw hi, oherwydd, fel y mae Dai Lloyd wedi’i amlygu’n barod, rhestr yw rhestr, ac mae’n rhaid i ni roi cig ar y rhestr hynny i sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio’r rhestr a chael ffydd yn sut mae hynny’n cael ei ddatblygu.
Felly, wrth gwrs, mae unrhyw fath o ‘guidance’ newydd yn hynny o beth yn mynd i fod yn rhywbeth da, ond nid yw hynny’n mynd i fod yn ddeddfwriaeth, ac felly rydw i angen clywed gan y Gweinidog yma heddiw sut mae hynny’n mynd i newid y sefyllfa sydd ohoni, a sut, wedyn, mae pobl yn mynd i sicrhau bod y rhestr hynny’n ddigon cryf ynddi’i hun. Rwy’n credu mai beth sy’n bwysig yn y drafodaeth yma yw sut rydym ni’n amddiffyn ein treftadaeth, ynglŷn â’r gorffennol, a hefyd sut rydym ni’n trafod yr hyn sydd yn digwydd nawr yn ein cymdeithas sydd ohoni. Os ydy enw’n mynd i newid jest achos bod rhywun yn meddwl ei fod e’n enw neis, wedyn, sut ydym ni’n gallu dweud y stori am hanes y cae, neu am hanes y diwydiant penodol hynny, os nad oes rhyw fath o statws, wedyn, i’r dreftadaeth honno at y dyfodol?
Fel rhywun sydd wedi rhoi deddfwriaeth gerbron y lle yma o’r blaen, nid wyf i wir yn prynu’r ddadl ynglŷn â chost ar gyfer y ddadl yma. Rydw i’n gwybod bod Dai Lloyd yn gwneud y ddadl, oherwydd mae e, yn amlwg, eisiau dod i gyfaddawd gyda’r Llywodraeth. Ond, os ydy rhywbeth yn flaenoriaeth wleidyddol, ni ddylai rhywbeth fel rhestr a gwarchod y rhestr hynny a gwarchod yr enwau hyn, fod yn rhywbeth nad sydd yn bosib. Rwyf i wedi gweld y Llywodraeth yn dweud bod pethau eithaf cymhleth yn bosib yn y gorffennol, ac nid wyf i’n gweld sut y byddai hyn yn rhy gymhleth i allu ei wneud os yw’r ewyllys wleidyddol yno i ddelifro yn y maes yma.
Rydw i’n credu y byddwn i eisiau clywed mwy gan y Gweinidog ar sut y gallwn ni ddefnyddio’r records amgylchedd hanesyddol—yr ‘historical environment records’—yn hynny o beth. Mae yna bobl sydd yn gwneud gwaith trylwyr iawn yn casglu data pob dydd ar hyn o bryd. Nid ydym ni’n dal i wybod rhai enwau hanesyddol oherwydd y ffaith bod archeolegwyr ar hyn o bryd allan yn y maes yn gwneud ymchwil. Felly, sut ŷm ni’n gallu defnyddio’r records hyn i ‘complement-o’ y gwaith y mae’r rhestr yn ei wneud? Dyna’r hyn y byddwn ni eisiau ei ychwanegu yma heddiw.
Hefyd, un o’r gwelliannau y gwnes i ei roi gerbron yn y Senedd ddiwethaf oedd y dylai pobl unigol allu ychwanegu at y rhestr neu dynnu enwau oddi ar y rhestr hynny. Wrth gwrs, mae angen i rywun fonitro hynny, ond mae’n ffordd i bobl gyffredin ar draws Cymru allu ymwneud â’r broses yma. Felly, os oes rhywbeth—fel y mae Suzy yn gwybod am rywbeth lleol yn Aberdâr, os yw rhywun yn gwybod am rywbeth lleol yn eu hardal nhw nad yw’n drafodaeth genedlaethol ar hyn o bryd, maen nhw’n gallu ychwanegu at y rhestr honno fel rhan o’r drafodaeth ar y mater yma.
Rydw i’n credu ei bod hi’n bwysig nad ydym ni’n colli ein hanes, ac ein bod ni’n dathlu ein hanes ac ein bod ni’n cael gwerth ein hanes, a, drwy enwau—. Efallai bod rhai pobl yn meddwl nad yw’n bwysig, ond, drwy enwau, rydym ni’n gallu deall ein hanes. Rydym ni i gyd yma yn cael enwau fel pobl. Mae Neil Hamilton wedi disgrifio enw Dai Lloyd, ond mae’n ein creu ni fel person—mae ein enw ni yn creu pwy ydym ni, ein personoliaethau ni, ac rwy’n credu bod yr un peth yn wir os ydy’n dŷ, neu’n fferm, neu’n gae, neu’n fynydd. Rydym ni’n adnabod y mynydd neu’r cae hwnnw drwy’r enw hwnnw ac rydym ni’n cael rhyw fath o hiraeth neu ryw fath o gysylltiad mwy tyngedfennol gydag ef oherwydd yr enw. Felly, peidiwn â diystyru y ddadl yn hynny o beth, a diolch, felly, i Dai am roi’r syniad yma gerbron eto. Gobeithio’n fawr y bydd e’n llwyddiannus, fel y mae e wedi bod yn llwyddiannus gyda’i ddeddfwriaeth blaenorol, pan oedd yma gynt gyda’r meysydd caeau chwarae. Diolch yn fawr iawn.