Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 15 Mawrth 2017.
Rwy’n falch o allu siarad o blaid y cynnig hwn heddiw, ac fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, hoffwn ddiolch i’r Cadeirydd, y tîm clercio, Aelodau eraill a thystion am ymchwiliad diddorol iawn. Ar gyfer fy nghyfraniad heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar argymhelliad cyntaf yr adroddiad. Roedd y dystiolaeth a glywsom yn atgyfnerthu pa mor bwysig yw cynnwys tai a seilwaith ategol cysylltiedig yn adroddiad y comisiwn, ochr yn ochr â seilwaith economaidd ac amgylcheddol. Gwnaeth tystiolaeth Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, a’r Gymdeithas ar gyfer Ymgynghori a Pheirianneg achos cryf iawn a nodai fod angen i’n hymagwedd at dai fod yn gyfannol, ar gyfer Cymru gyfan ac wrth wraidd y ffordd y meddyliwn am seilwaith.
Croesawaf ymateb Ysgrifennydd y Cabinet y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y ffordd y defnyddiwn dir strategol yn ystod yr adolygiad o’r comisiwn yn y Cynulliad hwn. Ond hoffwn ychwanegu, pan fo tai’n cael eu datblygu, fod angen inni sicrhau hefyd fod y seilwaith ymylol yn iawn. Er enghraifft, rwy’n ymdrin â mater ar ystad dai a ddatblygwyd ychydig flynyddoedd yn ôl yng nghanol ardal drefol yn fy etholaeth. Dros yr holl amser hwn, nid yw’r trigolion wedi gallu cael band eang boddhaol. Er enghraifft, dywedodd un o’r trigolion wrthyf mai 0.3 cilobeit yr eiliad yn unig oedd cyflymder eu band eang. Y rheswm am hyn: nid yw’r ddarpariaeth seilwaith ar y safle erioed wedi’i gydgysylltu. Mae hyn yn effeithio ar eu gallu i weithio, i astudio, i gyfathrebu ac i ymlacio. Mae trigolion yn cael eu gorfodi i fynd i gostau diangen ac yn cael eu siomi nad yw’r disgwyliad o ran seilwaith ar ystad o dai newydd sbon yn cyrraedd y safon.
Ochr yn ochr â hyn, ystyriwyd seilwaith cymdeithasol gan y pwyllgor. Ni ddaethom i gytundeb y dylai cylch gwaith y comisiwn gynnwys pob agwedd ar hyn, ond rwy’n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi cofnodi yn ei ateb y bydd disgwyl i gomisiwn seilwaith cenedlaethol Cymru ystyried y rhyngweithio posibl rhwng ei argymhellion yn y dyfodol a’r seilwaith cymdeithasol. Yn gryno, hoffwn archwilio pam fod hyn mor bwysig, a pham mai dyma yw’r glud sy’n gallu dod â chymunedau lleol ynghyd a’u cryfhau, i ddyfynnu o ddogfen ar ystyried seilwaith ym mhorth Tafwys. Cafwyd tystiolaeth bwysig, a ddyfynnir yn ein hadroddiad, gan Ed Evans, o Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil Cymru. Dywedodd:
[fod] angen inni weld seilwaith yn ei gyfanrwydd, ac mae hynny’n cwmpasu ystyriaethau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.
Os na wnawn hyn, byddwn yn dadlau na fyddwn yn cydymffurfio â’r egwyddorion cynaliadwyedd sy’n sail i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Tynnodd Chwarae Teg sylw at y pwynt hwn hefyd, gan nodi bod y diffiniad o ddatblygu cynaliadwy yn y Ddeddf yn cydblethu agweddau cymdeithasol gydag agweddau economaidd ac amgylcheddol. Bydd cynnwys gofal plant, gofal cymdeithasol a chyfleusterau addysgol yn sicrhau y gall y comisiwn gyflawni ei rôl strategol yn effeithiol. Yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain, mae angen inni ystyried yr elfennau hyn o seilwaith cymdeithasol ochr yn ochr ag agweddau mwy traddodiadol ar seilwaith megis trafnidiaeth neu fand eang, gan y gallant bennu a yw pobl yn gallu cael mynediad at waith ai peidio, yn ogystal â sut a ble y gallant wneud hynny. Mae gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith yn elfennau allweddol o’r economi sylfaenol ac roeddwn yn falch o allu cyflwyno cynnig yr wythnos diwethaf gyda dau aelod arall o’r pwyllgor ar y mater hollbwysig hwn.
Mae darpariaeth gofal plant sy’n hyblyg yn un agwedd ar hyn. Mae fy etholaeth i ac eraill ledled y Cymoedd gogleddol yn cael eu gwasanaethu’n dda gan lu o ddarparwyr gofal plant, ac rydym yn gweld rhai arferion arloesol yn cael eu datblygu ar hyn o bryd, megis ysgol feithrin awyr agored gyntaf Cymru, a fydd yn agor ym Mharc Gwledig Cwm Dâr yn ystod yr haf. Bydd y rhwydwaith presennol o ddarpariaeth yn cael rhagor o ddefnydd wrth i bolisi gofal plant Llywodraeth Cymru gael ei roi ar waith, ac yn wir, efallai y bydd y galw am ofal plant yn fwy na’r cyflenwad. Yn ôl pob tebyg, bydd angen rhagor o ddarparwyr gofal plant i ddarparu’r seilwaith hanfodol hwn—seilwaith sydd â’r potensial i gynorthwyo trigolion i wella eu rhagolygon cyflogadwyedd, cynyddu eu hincwm gwario a hybu eu symudedd cymdeithasol.
Fy mhwynt olaf i gefnogi’r syniad o gynnwys seilwaith cymdeithasol yng nghylch gwaith y comisiwn yw’r ffaith mai dyma beth y mae’r enghreifftiau mwyaf uchelgeisiol ledled y byd eisoes yn ei wneud. Mae’r llywodraeth ffederal a llywodraethau’r taleithiau yn Awstralia yn edrych ar seilwaith economaidd a chymdeithasol. Mae cyrff seilwaith cenedlaethol Seland Newydd a Chanada hefyd yn cynnwys agweddau cymdeithasol yn eu cylchoedd gwaith. Ac ymddengys eu bod yn enghreifftiau da i ni eu dilyn.