Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 15 Mawrth 2017.
A gaf fi adleisio’r diolch y mae fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor eisoes wedi’i roi i staff Comisiwn y pwyllgor a phawb sydd wedi ymwneud â gwaith y pwyllgor? Credaf fod tystiolaeth ddefnyddiol iawn yn y trawsgrifiadau nad yw o bosibl wedi cyrraedd yr adroddiad, a byddai’n werth myfyrio arni.
Croesawaf ymateb Ysgrifennydd y Cabinet hefyd. Mae’n drueni nad oedd yn teimlo y gallai fynd ymhellach o ran tir ar gyfer tai ac mewn perthynas hefyd â chydnabod cyfeiriad statudol ar gyfer y comisiwn yn y pen draw, os mynnwch, ond rwyf hefyd yn derbyn y ffaith y bydd yn dychwelyd at y cwestiwn hwnnw yn ei adolygiad maes o law.
Rwyf am wneud sylwadau cryno ar dair agwedd ar waith y comisiwn a’i oblygiadau. Y cyntaf yw’r llinell amser 30 mlynedd y bwriada’r comisiwn weithio drosti. Clywsom, yn anecdotaidd mewn trafodaethau ac yn ffurfiol, pa mor bwysig oedd hynny i fuddsoddwyr ac i’r diwydiant yn gyffredinol o ran cynllunio adnoddau, cynllunio ariannol, ac yn wir, cynllunio sgiliau. Felly, croesawaf y ffrâm amser hir y bydd yn gweithio ynddi. Gŵyr unrhyw fusnes fod mwy o sicrwydd yn ystod y blynyddoedd cynnar na’r blynyddoedd canlynol, ond serch hynny, credaf fod gwelededd yn bwysig. Fe’i croesawaf hefyd gan fy mod yn credu y bydd, mewn gwirionedd, yn cynyddu’r posibilrwydd o gonsensws gwleidyddol mewn perthynas â rhai o’r prosiectau a fydd, yn anochel, yn cael eu cynnig. Mae cael sylfaen gadarn o dystiolaeth gyhoeddus dros amser, tystiolaeth a fydd ar gael i fyfyrio drosti a’i herio, yn sicr o arwain at gymaint o gyfle â phosibl i gyrraedd consensws gwleidyddol lle y bo hynny’n bosibl.
Fodd bynnag, byddwn yn deud nad yw llinell amser 30 mlynedd yn dasg hawdd. Nid oes 30 mlynedd wedi bod eto ers dyfeisio’r we fyd-eang, ac os gall unrhyw un ohonom feddwl am ddatblygiad mwy trawsnewidiol dros y degawdau diweddar—rwy’n sicr na allwn ni. Mae gwneud hynny’n dasg sylweddol, boed yn sector ynni adnewyddadwy ar y môr, o ran yr heriau sy’n ein hwynebu mewn perthynas â dosbarthu ynni, sut y byddwn yn pweru ein cerbydau, beth fydd ein porthladdoedd yn ei wneud, a sut y bydd y rhyngrwyd o bethau’n dod yn rhan annatod o’n bywyd bob dydd. Dychmygwch fyd lle y mae cysylltedd 10G yn gwbl hanfodol ym mhob rhan o Gymru ar gyfer darparu gofal iechyd yn y cartref, a allai fod yn arferol erbyn hynny. Mae sawl math o her na ellir ei dirnad ar hyn o bryd. Credaf, felly, ei bod yn bwysig fod gennym unigolion ar y comisiwn sy’n gallu meddwl yn greadigol, ac na chawn faddeuant am adeiladu seilwaith ddoe yfory. Ac o ystyried cyflymder newidiadau technolegol, nid yw’r cyfnod o 30 mlynedd erioed wedi bod yn hwy nag y mae heddiw.
Rwyf am siarad ychydig am gyfansoddiad ac ymagwedd at waith y comisiwn. Yn ogystal â’r unigolion creadigol a grybwyllais, bydd angen pobl ar y comisiwn hefyd sydd â phrofiad ymarferol o gyflawni: pobl â’r dychymyg i feddwl ymlaen. Gan adlewyrchu’r sylwadau a wnaeth Vikki Howells a siaradwyr eraill heddiw, er gwaethaf y ffaith nad yw seilwaith cymdeithasol yn rhan o’r cylch gwaith, credaf ei bod yn bwysig fod gennym bobl â dealltwriaeth o seilwaith cymdeithasol ar y comisiwn, gan fod deall y rhyng-gysylltiad rhwng seilwaith economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol yn hanfodol, hyd yn oed os nad yw hynny’n rhan ffurfiol o’i weithgaredd.
Mentraf ddweud hefyd nad wyf yn credu mai dyma’r amser ar gyfer y wynebau cyfarwydd yn unig. Dylem fod yn feiddgar a dylem geisio dod o hyd i’r bobl orau sydd ar gael, ni waeth o ble y dônt. Yn bersonol, hoffwn weld profiad o seilwaith rhyngwladol ar y comisiwn ei hun. Rwy’n digwydd meddwl fod ansawdd y bobl y gallwn eu denu i’r comisiwn yn cyfateb yn agos iawn i’w hyder yn annibyniaeth y corff. Beth bynnag y bo’r strwythur ffurfiol, gobeithiaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn myfyrio ar hynny yn nhrefniadau’r comisiwn yn gyffredinol. Credaf ei bod yn hollol hanfodol fod gan aelodau’r comisiwn hyder llwyr yn ei annibyniaeth.
Mae’r trydydd pwynt yr hoffwn ei wneud yn ymwneud â’i rôl fel partner her. Nid yw’n gorff cyflawni: mae’n gorff ymgynghorol ac mae’n bodoli er mwyn cynghori Llywodraeth Cymru yn bennaf, ac i fod yn bartner her i Lywodraeth Cymru yn hynny o beth. Ond gobeithiaf hefyd y bydd cyrff cyhoeddus eraill sydd â diddordeb a chyfrifoldeb dros seilwaith yn ymgymryd yn yr un modd â gwaith y comisiwn, ac y gall fod o ddefnydd wrth herio rhai o’r rhagdybiaethau yn ein hawdurdodau lleol, y GIG a’n dinas-ranbarthau. Gobeithiaf y bydd y cyrff hynny’n ei groesawu. Nid oes gan unrhyw gorff cyhoeddus fonopoli ar ddoethineb, ac yn sicr nid dros linell amser 30 mlynedd. Ar yr amod ei bod yn her resymol, credaf y byddai’n gyfraniad defnyddiol i fywyd economaidd Cymru, a gobeithiaf y bydd cyrff cyhoeddus eraill yn ymgysylltu yn yr un ffordd ag y mae Llywodraeth Cymru wedi addo ei wneud.