Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 15 Mawrth 2017.
Fel y nodwyd yn rhagair y Cadeirydd i adroddiad ein pwyllgor,
‘Gweledigaeth Ysgrifennydd y Cabinet yw sefydlu corff arbenigol, annibynnol a all wneud penderfyniadau hynod bwysig mewn meysydd dadleuol heb unrhyw ddylanwad gwleidyddol. Mae’r weledigaeth honno’n un gref... Gobeithiwn y bydd ein hargymhellion yn rhoi sail i sefydlu’r Comisiwn yn ddiymdroi. Bydd y Comisiwn hwnnw—ar ôl i’r ddeddfwriaeth gael ei chryfhau—yn gallu sicrhau bod Cymru yn datblygu’r seilwaith hanfodol rydym i gyd yn dibynnu arno er mwyn creu cenedl ffyniannus yn yr unfed ganrif ar hugain.’
Fel y dywed Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb,
‘rydym wedi ymrwymo i sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru i ddarparu cyngor annibynnol ac arbenigol ar yr anghenion a’r blaenoriaethau o ran y seilwaith strategol’.
Felly, mae’n drueni fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dewis gwrthod argymhelliad y pwyllgor y dylai’r comisiwn gael ei sefydlu fel corff anstatudol ond gyda rhagdybiaeth glir y bydd deddfwriaeth yn dilyn i sicrhau bod y comisiwn yn dod yn gorff statudol annibynnol.
Fel y dywed ein hadroddiad,
‘Er bod y Pwyllgor yn credu mai’r ffordd orau o sicrhau annibyniaeth a hygrededd y Comisiwn yw rhoi sail statudol iddo, nid oes angen oedi cyn ei sefydlu drwy aros am ddeddfwriaeth.’
Ond fel y dywedodd y Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil wrth y pwyllgor, os yw’n rhan o’r Llywodraeth, nid wyf yn credu y byddwn yn cael yr hyn yr ydym ei angen ganddo. Rwy’n golygu hynny nid fel diwydiant, ond fel cenedl.
Roedd tystiolaeth gan gyrff seilwaith Awstralia yn pwysleisio pwysigrwydd cael eu sefydlu drwy ddeddfwriaeth. Dywedodd Infrastructure Australia wrthym fod y ffaith fod deddfwriaeth wedi cryfhau eu rôl fel corff ymgynghorol annibynnol, tryloyw ac arbenigol wedi eu galluogi i weithredu’n fwy effeithiol ac annibynnol. Dywedodd Infrastructure Victoria wrthym fod y rhesymau dros sefydlu corff annibynnol i gynghori ar seilwaith nid yn unig yn berthnasol i’w hamgylchiadau penodol hwy, ond i wledydd gwahanol, gan gynyddu hyder cymunedol mewn prosesau a chanlyniadau.
Er bod Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi ymrwymo i adolygu statws y comisiwn cyn etholiad nesaf y Cynulliad, daeth y pwyllgor i’r casgliad, er mwyn sicrhau ei ddylanwad a’i hygrededd ac i fynd i’r afael â’r canfyddiad nad yw comisiwn anstatudol yn ddigon parhaol, y byddai’n rhaid i’r corff fod yn gorff annibynnol, a chael ei ystyried yn gorff annibynnol.
Dylai Ysgrifennydd y Cabinet fod yn ymwybodol fod ymgyrchoedd lleol yn erbyn datblygiadau tai arfaethedig yn canolbwyntio’n gyffredinol ar amhriodoldeb honedig y safle arfaethedig ac annigonolrwydd seilwaith lleol megis ysgolion, meddygfeydd a chysylltiadau trafnidiaeth i gynnal poblogaeth fwy. Felly, mae’n drueni hefyd mai mewn egwyddor yn unig y derbyniodd argymhelliad y pwyllgor y dylid ymestyn cylch gwaith y comisiwn i gynnwys cyflenwi tir ar gyfer datblygiadau tai sy’n arwyddocaol yn strategol a seilwaith ategol cysylltiedig ochr yn ochr â’r seilwaith economaidd ac amgylcheddol. Golyga ei ddatganiad na fydd y mater yn cael ei ystyried nes yr adolygiad o’r comisiwn cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn fod Llywodraeth Cymru yn dilyn yn hytrach nag yn arwain yr agenda.
Yn eironig, mae llawlyfr Llywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun datblygu lleol, sy’n nodi’r meini prawf ar gyfer ystyried ceisiadau cynllunio lleol, yn cynnwys tai, mynediad, parcio, dylunio, seilwaith gwyrdd a thirlunio, ac yn cyfeirio at safleoedd i’w datblygu yn ogystal ag ardaloedd atal datblygu. Felly, byddai’n hollol anghyson pe na fyddai cylch gwaith y comisiwn yn cynnwys hyn. Mewn cyferbyniad, gwelir arfer da yn adroddiad Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ‘Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru’, sy’n nodi y bydd y gwaith o gyflawni’r weledigaeth yn cael ei integreiddio i mewn i gynlluniau ar gyfer cynllunio cymunedol cynaliadwy, ond er mwyn sicrhau economi fwy llwyddiannus a chytbwys, y bydd angen buddsoddiad hirdymor i fynd i’r afael â heriau hirdymor, gan gynnwys anghenion tai, ac y bydd yn rhaid i’r cynnig tai yng ngogledd Cymru, sy’n elfen allweddol o ran hybu twf, ymateb i newidiadau demograffig a diwallu anghenion tai ledled y rhanbarth. Mae hefyd yn nodi’r angen i fynd i’r afael â’r rhwystrau allweddol mewn perthynas â chyflenwi tai er mwyn sicrhau bod cyflenwad digonol o dir yn cael ei ddarparu ar gyfer datblygiadau eiddo preswyl i fodloni’r galw a’r angen a ragwelir, yn enwedig o ran ailddefnyddio safleoedd tir llwyd, ac i gynorthwyo gyda chostau sy’n gysylltiedig ag adfer safleoedd a galluogi seilwaith.
Wrth dderbyn, mewn egwyddor yn unig, argymhelliad y pwyllgor y dylid lleoli’r comisiwn y tu allan i Gaerdydd ac na ddylai rannu adeilad ag adrannau Llywodraeth Cymru, ond y dylai rannu adeilad gyda chorff cyhoeddus arall i leihau’r costau, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn iawn i nodi bod angen i’r comisiwn warchod ei annibyniaeth rhag nifer o ddylanwadau a chyrff, sef yr union bwynt a wnaed gan y pwyllgor. Fodd bynnag, nid yw ei ymateb yn cyfeirio o gwbl at leoli’r comisiwn y tu allan i Gaerdydd, ac felly gofynnaf iddo wneud sylwadau ar hyn yn ei ymateb heddiw.