Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 15 Mawrth 2017.
Ond argymhellodd y pwyllgor newidiadau mewn tri maes. Er ein bod yn cytuno na ddylai deddfwriaeth ohirio’r broses o sefydlu’r corff, credwn y byddai rhoi sail statudol iddo yn fuddiol iawn, er mwyn sicrhau bod ganddo fwy o hygrededd a grym, ac i’r perwyl hwnnw, argymhellwyd y dylid ei sefydlu gyda’r rhagdybiaeth y bydd deddfwriaeth yn dilyn. Roeddem o’r farn y dylai cylch gwaith y comisiwn fod ychydig yn ehangach er mwyn iddo gynnwys cyflenwi tir ar gyfer datblygiadau tai sy’n arwyddocaol yn strategol, ac roeddem hefyd yn awyddus i sicrhau bod y corff yn fwy annibynnol, drwy ei wneud yn atebol i gomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol, a thrwy sicrhau ei fod wedi’i leoli y tu allan i Gaerdydd, a heb fod yn rhannu adeilad gyda’r Llywodraeth, a thrwy roi cyfle i un o bwyllgorau’r Cynulliad graffu ar y cadeirydd cyn ei benodi neu ei phenodi. Felly, at ei gilydd, gwnaethom 10 argymhelliad, ac rwy’n falch fod y Llywodraeth wedi ymgysylltu o ddifrif â’r gwaith a wnaethom ac wedi ystyried y syniadau a gyflwynwyd gennym, ac mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn chwech o argymhellion y pwyllgor. Mae tri arall wedi’u derbyn mewn egwyddor, a gwrthodwyd un.
Felly, rwy’n falch fod y pwyllgor wedi gallu dylanwadu ar y model ar gyfer y comisiwn seilwaith cenedlaethol yn y ffyrdd canlynol. Bydd un o bwyllgorau’r Cynulliad yn craffu ar yr ymgeisydd a ffafrir i gadeirio’r comisiwn mewn gwrandawiad cyn penodi, fel y gwnaeth y Pwyllgor Cyllid yn ddiweddar ar gyfer y sawl a ffafrid yn gadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru. Bydd y comisiwn yn cynhyrchu adroddiad ‘cyflwr y genedl’ bob tair blynedd ar anghenion seilwaith Cymru ar gyfer y dyfodol, i ddatgysylltu ei waith oddi wrth y cylch gwleidyddol, a bydd yn cynhyrchu adroddiad blynyddol sy’n canolbwyntio ar lywodraethu a gwaith yn y gorffennol a gwaith sydd ar y gweill, ac mae’r Llywodraeth wedi cytuno i ymateb i’r holl argymhellion o fewn chwe mis. Bydd llythyr cylch gwaith blynyddol y comisiwn yn rhoi gwybodaeth ynglŷn â faint y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl gallu ei wario ar gyllid seilwaith dros yr amser hiraf posibl i roi cyd-destun pwysig i’r argymhellion. Bydd y llythyr cylch gwaith hefyd yn annog y comisiwn i adeiladu perthynas gref gyda Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU a’r Scottish Futures Trust i sicrhau ei fod mor effeithiol â phosibl. Bydd angen ystyried amrywiaeth y cymunedau ledled Cymru wrth benodi i’r comisiwn, a bydd ei gylch gwaith yn cynnwys ymgysylltu ar lefelau rhanbarthol. Yn olaf, bydd Llywodraeth Cymru yn archwilio mecanweithiau megis y banc datblygu i ganolbwyntio ar sut y gellir defnyddio mwy o arian preifat i gefnogi’r gwaith o ddatblygu seilwaith.
Yr unig argymhelliad a wrthodwyd gan y Llywodraeth yw ein safbwynt y byddai’r comisiwn mewn sefyllfa gryfach pe bai’n cael ei sefydlu gyda’r rhagdybiaeth y byddai’n cael ei roi ar sail statudol maes o law. Nawr, dylanwadwyd ar ein hargymhelliad gan y dystiolaeth gan gyrff ymgynghorol ar gyfer seilwaith ar lefel ffederal a lefel y taleithiau yn Awstralia, a ddywedodd wrth y pwyllgor fod eu statws fel llais awdurdodol ar seilwaith wedi cael ei wella gan eu statws annibynnol, ac y gallai manteision dull o’r fath ymestyn y tu hwnt i Awstralia. Dywedodd prif weithredwr Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU wrth y pwyllgor fod y ffaith ei fod yn gorff anstatudol wedi ei gwneud yn bosibl ei sefydlu’n gyflymach, ond roedd yna ochr lai cadarnhaol hefyd gan fod rhanddeiliaid yn ei ystyried yn llai parhaol. Roedd y pwyllgor yn cytuno â’r Llywodraeth na ddylem aros am ddeddfwriaeth er mwyn sefydlu’r comisiwn yn gyflym, ond teimlem y byddai budd gwirioneddol mewn rhoi ymrwymiad clir o’r cychwyn y byddai deddfwriaeth yn debygol o ddilyn. Nawr, fel y mae pethau, mae’r risg yn parhau y gallai un o Ysgrifenyddion y Cabinet yn y dyfodol—un llai ymroddedig, efallai, nag Ysgrifennydd presennol y Cabinet a’i weledigaeth am gomisiwn seilwaith cenedlaethol—gael gwared ar y sefydliad mewn dim o dro, neu beryglu ei annibyniaeth. Felly, byddai corff statudol yn darparu diogelwch i’r corff newydd ac yn rhoi neges glir i’r rhanddeiliaid ei fod yma i aros. Felly, rwy’n siomedig, wrth gwrs, fod y Llywodraeth wedi gwrthod yr argymhelliad penodol hwn.
Fodd bynnag, rwy’n nodi nad yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi clepio’r drws ar gau yn llwyr ar hyn, a gobeithiaf y bydd ei gynllun i adolygu’r corff cyn diwedd tymor y Cynulliad yn rhoi cyfle i ystyried y materion hyn eto. Felly, byddaf i a fy nghydweithwyr ar y pwyllgor yn edrych ymlaen at adolygu cynnydd yn 2021—mae’n swnio’n bell i ffwrdd—a gweld a yw’r weledigaeth yr ydym oll yn ei rhannu heddiw wedi cael ei gwireddu. Felly, gwn fod nifer o aelodau’r pwyllgor yn awyddus i siarad a chael eu galw yn y ddadl hon heddiw, ac edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau ac ymateb Ysgrifennydd y Cabinet.